|
|
Y
gantores
ysbrydegol
Llyfr am Leila Megane yn dwyn atgofion
Dydd Mercher, Rhagfyr 12, 2001
|
Leila Megane - Anwylyn Cenedl gan Ilid
Anne Jones. Llyfr o luniau yn ymwneud a’r gantores. Gwasg Carreg Gwalch.
£8
Sylwadau Ioan Mai Evans
Wedi troi i’r ddalen gyntaf yn y llyfr Leila Megane - Anwylyn Cenedl
gan Ilid Anne Jones, sylweddolais mai i dref hynafol Nefyn ar Benrhyn
Llyn y daeth tad y gantores i blismona gyntaf cyn symud i dref Pwllheli.
Yno, yn Nefyn, y bum innau’n dysgu plant pan gyfarfûm â’r gantores
a hithau, erbyn hyn, newydd ailbriodi yn 1951 - y tro hwn, gyda’i
chyfaill bore oes, William John Hughes.
"Erbyn hyn," meddai Ilid Anne Jones, "roedd Leila Megane wedi llwyr
ddiflannu o lygaid y cyhoedd."
Ond fe ychwanega ei bod yn "mwynhau gweithgareddau cymdeithasol Pen
Llyn yng ngaeaf 1950."
Cyngherddau bach
Roed
y gweithgareddau hynny gan fwyaf yn troi o gwmpas capel Berea (MC)
yn yr Efailnewydd.
Gan yr arferwn ganu ffidil a lli gerddorol cefais wahoddiad gan y
gantores i ffurfio parti adloniant gydag Ernest Hughes, tenorydd swynol
o Drefor, Glyn a Taid, consuriwr a thafleisydd oedd a llawer o alw
am ei berfformiadau.
Magodd yr aml gyngherddau yn yr Efailnewydd gyfeillgarwch a chan fy
mod yn digwydd adnabod William ynghynt ac wedi rhyfeddu ato lawer
tro yn gwibio ar ei feic am Bwllheli cefais beth o’i hanes yn ddyn
busnes yn Lerpwl.
Siaradai yn uchel am ryw Fistar Davies oedd yn wr amlwg yn y gymdeithas
Gymraeg yn Lerpwl a châi blwc o ganu weithiau yn y sgwrs.
A phwy oedd Mistar Davies?
Neb llai na J. Glyn Davies, ei hun, ac nis anghofiaf byth y wefr a
gefais yn gwrando ar William yn canu "O Santiana, chwyth dy gorn
. . .".
A mwy fyth o wybod mai ef a’i canodd gyntaf erioed.
Dal i ofalu am safon
O gantores fydenwog, byddwn yn dotio fel y byddai Leila Megane yn
gofalu am safon a threfn yn y consart bach yn Berea.
Beth oedd yr ots gennym ni ble roedd y piano ond nid felly Leila Megane.
Dim dechrau nes bod y piano yn yr union le, fel bo’r trebl at y canwr.
Na, chymerodd hi ddim rhan fel cantores yn yr un cyngerdd, dim ond
yn y trefnu.
Yn y pumdegau roedd Betty Roberts, athrawes yn dysgu Saesneg yn yr
Ysgol Sir ym Mhwllheli, yn chyhoeddi hanes y gantores yn y Caernarvon
and Denbigh Herald.
Yn naturiol, roedd yr hanesion yn cydio ac awgrymais i Megane y dylsai
wneud hyn ac arall ym myd y cyfryngau er mwyn diogelu ei chyfraniad
arbennig i’r dyfodol.
"Na," meddai gan estyn ei braich uwch ei phen. "Mi rydw i wedi cyrraedd
y fan acw ac yn y fan acw yr ydw i am aros."
Doedd dim tycio er ei bod yn rhugl ei sgwrs ac yn aml yn torri allan
i berseinio ychydig o nodau fel y teimlai ar ei chalon.
Gan y gwyddwn iddi wrthod yn bendant â gwneud dim i’r cyfryngau, tybed
a fyddai hi’n fodlon gwneud cyfweliad preifat ar recordydd tâp i’w
ddiogelu gan y teulu ?
"Na," eto.
Cadw’r achos i fynd ym Merea oedd yn cael blaenoriaeth bellach a hithau
wedi newid llwyfannau dinasoedd byd am lwyfan consart noson waith
mewn pentre bychan yng Nghymru.
Gwenu y byddai bob tro y soniwn am recordio ond er mwyn lliniaru peth
ar fy mhryderon cefais wahoddiad i’r felin tua diwedd y pumdegau ar
ymweliad ei chwaer o Salt Lake City a nodyn yn dweud ei bod yn fodlon
imi recordio sgwrs breifat.
Roedd y Grundig tâp wrth dâp yn declyn digon anghyffredin y blynyddoedd
hynny ond un o freintiau mawr fy mywyd fu’r prynhawn hwnnw.
Dim blodau - dim galar
Erbyn diwedd haf 1959 medrech synhwyro fod diwedd y daith yn nesau
ac ar yr ail ddydd o Ionawr ’60 bu farw Leila Megane yn 68.
Yn ôl ei dymuniad nid oedd na blodau na galar i fod.
Yr oedd deufis wedi mynd pan ddaeth y gwahoddiad gan William Hughes
i berfformio yn y cyngerdd olaf gan yr hen barti ym Merea ar nos Lun
ym Mawrth.
Y
lle yn llawn fel arfer a William yn ei frwdfrydedd arferol yn sibrwd,
"Mae Mrs H. R. Phillips a ninnau wedi bod yn y fynwant y pnawn ‘ma
ond mae Megane wedi dweud nad oes na ddim yn y fynwent ac am inni
fynd ymlaen efo’r cyngerdd, heno."
Sgwrs debyg oedd gan y wraig ddieithr, Mrs Phillips o Gaernarfon,
oedd yn ysbrydegydd.
Darllen wedyn yn y gyfrol am y cyfeillgarwch oedd rhwng y bardd Robert
Williams Parry a T. Osborne Roberts gyda’r ddau, yn aml, yn ymddiddori
mewn ysbrydegaeth a materion goruwchnaturiol.
Mi fyddai Leila Megane hithau, hefyd, yn trafod y paranormal gydag
enaid hoff ac os oes a wnelo canu â dyhead ni chanodd neb Y Nefoedd
yn debyg iddi hi!
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu atgofion i'w rhannu?
Ebostiwch ni.
|
|
|