|
|
Cewri
i'r dysgwyr
Detholiad o farddoniaeth yr ugeinfed ganrif
Ebrill 2003 |
Cerddi'r Cewri. Golygydd, Islwyn Edwards. Cyfres Cam at y Cewri.
Gwasg Gomer. £7.95
.Casgliad o gerddi wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer dysgwyr ydi
hwn - er mwyn iddyn nhw gael blas ar rai o gerddi gorau'r ugeinfed
ganrif yn y Gymraeg.
Er bod yma nifer o gewri diamheuol barddoniaeth Gymraeg yn
bresennol - R. Williams Parry T. H. Parry-Williams, T Gwynn Jones,
Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd a Gwyn Thomas er enghraifft - ni ellir
peidio a holi a yw pob un o'r beirdd y cynhwysir eu gwaith
yn haeddu'r disgrifiad hwnnw.
Nid dysgwyr yn unig
Ond a rhoi o'r neilltu deitl braidd yn ymhongar y gyfrol y mae hon
yn flodeugerdd ddefnyddiol ddigon at iws ty - nid yn unig ar gyfer
y dysgwyr y'i bwriadwyd ar eu cyfer ond ddarllenwyr Cymraeg eraill
hefyd.
Mae yma gerddi fel Hon, T. H. Parry-Williams, Daffodil,
I. D. Hooson, Y Llwynog, R. Williams Parry, Dysgub y Dail,
Crwys a Fy Ngwlad (Wylit, wylit, Lywelyn) Gerallt Lloyd
Owen y byddai'n anodd eu hepgor o unrhyw gasgliad cynrychioliadol
o farddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Darllen a thrafod
"Pwrpas y gyfrol hon," meddai'r golygydd yn ei ragair, "yw cyflwyno
rhai o gerddi gorau Cymru'r ugeinfed ganrif i bobl sydd wedi dysgu
Cymraeg.
"Maen nhw i gyd yn addas i'w darllen gan unigolion . . . ond
dewiswyd llawer ohonynt yn fwriadol er mwyn ysgogi trafodaeth mewn
grwp neu ddosbarth hefyd."
Nid yn unig y mae amrwyiaeth o feirdd - Waldo, Gwenallt, Cynan, Steve
Eaves, Twm Morys, Sarnicol, Myrddin ap Dafydd, Geraint Jarman, John
Roderick Rees, Nesta Wyn Jones, Einir Jones, Sonia Edwards, Mererid
Puw Davies, Sheelagh Thomas, Elin Llwyd Morgan a Mererid Hopwood -
ond y mae amrwyiaeth o wahanol fathau o gerddi.
Braf gweld cwpledi epigramatig Sarnicol, er enghraifft,
Angau yw'r un peth sicr yn y byd
Er hyn pan ddaw, ein synnu a gawn i gyd.
yn cydwelya a thelynegion mirain fel Melin Tref-fin, Crwys
ac Aberdaron, Cynan.
Dewis o englynion
Da gweld hefyd na chafodd y golygydd ei demtio i hepgor englynion
a cherddi eraill yn y mesurau caeth gan dybio y byddent yn 'rhy anodd'
i ddysgwyr.
Mae yma nifer o englynion sy'n dangos y grefft ar ei gorau fel Y
Goeden Nadolig gan T. Arfon Williams,
Yn enw cariad, paid 芒'i gadael yn hagr
I wgu'n y gornel;
Dwy owns neu lai o dinsel
Wna'r wrach ddu'n briodferch ddel.
Ac englyn ysgytwol Alan Llwyd, Cenedl:
Ei charu, ond 芒 chwerwedd; - ei serchus
Warchod ag eiddigedd,
Ac 芒'r b芒l agor ei bedd
Er dyheu na ddaw'r diwedd.
A da gweld fod Gorwel Dewi Emrys yn parhau'n Hen derfyn
nad yw'n darfod mewn casgliadau fel hyn!
Cwbl amserol
Mae
nifer o'r cerddi yn ysol o amserol fel Y Trydydd Byd gan Myrddin
ap Dafydd:
Cawn eu reis at ein heisiau
cawn yd, cawn eu m锚l a'u cnau,
cawn eu ffrwythau gorau i gyd,
hufen eu daear hefyd;
ni, lydan ein waledi -
byd noeth sy'n ein bwydo ni.
Gwelwn eu plant yn swnian,
y bol gwag a'r ymbil gwan,
isio bwyd ar fymryn sb芒r;
gwelwn lygaid eu galar
a thrwy logau banciau byd,
gwelwn holl aur eu golud.
Rhown geiniog prynu gwenith,
i'w gwlad, powlennaid o'n gwlith,
a llwch dyngarol ein llaeth
a gw锚n hael yn gynhaliaeth;
ni, lawn o bob haelioni -
byd noeth sy'n ein bwydo ni.
Gwerth dysgu
Er y gallai rhywun yn dadlau ynglyn 芒 defnyddio'r gair cawr
i ddisgrifio pob un o'r beirdd yma y mae digon o gerddi cawraidd i
gyfiawnhau y teitl a digon i wneud i ddysgwr deimlo iddi fod yn werth
chweil dysgu'r Gymraeg.
Ac i'r rhai sy'n dal yn ansicr eu cerddediad ieithyddol y mae yma
faglau ar ffurf geirfa ac eglurhad ar waelod pob dalen.
|
|
|