|
|
Bagad
gofalon
Ffynnon sy'n dal i gynnal buarth
Dydd Iau, Ionawr 17, 2002
|
Shamus Mulligan a'r Parot gan Harri Parri.
Adolygiad gan Dei Tomos
"Tasa rhywun wedi rhoi tenner each way ar bo rywun yn sgwenu
hanas fi Shamus O'Flaherty Mulligan sy'n byw ar Morfa tu allan i Porth
yr Aur faswn i di deud no way! Ond na fo dwi wedi bod yn rong o'r
blaen a ma siwr bydda fi'n rong eto. Ti'n gweld ma 'Bos' capal ni
wedi sgwenu llyfr arall, a ma enw fi'n part o teitl y llyfr yma."
Mae'n debyg y bydda hi'n dipyn o strygl i'r hen Shamus druan ysgrifennu
brawddeg fel 'na ond fe fedra i'n hawdd ddychmygu y byddai wrth ei
fodd o weld ei enw'n ymddangos ar glawr llyfr diweddara Harri Parri.
Eglwys heb ei thebyg
Dyma gyfrol arall sy'n olrhain troeon yr yrfa i'r gweinidog ifanc
hwnnw a ddechreuodd fugeilio ym mhentre Carreg Boeth, ond sydd bellach
ers tro, er nad fawr callach ym mhethau'r byd, a bagad gofalon Capel
y Cei yn crymu ei war.
Does na ddim, neu mae'n anodd gen i ddychmygu fod na, eglwys sy'n
debyg iddi yn unlle, ac nad oes gweinidog na corlanaid o braidd mor
liwgar a diddorol chwaith.
Eto er eu digrifed, mae eu dweud a'u hymwneud a'i gilydd yn fwy na
chredadwy hefyd.
Bellach, os ydach chi wedi dilyn hynt a helynt y Parchedig Eilir Tomos
fe fydd y cymeriadau'n gyfarwydd i chi, ac os nad ydyn nhw, buan iawn
y dowch chi i'w cyfri nhw yn gydnabod os nad cyfeillion.
Pobl capal a'r ymylon
Mae nhw i gyd yno; pobl y capel a phobl yr ymylon yn lliwgar lenwi
dros gant a hanner o dudalennau mewn chwe stori afaelgar.
Mae'n amhosib peidio dotio at iaith yr awdur, mae'n afaelgar ryfeddol,
a gwlith y cysegr os nad llwch yr ysgrythur yn drwm arni ar adegau.
Ond ar amrantiad fe glywch chi hefyd ieithwedd dechrau'r ganrif newydd
ac mae clust fain yr awdur yn cofnodi'r ddwy mor gywir a'i gilydd
gan eu cymysgu'n lobsgows maethlon.
Wfftio a chydymdeimlo
Bob yn ail ac wfftio'r gweinidog rydach chi'n cydymdeimlo wrth i darfferthion
a phrofedigaethau lu godi eu pen ac yntau fynd i'w cyfarfod.
Un o boena mawr Capel y Cei ydi'r boelar ac mae trwsio hwnnw a thalu
am hynny'n ddigri tu hwnt fel y gwelwch chi.
Mae yma fedydd gwahanol i'r arfer heb s么n am Gwrdd Diolchgarwch sy'n
ymdebygu i syrcas ac un o'r sefyllfaoedd mwya 'smala ydi'r dosbarth
ioga yn seler y capel, heb anghofio dychweliad y 'mab afradlon'.
"Ffynnon hesb, buarth gwag," meddai rhywun wrthyf yn ddiweddar, wel
dim eto yn hanes Harri Parri diolch byth!
Mynnwch gopi o'i ddegfed cyfrol a dowch wyneb yn wyneb 芒 Shamus; Kit
Davies, Anglesey View; Cecil Siswrn; y brodyr Howarth; Dwynwen Lightfoot
a John Wyn ac fe welwch chithau fod "gwyrthiau'r Arglwydd ar lannau'r
Fenai dlawd" yn digwydd o hyd.
Oes gennych chi farn am y llyfr hwn neu lyfrau eraill?
Ebostiwch
|
|
|