|
|
Trydedd
nofel Pam Fi Duw?
Cysgod helynt yr awdur dros y gwaith
Dydd Iau, Rhagfyr 06, 2001
|
Pam Ni Duw? gan John Owen.
Lolfa. £6.95.
Adolygiad gan Glyn Evans
Nid
oes amheuaeth, ni fydd pobl yn darllen y gyfrol hon yn yr un ffordd
a phe byddai wedi ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl.
Bydd yn cael ei darllen mewn ffordd wahanol i’r ffordd y darllenwyd
y ddwy gyfrol gyntaf yn y gyfres, Pam Fi, Duw?, Pam Fi a
Pam Fi ETO, Duw? - dwy gyfrol a enillodd wobrau Tir na n-Og i’r
cyn athro o Ysgol Rhydfelen.
Cyhuddiadau difrifol
Yr oedd hynny cyn i gyhuddiadau difrifol yn erbyn John Owen fod yn
destun trafod cyhoeddus; cyn yr achos llys a fwriadwyd a chyn darganfod
corff yr awdur mewn carafan ym Mhorthcawl.
Y mae’n ymddangos fod hanes yr awdur ei hun yn fwy dyrys nag unrhyw
beth a roddodd ar bapur.
Gyda’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud ag ymyrryd â phlant ysgol
bydd yn amhosib darllen y gyfrol hon fel llyfr arferol.
Bydd gwybod hyn yn siwr o liwio ymateb rhywun i rai pethau yn y llyfr
gan y bydd yn amhosib ymwrthod a’r demtasiwn i chwilio yn y gwaith
llenyddol am arwyddion a fyddai’n atgyfnerthu’r cyhuddiadau difrifol
a wnaed yn ei erbyn.
Bydd yn amhosib ysgaru’r cyhuddiadau a’r llyfr.
Baeddwyd y dwr i’r fath raddau y penderfynodd S4C ohirio dangos cyfres
deledu. Penderfynodd Y Lolfa beidio a dilyn yr un trywydd gyda’r nofel.
Gallai hynny fod yn benderfyniad masnachol buddiol ac yn fodd i ddenu
darllenwyr na fyddent fel rheol am ddarllen y llyfr.
Ydio'n benderfyniad call sy'n beth arall.
Canmol yr awdur
Prin gyfeirio at y busnes arall y mae’r gyfrol. Mewn bywgraffiad o’r
awdur ar y clawr ni ddywedir ei fod yn farw hyd yn oed.
Mewn cyflwyniad y cyfan a ddywedir yw: "Bu farw John Owen dan amgylchiadau
trasig rai wythnosau cyn cyhoeddi’r nofel hon, ei nofel olaf" heb
egluro beth oedd yr "amgylchiadau" hynny.
Mae’r cyhoeddwyr yn mynd rhagddynt wedyn i ganu clodydd eu hawdur:
"Nid yw athrylith yn ormodiaith i ddisgrifio afiaith creadigol ei
waith, a’i ddawn i ysbrydoli cenedlaethau o blant mewn dosbarth ac
ar lwyfan. Trafododd bynciau fel na wnaeth yr un awdur arall. Gwthiodd
ffiniau’r iaith Gymraeg i’r eithaf gan gythruddo llawer, ond cariad
a pharch at yr iaith a’i taniodd, ac ysfa i’w throsglwyddo i genedlaethau
newydd yng nghymoedd y De," meddan nhw.
Gall y bydd rhywun yn tagu ar y geiriau yna maes o law.
Ddim yn fusnes adolygydd?
Byddai rhai yn dadlau nad oes a wnelo adolygydd â’r straeon am yr
awdur a’r chyhuddiadau hyll y disgwylid iddo eu hwynebu mewn llys
ond, mewn gwirionedd, gan eu bod yn ymwneud â phlant a’r llyfr hefyd
yn bennaf ar gyfer plant byddai'n rhaid bod yn fwy na meidrol i fedru
anghofio amdanyn nhw.
Yn anorfod, bydd darllenwyr yn dod i gasgliadau cam neu gymwys wrtth
ddarllen rhai pethau yn y llyfr - yn enwedig gyfeiriadau rhywiol mynych
- ac yn synfyfyrio a oes arwyddocad dyfnach, hyllach, i’r hyn a sgrifennwyd.
Dyddiaduron dau blentyn
Nofel ar ffurf dyddiaduron ydi Pam Ni Duw? - un yn cael ei
gadw gan Idris a’r llall gan Sara, merch bymtheg oed yn yr un ysgol
ag ef, Ysgol Glynrhedyn yn Y Rhondda.
Dydi hi ddim yn gyfrol hawdd ei darllen - fel rhai eraill Pam Fi
Duw? mae'n debyg - i’r sawl sy’n anghyfarwydd a’r dafodiaith -
tafodiaith sydd wedi ei galw yn Rydfeleneg ar ôl yr ysgol lle bu John
Owen yn athro.
Yn nwylo’r awdur, dydi hi ddim yn arddull lefn mewn print. Yn un haws
gwrando arni na’i darllen.
Mae’r gyfrol yn frith o ymson rhywiol gyda’r iaith yn fras ac yn amrwd
ar adegau a hynny, byddai’r awdur yn dadlau, oherwydd mai fel yna
y mae disgyblion ysgolion uwchradd yn siarad ac yn ymddwyn.
Y mae sawl cyfeiriad amrwd at aelodau rhywiol bechgyn sy'n cael eu
disgrifio fel Mr Spam Javelin, polyn telegraff ac fel
braich babi yn dala orange er enghraifft.
Daw obsesiwn pobl ifainc - beth bynnag am yr awdur ei hun - ynglyn
â rhyw yn amlwg yn fuan iawn a’u tuedd i siarad yn gignoeth a bras.
Er yn barod i dderbyn mai fel hyn y mae pobl ifainc yn ymddwyn ni
ellir peidio a sylwi ar y prinder tynerwch sydd yna wrth drafod rhyw.
Offeryn chwant nid cardiad ydi o.
Bod yn feiddgar
Yng ngwaith awdur iau byddai rhywun yn gweld hyn fel ymdrech i fod
yn feiddgar - i siocio. Sgrôtym ydi llysenw un o’r cymeriadau.
Dyma ran o’r "gwthio ffiniau" y mae cefnogwyr John Owen yn cyfeirio
ato mae’n debyg.
Byddai eraill yn ei gyhuddo o fod yn lled-bornograffig.
Fflachiadau o hiwmor a dwyster
"Ffyni set o ffrindiau on ‘dyn ni," meddai un o’r cymeriadau ac y
mae hynny, yn sicr, yn wir ac fe fyddai yn annheg imi roi’r argraff
mai dim ond cybolfa chwantus mewn iaith amrwd yw’r llyfr.
Y mae fflachiadau o hiwmor ac o ddwyster sy’n cyffwrdd hefyd wrth
i gymeriadau wynebu profedigaeth.
Dyma sgwrs y mae rhywun yn amau iddi hi ddigwydd yn go iawn:
"Saunders Lewis," meddai Clive.
"Ffyni enw for a man - Sandalls Lewis," meddai Madge.
"Sauders Madge. Saunders dim sandalls, for God’s sake."
Ac meddai Madge: "
"Oh well it’s all Dr Marten’s to me. . ."
Mae’r Rhydfeleneg yn ddoniol ynddi ei hun weithiau wrth i idiomau
gael eu cyfieithu fel ag yn: "O, ddis langwij yn gwneud pen fi mewn."
Wrth basio; un peth diddorol am hynt y Gymraeg yn y cymoedd hyn yw
i’r Saesneg, wrth ei disodl, gadw llawer o deithi’r Gymraeg. Yn awr
mae’r Gymraeg adferedig, yn ei thro, yn cyfieithu’n ôl idiomau Saesneg
gan greu patrwm iaith hynod ddiddorol.
Yr iaith yn hanfodol
Bu’r awdur yn byw yng nghanol Rhydfeleneg ac y mae’n hanfodol i’w
lyfrau.
Weithiau yn Pam Ni Duw?, fodd bynnag, y mae yna, anghysondebau
yn y sgwrsio gyda’r un cymeriad yn siarad ‘bratiaeth’ ar un ddalen
ond Cymraeg digon derbyniol ar ddalen arall gan beri i rywun holi
ai adlewyrchu;r hyn sy’n digwydd y mae John Owen ynteu arddangos diffygion
fel sgwennwr dialog.
Byddai wedi bod yn braf medru darllen y nofel hon dan amgylchiadau
gwahanol. Heb y cefndir "trasig" a'r tryblith cyhuddiadau yn berwi
ym meddwl rhywun.
Ond dyna fo, dewis y cyhoeddwyr oedd cyhoeddi doed a ddel a rhaid
i ninnau dderbyn hynny.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch ni.
|
|
|