|
|
Llyfr
sal - da
Meddwi ar lyfr am salwch ac yfed
Dydd Iau, Ionawr 17, 2002
|
Dyddiadur Alci Hypocondriac gan Gruffydd
Meredith. Y Lolfa. £5.95.
Adolygiad gan Glyn Evans
Dwi’n siwr imi weld adolygydd yn rhywle yn disgrifio’r llyfr hwn fel
yr un mwyaf gwreiddiol a ddarllenodd ers talwm.
Wn i ddim am hynny ond y mae yna ddigon yn Dyddiadur Alci Hypocondriac
sy’n ei wneud yn wahanol - ond y mae yna lawer ynddo hefyd sy’n ein
hatgoffa o ymdrechion sgrifenwyr ifanc eraill i fod yn wyllt, yn amrwd
ac yn feiddgar a chreu rhyw fath o arwriaeth o fyw mewn stomp.
CD MC am ddim
Un peth sydd yn wahanol yw eich bod yn cael CD MC Mabon am
ddim gyda’r llyfr a honno sydd yn fy nghlustiau wrth sgwennu, nawr.
Ac ar y funud yr ydw i o’r farn y byddwn i’n fwy tueddol o brynu’r
CD er mwyn darllen y llyfr nag a fyddwn o brynu’r llyfr er mwyn clywed
y CD.
Diau, mai fy oed sy’n gyfrifol am hynny.
Sut bynnag rydych yn edrych ar y peth, mae’n dric sy'n debyg o weithio
o safbwynt y cyhoeddwyr.
Mae’r llyfr - rydw i’n osgoi, am resymau da, ei alw yn nofel
- wedi ei osod mewn print sy’n atgoffa rhywun o deipiadur ac er bod
hynny’n anghysurus i’w ddarllen ar y cychwyn mae’n gydnaws â natur
y llyfr.
O salwch i salwch
Mae’r cynnwys yn cael ei grynhoi’n berffaith yn y teitl achos casgliad
sydd yma o’r gwahanol gyflyrau meddygol sy’n poeni’r prif gymeriad
mewnblyg, Gruff.
Ymylol yw’r holl gymeriadau eraill yn ddoctoriaid a nyrsus a phobl
y mae’n dod ar eu traws yn sgil ei wahanol anhwylderau sy’n amrywio
o’r ddannodd i flaengroen chwyddedig ac amheuaeth iddo ddal rhyw glefyd
rhywiol neu o fod yn dioddef o AIDS "achos nes i gyflwyno fy aelod
i ferch yng Nghaerdydd tua mis yn ôl heb gondom (yr unig ffordd).".
Mae’n gweld fflachiadau o flaen ei lygaid ac yn methu anadlu hefyd.
Yr iaith yn fras
Mae’r iaith, wrth gwrs, yn fras ond y mae’r llyfr yn fwy na dim ond
ymdrech i fod yn feiddgar ac i’m cenhedlaeth i, er enghraifft, y mae’r
math o fyw sy’n cael ei ddarlunio yn agoriad llygad ac yn adlais -
na, nid oes dim byd newydd dan y nefoedd . . .
Bydd eraill, nes at oed yr awdur, yn ei chael yn hawdd, rwy’n siwr,
uniaethu a’r ffordd o fyw sy'n cael sylw.
Y mae’r llyfr yn llai na chan tudalen - ac y mae yna nifer o luniau.
Ac, waeth bod yn onest ddim, fyddai rhywun ddim eisiau iddo fod lawer
hwy na hynny.
Fel y mae, mae’n diweddu cyn syrffedu ac mae honno’n gamp gyda pethau
Cymraeg.
Cychwyn mewn bedsit
Mae’r llyfr yn cychwyn mewn bedsit draddodiadol ifanc (dim gwreiddioldeb
mawr fan yna!) lle mae’r awdur yn deffro’n "pisd" (nac yn y fan yna)
ac yn mynd ymlaen i ddisgrifio yn ddeheuig a chofiadwy iawn broblemau
cyd-fyw ag eraill mewn hofel o’r fath a cheisio osgoi cyfarfod â chyd-letywyr:
"Mae sawl rheswm dros guddio yn dy lofft: falle fod dy gyd-denantiaid
yn saicos, yn thugs ²Ô±ð³Ü‵µ squares (arwyddion pendant
o squares yw pan mae merched, fel arfer, yn gadael arwyddion
rownd y ty - a’r gegin yn enwedig - yn deud pethe fel ‘please clean
the grill after you, it’s disgusting’ a sticers yn y ffrij ar
y menyn a’r letys yn deud ‘hands off, it’s mine’)."
Pob math o salwch
Ond y gwahanol anhwylderau - rwy’n methu dod o hyd i luosog iawn
i salwch (salwchaethau?) - sydd yn mynd â’n sylw yn bennaf a’r rheini
wedi eu cysylltu â gwahanol ardaloedd yn amrywio o Feirionnydd, i
Lundain a Paisley yn yr Alban.
Mae
salwch, wrth gwrs, yn dod a Gruff i gysylltiad â’r gwasanaeth iechyd
ac er nad oes yma bropagandeiddio byddai’n rhaid i ddarllenydd fod
yn bared go drwchus i beidio â chlywed swn y post sy’n cael ei daro.
Gall bywyd ei hun fod yn beth salw hefyd:
"Mae dy fywyd yn cylchdroi rownd diposits, colli diposits, ffindio
diposits, llenwi ffurflenni, gadael fflats heb dalu, osgoi landlords,
bwyta bara stêl pobl erill a phasio’r amser pa bynnag ffordd ti’n
gallu."
Ac;
"Ma’ gen ti drwy’r dydd/nos/wythnos/mis i feddwl a phoeni am yr holl
boene newydd ti’n deimlo yn dy gorff."
A’r cyfan i’w weld drwy’r tarth meddyliol hwnnw a gynhyrchir gan alcohol
sy’n gysur ac yn hunllef:
"Ddoe, ro’n i’n cael probleme anadlu difrifol, felly yn syth ar ôl
gwaith es i’r dafarn ar Euston Road ac ordro dau beint o Stella a
dybl wisgi."
A dyna’r llinyn arian sy’n dal y ‘stori’ wrth ei gilydd - y poenau,
yr anhwylderau a’r salwch byddent ddychmygol neu fel arall gyda’r
disgrifiadau o rai ohonyn nhw yn anodd eu stumogi.
Rhagoriaethau bywyd
Ond y mae i fywyd ei ragoriaethau hefyd:
"Gynnon ni ddisgyrchiant sy’n ein galluogi ni i aros ar ein traed
yn lle fflotio o gwmpas . . . pethe agor tuniau a phapur ty bach sydd
ddim yn rhy feddal nac yn rhy galed."
Bendithion sy’n gwneud iawn am ddillad gwely "ffilthi a heb eu golchi
ers chwe mis" a methu â chodi cyn dau y pnawn a "gwisgo’r un pants
am bythefnos."
O ie, gweledigaeth go ryfedd o fywyd sydd yma ond rhan o gamp yr awdur
- a dydi hi ddim yn gamp fawr, peidiwch â nghamddeall i - yw iddo
lwyddo i wneud hynny yn rhywbeth difyr i’w ddarllen ac iddo fod ddigon
doeth i’w gadw o fewn ffiniau can tudalen.
A byddwn, mi fyddwn i’n troi i lyfr arall gydag enw Gruffydd Meredith
arno. Ond dydw i ddim yn siwr am CD gan MC Mabon.
Pach - ydw’n tad, yr ydw i’n berffaith siwr.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|