|
|
O'r
Tuduriaid i'r rhyngrwyd
Cyfrol barchus a diddorol yn adrodd hanes y Cymry yn Llundain.
Dydd Iau, Tachwedd 22, 2001
|
The Welsh in London: 1500 - 2000 cyhoeddiad ar y cyd
gan Wasg Prifysgol Cymru ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion,
pris 拢20 (clawr caled), 拢14.99 (clawr meddal).
Adolygiad Gwyn Griffiths
Er gwaetha'r astudiaethau a'r diddordeb yn y grwpiau ethnig a ymsefydlodd
yn Llundain yn ystod yr ugeinfed ganrif ni roddwyd fawr o sylw i'r
grwp ethnig hynaf i gyd a ddaeth i'r ddinas ac a fu'n byw ynddi -
y Cymry.
Ni wn faint o sylw a rydd y sefydliadau Saesneg i The Welsh in
London: 1500 - 2000 a olygwyd - ac a 'sgrifennwyd gan fwyaf -
gan Emrys Jones. Yn sicr mae'n haeddu eu sylw. Ond i'r Cymry y mae'n
gyfrol ddifyr, darllenadwy, er ei hysgolheictod.
Bellach dywedir mai 80,000 o boblogaeth Llundain a aned yng Nghymru
- sy'n nifer bychan o'i gymharu 芒'r niferoedd o India'r Gorllewin,
India ac Affrica.
Ysgrifennodd R. T. Jenkins hanes Cymdeithas y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion
a Chymdeithasau'r Cymreigyddion rhwng 1751 a 1951. A dyna'r unig waith
cyffelyb i'r gyfrol hon a gawsom, heblaw am draethawd buddugol Bob
Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947 nas cyhoeddwyd.
Ymdoddi i'r gymdeithas
Roedd y Cymry'n ymdoddi i'r gymdeithas, nid oedd eu harwahanrwydd
yn amlwg, ac eto - bron yn ddirgel - roedden nhw'n cynnal eu harwahanrwydd.
Rhai ohonyn nhw'n parhau'n Gymry drwy sawl cenhedlaeth.
Dyna Syr John Cecil-Williams, fu'n Ysgrifennydd y Cymmrodorion, oedd
yn Gymro Cymraeg o'r drydedd genhedlaeth yn Llundain, ei Gymreictod
wedi ei gynnal ar yr aelwyd, y capel ac ar ymweliadau 芒 bro ei gyndadau
yng Ngherrigydrudion.
Mae'r gyfrol yn cychwyn gyda phennod am y cyfnod Tuduraidd pan ddaeth
nifer sylweddol o Gymry i Lundain i Lys Harri VII.
Cyfnod lliwgar oedd oes y porthmyn a'r merched, "merched y gerddi",
oedd yn dod gyda nhw i weithio yn y gerddi llysiau o gwmpas Llundain
mewn cyfnodau o dlodi mawr yn Sir Aberteifi. Nodir fod llawer ohonyn
nhw o ardal Tregaron.
Pobol yn mynd a dwad
Pobol yn mynd a dwad oedd y rheini fel llawer o'r Cymry proffesiynol,
hefyd, y cyfreithwyr a'r meddygon a'r gwleidyddion a arferent ddod
i Lundain.
Yn dilyn traddodiad y porthmyn daeth y siopwyr, siopau dillad a siopau
bach gyda "w芒c la'th" yn gysylltiedig 芒 nhw. Mae yma ambell j么c dda
- amheuthun mewn cyfrol ysgolheigaidd.
Dyna'r cyfeiriad at Hugh Myddleton, â'i wreiddiau yn Nyffryn
Clwyd, yn dod 芒 dwr gl芒n i bobol Llundain a'r Cardis yn dod wedyn
a rhoi ychydig o laeth arno!
Mae yma lwyth o wybodaeth ddiddorol, pwyntiau bach sy'n cosi chwilfrydedd.
Dyna Ysgol Elusennol Gymreig Clerkenwell Green - Llyfrgell Karl Marx
bellach - oedd yn derbyn plant i dad neu fam a aned "yng Nghymru,
Mynwy neu ym mhlwyfi Croesoswallt, Selatyn neu Lanymynach yn Sir Amwythig".
Mae hyn yn rhoi syniad go dda o'r ffin ieithyddol yn 1717.
Gwlad yn llifeirio o laeth
Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Llundain yn cael
ei gweld fel gwlad yn llifeirio o laeth - os nad o f锚l.
Daeth y gwerthwyr llaeth yn amlwg ym mywyd pob dydd Llundain ac yn
asgwrn cefn y capeli Cymraeg niferus. Diddorol i flaenoriaid Jewin
unwaith fygwth gwrthod bedyddio plant y gwerthwyr llaeth am fod eu
rhieni'n gweithio ar y Sul!
O blith y gwerthwyr llaeth y daeth ambell Gymro a fachodd gyfle i
ehangu i borfeydd eraill a gwneud ffortiwn. Un ohonyn nhw oedd y miliwnydd
Syr David James, yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid, a ehangodd i fyd
y sinem芒u.
Cyfeirir at Evan Evans o Langeitho a sefydlodd gwmni bysus ac a fu'n
faer St Pancreas. Yr wyf bron iawn yn siwr, er na ddywedir hynny yn
y llyfr, mai ef oedd y cyntaf i drefnu teithiau i dwristiaid o gwmpas
Llundain.
Esgus am sgwrs yn y Gymraeg
Rwy'n cofio ewythr yn mynd 芒 mi i'w garej ar fore Sadwrn ddechrau'r
60au a chyfarfod yr hen batriarch yn ei het silc a'i got 芒 chwt ac
wrth ei fodd yn cael esgus am sgwrs yn Gymraeg. Daeth i Lundain yn
fachgen ifanc prin iawn ei Saesneg.
Ceir yn y gyfrol gyfeiriad difyr at hysbyseb ganddo yn Y Ddolen
yn 1933 yn cynnig taith mewn awyren o Lundain i sioe Llangeitho. Pris
拢5 gan gynnwys pryd o fwyd!
Mewn oes pan fo cyhuddiadau o hiliaeth yn gyffredin iawn, yr oedd
y Cymry yn Llundain a'r Saeson yn ddigon cyfeillgar, er gwaethaf ambell
gyfeiriad dilornus oddi ar lwyfan y theatrau.
Y Cymry'n dringo i'r swyddi brasaf
Daeth gwrth-Gymreictod i'r brig yng nghyfnod Lloyd George gyda chyfrol
T. W. H. Crosland Taffy was a Welshman. Honnai y byddai'r Cymry'n
dringo i'r swyddi brasaf ar gorn y Saeson.
Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel llifodd y Cymry i Lundain yng nghyfnod
y dirwasgiad a gwelwyd llif arall wedi'r Ail Ryfel pan heidiodd pobl
ifanc yn eu degau o filoedd i fod yn athrawon yn Llundain. Heb s么n
am gantorion - dyna'r adeg y llysenwyd Sadler's Wells yn Sadler's
Welsh.
Ceir cyfraniad gan Hafina Clwyd sy'n s么n am y cyfnod yma ac am lenorion
fel Caradog Prichard, Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones.
Mae'n gyfrol sy'n ein tywys o Oes y Tuduriaid i oes SWS a chysylltiadau
rhyngrwyd, o Evan Evans y Prydydd Hir i Evan Evans Tours.
Ysgrifennwyd y rhan helaethaf o'r gyfrol gan yr Athro Emeritws Emrys
Jones, cyn-Athro Daearyddiaeth y London School of Economics
a Llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Cyfraniadau swmpus
O blith y gweddill ceir cyfraniadau swmpus iawn gan W. P. Griffith
ar gyfnod y Tuduriaid a Rhidian Griffiths - pennod ardderchog iawn
- ar gapeli Cymraeg Llundain. Bu'r capeli'n llawer mwy na mannau i
grefydda ynddyn nhw.
Bellach, arafodd y llif i Lundain. Daeth Caerdydd yn dynfa i'r ifanc.
Peidiodd Llundain 芒 bod yn gynheiliad cynifer o sefydliadau Cymreig.
Un arwydd o'r dirywiad yw'r modd y collodd Clwb Rygbi y Cymry yn Llundain
lawer o'i hen fri. Yn 1971 yr oedd saith o chwaraewyr y clwb ar daith
Y Llewod enwocaf i gyd, gan gynnwys y capten John Dawes.
Bellach pan yw chwaraewr rygbi o Gymro yn cyrraedd gorsaf Paddington
mae'n debycach o fod ar ei ffordd i ymuno 芒'r Saracens, Wasps neu'r
Harlequins na'r Cymry yn Llundain.
Osgoi cyfeirio at ferched lliwgar
Llwyddwyd i osgoi cyfeirio at ambell ferch "liwgar" gyda chysylltiadau
Cymreig - Nell Gwyn, Mary Davies a Lucy Walter. Y tair yn gariadon
i Charles II.
Parchus ac ysgolheigaidd neu beidio, dyma gyfrol neilltuol o ddifyr
a diddorol.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn? Ebostiwch
ni.
|
|
|