|
|
Canu
o'i
hochr hi
Ymchwil ddifyr i emynau Diwygiad '04-'05
Gorffennaf 2003
|
Caniadau'r Diwygiad - Noel Gibbard. Gwasg Bryntirion.
Adolygiad gan Huw Tegid.
Rhwng rwan a'r amser yma y flwyddyn nesaf, mi fydda i wrthi'n brysur
yn cynorthwyo 芒 threfniadau cynhadledd ryngwladol a gynhelir ym Mhrifysgol
Cymru, Bangor fydd yn nodi canmlwyddiant diwygiad 1904-05.
Eisoes braenarwyd y tir ar sawl gwedd gogyfer 芒 dathlu'r achlysur
hwn ac i rywun fel fi nad oedd yn rhyw gyfarwydd iawn 芒 hanes y Diwygiad
tan yn ddiweddar, roedd y llyfryn hwn gan Noel Gibbard yn fodd imi
ddysgu mwy am ran ganolog canu yn y Diwygiad.
Hynt y canu
Wrth feddwl am ymadroddion fel "mynd i hwyl" sy'n cael eu
cysylltu 芒 diwygiadau caiff rhywun ddarlun o bobl yn canu'n ddirwystr.
Mae'n debyg fod canu yn un o sgil effeithiau pob diwygiad ac mae'r
llyfr hwn yn dechrau trwy olrhain hynt canu cynulleidfaol rhwng y
diwygiad mawr blaenorol afaelodd yng Nghymru yn 1859, a digwyddiadau
1904/05.
Mae'n s么n bod llyfrau emynau wedi dod yn bethau mwy cyfarwydd, a chyfeirio
hefyd at ddylanwad yr Efengylwyr - gantorion Americanaidd Sankey a
Moody, wrth i ddiwygiad 1904-05 (neu 'Ddiwygiad Evan Roberts' fel
y'i gelwid ef hefyd) ddod yn nes.
Yna, wrth i ddylanwad yr Ysbryd Gl芒n ddechrau gafael ar ddechrau'r
ugeinfed ganrif, fe welwn ni rai fel Elfed, Dyfrig ac emynwyr eraill
yn medi o gynhaeaf ysbrydol y Diwygiad.
Cerddoriaeth gyfoes
Ceir s么n sut yr asiwyd cerddoriaeth gyfoes 芒 geiriau emynau enwog
Cymru a sut yr enillodd emynau newydd eu plwyf, gyda fersiynau ychydig
yn wahanol i'w gilydd yn boblogaidd mewn gwahanol fannau.
Mae gan yr awdur synnwyr digrifwch wrth gyflwyno ei ymchwil ac mi
chwarddais wrth ddarllen am hanes honedig 'genedigaeth' un emyn.
Holai un pregethwr trwm ei glyw o'r pulpud yn rhethregol, 'Beth yw'r
utgyrn glywa i'n seinio?', ac yna mewn ysbaid, 'Pwy sy'n cael eu gwahodd
ganddo?'
Yn ysbryd y diwygiad, ymatebodd dynes yn y gynulleidfa i'r ddau gwestiwn
yn eu tro, a dyna lunio pennill pedair llinell ar hap, a hwnnw mwya'r
syndod yn odli, er efallai na chlywodd y pregethwr yr ail a'r bedwaredd
linell!
Darlun o ddiwylliant a chymdeithas
Rhydd ddarlun hefyd o ddiwylliant a chymdeithas y cyfnod, fel y cyfeiriad
at 600 o lowyr yn dod dan ddylanwad y diwygiad tra roeddent wrth eu
gwaith.
Un o nodweddion y Diwygiad hwn oedd y modd y byddai merched yn cynorthwyo
Evan Roberts gyda'i oedfaon arbennig, a difyr yw sylwi fod un ohonynt
wedi mynd dros y ffin i Loegr i genhadu, a thra gwn芒i hynny, parhaodd
i dderbyn t芒l llawn gan Fwrdd Ysgolion Gwyr er iddi fod yn absennol
o'i gwaith fel athrawes.
Tybed sawl cyflogwr fyddai mor hael heddiw petai'r Ysbryd ar gerdded
trwy Gymru?
Diwinyddiaeth y Gwaed
Amlygir y pwyslais a fu ar y gwaed a gollodd Iesu ar y groes yn Niwygiad
Evan Roberts a hynny'n chwarae rhan amlwg yn niwinyddiaeth nifer o
emynau y diwygiad arbennig hwn.
Mewn atodiad o ddeugain tudalen, cawn nifer o'r emynau hynny, ynghyd
ag ugain tudalen a mwy o nodiadau manwl i'w canlyn.
Yng nghorff y llyfr hefyd, cawn ddarlun o arddulliau arwain Evan Roberts
- ambell dro byddai'n ddigon bodlon i ganu byrfyfyr darfu ar ei bregethu,
ond dro arall byddai'n tewi canu ar ddiwedd gwasanaeth, gan na theimlai
fod hynny'n cael ei wneud yn yr ysbryd iawn.
Wedi sicrhau fod pawb o ddifrif, ac mai nid canu er mwyn swnio'n dda
a wn芒i'r gynulleidfa, byddai rhwydd hynt iddynt barhau 芒'u mawl ar
g芒n.
Ar d芒n eisiau dweud
Rydych yn cael y teimlad fod Noel Gibbard ar d芒n eisiau dweud y stori
am y cyfnod cyffrous hwn, gan gymaint o ffeithiau a blethir i gan
tudalen y stori. Os byddwn i'n bod yn feirniadol, efallai'n wir iddo
fethu 芒 chrynhoi'r hanes yn gwbl foddhaol gen i.
Hyd yn oed yn y bennod olaf fer sy'n ceisio crynhoi'r hanes, ceir
nifer o ffeithiau newydd, a dyna oedd un o'r pechodau mwyaf pan oeddwn
i'n llunio traethodau yn yr ysgol a'r coleg. Ond dyna ni, pwy a wyr
ai'n fwriadol yr ysgrifennodd Noel Gibbard fel hyn?
Nid peth trefnus yn 么l ein safonau ni fo awel yr Ysbryd Gl芒n wrth
gwrs.
Efallai mai darparu ar gyfer cynulleidfa benodol wna'r gyfrol hon,
sef cerddorion a diwinyddion, ond i rai o'r tu allan i'r ddau gylch
yma fyddai'n hoffi ymgyfarwyddo 芒 llu o ffeithiau ynghylch y Diwygiad,
fe argymhellwn chi i brynu'r llyfr a'i ddarllen.
Naws y cyfnod
I'r rhai sy'n blino ar rygnu emynau mewn gwasanaethau Cristnogol heddiw,
mae golwg droeon yn y llyfr hwn ar ddigwyddiadau cyfareddol y diwygiad.
Dyma ddyfyniad o ganol y llyfr sydd efallai'n crisialu naws y cyfnod
orau i mi wedi darllen y gyfrol hon.
"Bu'r teimladau yn ddilywodraeth mewn sawl cyfarfod. Eto i gyd, roedd
gradd o wrthrychedd, oherwydd canu emynau oedd y gynulleidfa, emynau
ac ystyr iddynt, ac wedi eu gwreiddio yn yr Ysgrythur."
Wrth edrych ymlaen at 2004 felly, diolch i Noel Gibbard am y cip gwerthfawr
hwn yn 么l ar gyfnod y Diwygiad.
Mae gwaith ymchwil y llyfryn yn destun edmygedd, ac arddull y llyfr
yn afaelgar a difyr.
|
|
|