|
|
Merthyr
dan chwyddwydr
Cyfrol ddiweddaraf Cyfres y Cymoedd yn trafod Cwm Taf
yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dydd Iau, Tachwedd 1, 2001
|
Merthyr a Thaf, golygydd Hywel Teifi Edwards. Gwasg Gomer,
pris £14.95.
Adolygiad Gwyn Griffiths
Fel yr awgryma Grahame Davies yn ei erthygl Adennill Tir
yn y gyfrol Merthyr a Thaf, gwnaeth ardaloedd diwydiannol Cymru
gyfraniad pwysig i barhad yr iaith Gymraeg cyhyd.
Mae'r economegydd Brinley Thomas yn cynnig y ddadl hon hefyd a bu
cyfeiriadau ati gan Gwyn Alf Williams a Saunders Lewis yn Tynged
yr Iaith yn ogystal.
Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon yng Nghyfres y Cymoedd yn dyst
arall i fywiogrwydd ac asbri'r bywyd diwylliannol Cymraeg yng Nghwm
Taf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn arbennig er bod yma gryn oroesi
i'r ugeinfed ganrif.
O Ddowlais a Merthyr i Gaerdydd
Mae ystod y cyfraniadau yn ymestyn o ben Dowlais a Merthyr i Gaerdydd.
Wn i ddim a oedd hyn yn fwriad gan y golygydd ond mae nifer y cyfraniadau
yn adlewyrchu maint a phwysigrwydd y ddeule yn y ganrif o'r blaen.
O ben ucha'r cwm y daw rhan helaethaf y cyfraniadau.
Ceir wyth cyfraniad o ardaloedd Merthyr a Dowlais - dwbwl yr hyn sy'n
ymwneud â Chaerdydd. Fel arfer mae Pontypridd - brenhines y bryniau
- yn cael ei hesgeuluso gydag ond dau gyfraniad.
O'r pen uchaf, ar y cyfan, y daw'r cyfraniadau mwyaf difyr, hefyd.
Ceir traethawd ardderchog gan E. G. Millward - Tref y Brodyr Rhagorol
- am fwrlwm gweithgarwch barddol a diwylliannol Merthyr a'r cylch.
Diddorol canfod nad oedd fawr o radicaliaeth sosialaidd yng nghyfansoddiadau'r
beirdd er eu bod yn ymateb i'r gweithfeydd a'r bywyd newydd. Rhai'n
canmol Crawshay a Guest a'r criw - eraill yn gweld y lle fel uffern
fflamgoch. Beirdd yn yfed llwncdestun i'r Goron tra'n cynnal traddodiadau
Cerdd Dafod a Cherdd Dant.
Nid nad oedd yna radicaliaid ym mhlith y llu mewnfudwyr o gefn gwlad
y gorllewin a'r gogledd. Gwelir hynny ym mhennod Brynley Roberts,
Mab ei Dad - Taliesin ab Iolo Morganwg.
Da gweld cynifer o gyfeiriadau at y fferyllydd a'r hanesydd Thomas
Stephens, gyda llaw, un arall o wyr disglair Merthyr y tueddir ei
anghofio a'i wfftio bellach am mai un o'r amaturiaid brwd oedd e.
Lle am haneswyr
Am le am haneswyr, hefyd. Mwynhad o'r mwyaf oedd darllen cyfraniad
Geraint H. Jenkins, Dau Fachan Bêch o Ddowlish - Glanmor Williams
a Gwyn Alfred Williams. Dau gymeriad mor wahanol. Glanmor y mab i
löwr a fagwyd ar aelwyd Gymraeg, yr hanesydd cytbwys gofalus, y democrat
cymdeithasol.
Gwyn o deulu breintiedig, di-Gymraeg, Marcsydd tanbaid yr oedd niwtraliaeth
yn anathema iddo. A pham lai - bu gan haneswyr Lloegr erioed eu hagenda
fel y dangosodd Brian Davies, ei hun yn un o fyfyrwyr disglair Gwyn
yng Nghaer Efrog, yn Archaelology and Ideology (New Welsh
Review, Haf 1997).
Clywais ddweud mai yng Nghaer Efrog, yng nghyfnod Gwyn yr oedd yr
Adran Hanes Cymru orau yn y byd! Daeth yn ôl i Gymru ac i Gadair Hanes
Caerdydd, yn olynydd i Chrimes, Sais rhonc dirmygus o Hanes Cymru.
Ond ni lwyddodd i newid yr Adran - mae'r byd academaidd yn fynych
yn rhyfeddol adweithiol a styfnig.
O leiaf fe gydnabu byd y cyfryngau fod y gwr a daniodd genedlaethau
o fyfyrwyr hefyd yn medru swyno cynulleidfaoedd llawer mwy y teledu.
Cafodd fodd i fyw.
Mae traethawd Geraint Jenkins yn bortread o ardal a'i dylanwadau yn
gymaint â phortread o ddau dywysog o fyd hanes.
Un arall o ysgolheigion Dowlais oedd Dyfnallt Morgan, bardd Coron
Llangefni 1957. Ond gwr a gefnodd ar ei fro er mwyn byw ei fywyd yn
y fro Gymraeg. Fel llawer o Gymry'r "gwithe" roedd ganddo gysylltiadau
cryf â'r wlad - Llanddewi Brefi yn ei achos e.
Dadansoddiad gwerthfawr
Yn y gyfrol ceir dadansoddiad gwerthfawr gan Heini Gruffudd o bryddest
anfuddugol Dyfnallt Morgan, Y Llen. Cerdd yr oedd Saunders Lewis am
ei gwobrwyo tra 'roedd T. H. Parry-Williams a J. M. Edwards am goroni
ymgais Dilys Cadwaladr.
Ar adeg pan ceir cymaint o drafod a chamfarnu Saunders Lewis - pastwn
hwylus i labyddio cenedlaetholdeb - mae'r ffaith ei fod am goroni
pryddest Dyfnallt Morgan yn awgrymu fod angen edrych eto ar agweddau
Saunders Lewis at y deau diwydiannol. Ceir awgrym i'r un perwyl gan
E. Wyn James ar dudalen 124.
Roedd yn ysgytwad darllen yn nhraethawd Heini Gruffudd na chafodd
Dyfnallt Morgan yn Ysgol Ramadeg Cyfarthfa "gymaint ag un wers ar
hanes Merthyr a'r dref honno mor ganolog o ran datblygiadau diwydiannol
a gwleidyddiaeth."
Hanes un arall (eto) o wyr dawnus Dowlais yw cyfraniad clodwiw Rhidian
Griffiths, 'Arweinydd trwy ras Duw' - Harry Evans (1873-1914). Cerddor
y tro hwn - a chyfle i osod traddodiadau cerdd y fro yn eu cyd-destun.
Nid nad oedd Harry Evans yn wr pur feirniadol o'i gyd-Gymry a'u hymdrechion
ym maes y canu corawl.
Cyfraniadau difyr
Difyr iawn yw cyfraniadau E. Wyn James - Golwg ar rai o Gerddi a Baledi
Cymraeg Troed-y-rhiw - ac arolwg Huw Walters o Feirdd a Phrydyddion
Pontypridd a'r Cylch yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Mae pennod
Mr Walters yn arbennig o afieithus.
Yr oedd yn yr ardal feirdd a chymeriadau egsentrig y tu hwnt, ac mae
eu cecru a'u helyntion a'r ffraethineb yn hwyliog dros ben.
Ceir cymysgfa digon derbyniol o hanes lleol, atgofion personol a theuluol
gan Meic Stephens yn ei bennod Pontypridd: Tref heb Hanes ond Yfflon
o Orffennol. Rwy'n amau a wna gyfiawnder â Francis Crawshay - "dyn
diog, afradlon ac analluog" - ac yn sicr fe haedda William Price rywbeth
gwell nac ambell gyfeiriad hwnt ac yma.
Mewn cyfrol Gymraeg fel hon yr oedd cyfle i roi i William Price ei
haeddiant. Gwelais yn ddiweddar raglen deledu amdano ar S4C gyda thri
seiciatrydd oedd yn dangos anwybodaeth dost. Nid am seiciatryddiaeth,
ond am Price.
Anwybyddu athrylith
Tebyg fod ei dderwyddiaeth garlamus wedi ei wneud yn bwnc rhy astrus
i orseddogion parchus ein hoes ni. Dydy hynny ddim yn esgus dros anwybyddu
ei athrylith na'i gyfraniad mewn meysydd eraill. Na'r rheswm dros
ei gyfeillgarwch gyda Crawshay.
A dyna ni wedi cyrraedd Caerdydd, gyda chwta sôn am Price a'r un cyfeiriad
at Daniel Lleufer Thomas.
Mae Y Ddelwedd Gymreig Ddinesig yng Nghaerdydd c. 1885 - 1939 gan
yr Athro J. Gwynfor Jones yn draethawd gwybodus, cyforiog o ffeithiau
ac enwau a chymdeithasau Cymraeg.
Fel pennod Hywel Teifi Edwards ar Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr
Tudful 1881 ac 1901 dyma lond cambo o wybodaeth. Gwych iawn os ydych
chi'n mwynhau'r math yma o beth.
Y capel a bywyd y dociau
Mwy difyr yw cyfraniad Dafydd Lloyd Hughes, Caerdydd: a Welais, a
Glywais ac a Gofiais. Ysgrif sy'n mynd â ni o'r capel i'r caeau criced
a berw bywyd y dociau.
Hoffais ei ddamcaniaeth mai dylanwad y Wenhwyseg yw'r acen Saesneg
Cairdiffaidd. Mae'n cofio hen Gymraes oedd yn cadw siop losin ac yn
dweud Cerdidd.
Diddorol i Gardi oedd ei gyfeiriad at Syr John Rowland o Dregaron,
pennaeth Bwrdd Iechyd Cymru, oedd yn hoff o benodi gwyr a merched
o Geredigion, ac yn arbennig o Dregaron, i weithio'n ei staff.
Yn ôl Dafydd Lloyd Hughes enw answyddogol adeilad y Bwrdd Iechyd -
cartref y Swyddfa Gymreig bellach - oedd "Tregaron House"!
Dywedodd D. J. Williams Abergwaun wrthyf un tro mai bryd hynny y bathwyd
y dywediad bachog, "Gwyn eu Byd y Tregaroniaid …"
Dadansoddiad gwerthfawr
Diddorol a gwerthfawr yw dadansoddiad yr Athro M. Wynn Thomas, o farddoniaeth
Alun Llywelyn-Williams, Caethiwed Branwen. Pennod hawdd i'w darllen
ar thema eitha cymhleth.
Dylswn gyfeirio, hefyd, at gyfraniad Prys Morgan, Hon ydyw'r Afon,
ond nid Hwn yw'r Dwr: Plentyndod ar Lannau Taf. Ysgrif annwyl am fagwraeth
yn Radyr a Chaerdydd.
Diolch iddo am ein hatgoffa mai Pentre-poeth yw'r enw Cymraeg am Morganstown
- nid yr erthyl Treforgan fel y gwelodd rhywun yn dda i'w gyfieithu
yn ein hoes bi-ling ni.
Dyma gyfrol sy'n mynd â ni o ysgolheictod i'r personol, o'r difyr
i'r difrifol. Bron bob erthygl ynddo yn werth y pris.
|
|
|