|
|
Barddoniaeth
emosiynol a chyfoes
Cagliad cyntaf y bardd a'r dramodydd Patrick Jones.
Dydd Iau, Tachwedd 1, 2001
|
Fuse. Casgliad o waith Patrick Jones.
Adolygiad Lewis Roderick
Dwi'n cofio'r eiliad yn berffaith. Mae'n hollol glir yn fy
mhen.
Mis Mehefin, 1999, diwrnod agor ein Cynulliad Cenedlaethol. O flaen
torf o filoedd, a chynulleidfa o dros filiwn ar y teledu, cerddodd
Ioan Gruffudd, Mathew Rhys a chriw o actorion ifanc Cymraeg eraill
ar lwyfan yng nghanol Bae Caerdydd ac i gyfeiliant aflonydd y Manic
Street Preachers, gweiddi: 'We are, we are, the guerilla tapestry',
geiriau bythgofiadwy'r bardd Patrick Jones.
Distawrwydd llwyr
Dwi'n cofio'r distawrwydd llwyr ar 么l iddynt orffen, fel petai pob
unigolyn yn y gynulleidfa yn aros i rywun arall dorri'r tawelwch.
Mor gyfareddol oedd yr amrantiad.
I'r mwyafrif, hwn oedd eu profiad cyntaf o waith Patrick Jones, dyn
sydd wedi treulio rhan fawr o'i fywyd yn ysgrifennu barddoniaeth i
ni'r Cymry cyfoes.
Nid barddoniaeth sy'n deyrnged i brydferthwch natur, neu'n atgof o
ryw hen ffermdy, ond barddoniaeth sydd 芒'r nerth i sefydlu ei hun
yng nghanol ymwybyddiaeth pobl 'real'.
Pobl real sydd yn cael eu heffeithio gan gancr a diweithdra, Kosovo
a chyffuriau.
Hiraeth: land of my father what have we done to you
Fuse yw'r casgliad cyntaf o waith Patrick Jones. Dyma ddetholiad
o'i farddoniaeth, a'r tro cyntaf i'w ddwy ddrama, Everything Must
Go ac Unprotected Sex ymddangos yn yr un llyfr.
Gwaith trawiadol
Pan berfformiwyd y ddwy ddrama, cyfeiriodd nifer at ei bwysigrwydd
ac mewn un adolygiad dywedwyd: 'mae gwaith Patrick Jones yn ddigon
trawiadol i allu gwneud i'r theatr Gymraeg yr hyn a wnaeth y Manics
a Catatonia i gerddoriaeth.'
Mae hyn yn ddigon gwir achos mae gan Jones ddawn i siarad 芒 ni.
Ond hefyd, mae'n treiddio i'r isymwybod. Er bod ei waith ar adegau
yn anodd gyda'i ddelweddau arswydus ni all neb wadu nad yw gwaith
Jones yn ffyddlon i'r byd cyfoes.
Dangos ei emosiynau
Does dim ofn ar Patrick Jones i ddangos ei emosiynau gan arddangos
ei deimladau mwyaf personol dro ar 么l tro. Diferion o emosiwn sydd
芒'r angerdd i ail-anheddu'r hunan yng nghanol enaid y darllenwr.
Mae gan Patrick Jones y gallu i drefnu ei fyd a thrwy hynny wneud
synnwyr o'n byd ni.
Fel cyflwyniad i waith Patrick Jones, does dim byd yn well na'r gyfrol
hon. Casgliad o dros 40 o'i gerddi pwysicaf, a
dwy ddrama a fydd, mae'n siwr, yn cael eu hystyried fel linchpin
dram芒u Cymraeg.
Fuse yw'r llawlyfr i'r byd anhrefnus.
|
|
|