|
|
Bydd
yn rhaid cael rhywbeth arall i Anti Gladys!
Golwg ddychanol ar fyd rhyfeddol cysylltiadau cyhoeddus
Dydd Iau, Ionawr 30, 2002
|
Pi-âr gan Dafydd Meirion. ( Gwasg Carreg Gwalch
£4.95).
Adolygiad gan Alun Lenny
"Fe wnewch chi bois jôc am unrhywbeth," medde boi o Shir Benfro wrthai
unwaith.
A dyna wna Dafydd Meirion yn ei nofel ddigri Pi-âr
- gwneud sbri ar ben bron pawb a phopeth.
Yn eu plith: staff ³ÉÈËÂÛ̳ Bangor, canolfannau celfyddydau, ffermwyr ieuanc,
hen ffermwyr, merched y De, merched y Gogledd, perchnogion gwestai,
pobol drws nesa, staff a myfyrwyr Coleg Bangor, cynghorwyr, aelodau’r
clwb hwylio, celfi MFI ac, wrth gwrs, pobol cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus
- y PRs a rydd ei theitl i’r nofel.
Priodas o dri
S’da nhw ddiddordeb mewn dim ond arian, rhyw a diod ac ma eu helyntion
yn briodas rhwng nofelau Tom Sharp, ffilmiau Carry On a ffarsus
Brian Rix.
Sylwch fod yna dri yn y briodas - sy’n dipyn llai na’r nifer ym mhriodas
Gwendolyn Prydderch, un o brif gymeriadau Pi-âr.
Mae’n sôn am y pethau dwl sy’n digwydd i ddau ohebydd sy’n sefydlu
cwmni PR ar ôl cael y sac gan y ³ÉÈËÂÛ̳.
Mae’r dyfyniad ar y clawr cefn gan arwr y nofel, Rhys Huws, yn cyfleu’r
naws i’r dim:
"Mae’n anodd canolbwyntio ar redeg cwmni cysylltiadau cyhoeddus
pan mae rhywun byth a beunydd yn eich hudo am beint. Mae’n anoddach
fyth pan rydach chi jyst a marw isio mynd ar gefn Sian. Dydy Gwendolyn
y partnar fawr o help chwaith; mae rhywun ar gefn honno’n amlach na
mae Rhys yn newid ei drôns…"
Nid i Anti Gladys
Nid dyma’r math a anrheg Nadolig neu ben-blwydd i’ch Anti Gladys ddi-briod.
(Heblaw fod honno a chymaint o sgerbydau’n y cwpwrdd a chymeriadau’r
nofel.)
Ond os y’ chi’n hoff o hiwmor coch - byddwch yn dwli ar Pi-âr.
Mae’n frith o sylwadau cymdeithasol treiddgar fel : "Byhafia dy
hun yn y Seling Club… Dim yfad yn wirion a gneud llanast! Dim i’r
³ÉÈËÂÛ̳ ‘dan ni’n gweithio rwan."
a
"Dydi genod neis ddim am rannu gwely hefo hogia Caernarfon ar noson
gynta, siwr Dduw."
Mae’r awdur yn siarad o brofiad helaeth fel un aeth o fyd PR i’r
³ÉÈËÂÛ̳.
Mae’n siwr iddo weld sut mae cwmnïau a chyrff cyhoeddus yn gwario
arian cyhoeddus; a faint o’r arian hwnnw sy’n mynd i bocedi tafarnwyr
a pherchnogion gwestai.
Cael hwyl
Ond cofiwch taw cael hwyl yw unig nod y nofel. Er bod yr iaith yn
aml yn goch, mae wastad yn llyfn ac yn hawdd i’w ddarllen.
Ac yn ddoniol.
Wna’i ddim datgelu, wrth gwrs, sut mae’r cyfan yn gorffen i gwmni
Seiont PR - dim ond dweud fod pawb yn cael ei haeddiant !
Holi
Dafydd Meirion
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn?
Ebostiwch
|
|
|