|
|
Cadeirio
M贸nica
ym Mhatagonia
Cyhoeddi cerdd Cadair y Wladfa yn Llais Llên
Dydd Iau, Hydref 25, 2001
|
Fel ag yng Nghymru ychydig fisoedd yn 么l merch oedd bardd cadeiriol
Eisteddfod y Wladfa ym Mhatagonia eleni.
Ond
er nad ydi gweld merch yn cael ei chadeirio yn beth anghyffredin yn
y Wladfa dyma鈥檙 tro cyntaf i M贸nica Jones de Jones gael yr anrhydedd.
Yn ferch o鈥檙 Wladfa treuliodd Monica gyfnod yn byw yng Nghymru ac
y mae鈥檔 briod â brodor o Ddyffryn Conwy, Gwyn Jones, sydd, gyda
M贸nica, yn cadw Gwesty Tywi ar Stryd Michael D. Jones yn y Gaiman.
Y mae hi鈥檔 ddisgynnydd o鈥檙 gwladfawyr cynnar.
Y mae gan Monica ferch yn ei harddegau, Geraldine, sydd hefyd yn barddoni,
a chanddi hi a Gwyn fab pedair oed, Macsen, sy鈥檔 cael ei fagu yn siarad
Cymraeg.
Cerdd fer yn adlewyrchu menter herfeiddiol yr arloeswyr cynnar yw
鈥榬 un a enillodd y Gadair i M贸nica ac yn arwydd o鈥檌 hymlyniad angerddol
hi i鈥檞 gwreiddiau Cymreig.
Yr oedd dathlu nid yn unig yn y Gaiman yn dilyn buddugoliaeth Monica
yn Eisteddfod y Wladfa dros y Sul ond yng Nghymru hefyd gan fod nifer
o ymwelwyr 芒鈥檙 Wladfa wedi aros yng Ngwesty Tywi.
Yn wir, ar furiau鈥檙 gwesty y mae cerddi gan Twm Morys ac Iwan Llwyd.
Dyma鈥檙 gerdd fuddugol:
Breuddwydion Rhyddid
Cyffro yn y mynyddoedd.
Distawrwydd crynedig
yn yr anialwch.
A llais o'r m么r
yn uno breuddwydion rhyddid.
Ceffylau yn carlamu
i Fod Iwan.*
Atsain y copaon
yn rhagfynegi'r ffarw茅l,
yn llifo`n nant o ddagrau
i lenwi'r llynnoedd.
Yn disgwyl -
llais Camwy
yn ymddolennu'r wyrth.
Dirnad y tafodau dieithr
mae hen greigiau'r bwthyn.
Ff谩rwel i leisiau'r rhieni,
a breuddwyd y dyfodol dilyffethair
a chynhaeaf yr hau
yn llenwi'r g芒n 芒 gobaith.
A suo canu'r mamau
yn ffarwelio am byth
芒'u hannwyl blant.
Dwylo yn wylo
驳飞别诲诲茂辞
bloeddio
canmol
cysuro..
Fel colomennod mewn hediad dirgel;
cryfder yr enaid yn codi'r gobaith
a llais Abraham**
yn anialwch y paith.
Dyrnaid o'r hil Geltaidd
yn glanio yng ngwlad yr addewid!
*Bod Iwan:Cartref y Parchedig Michael D. Jones (Arweinydd y Wladfa),
yn
y Bala.
** Abraham Mathews oedd un o bregethwr cyntaf y Gwladfawyr.
|
|
|