|
|
Dyddiau
gynt a'r dyddiau ddaw
Ddoe ac yfory mewn crefydd
Mai 2003
|
Cofio Tecwyn gan Tudor Davies, Gwasg Pantycelyn.
Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc gan Glyn Tudwal Jones.
Gwasg Pantycelyn.
Huw Tegid yn adolygu dau lyfr
Mae Cristnogaeth ar groesffordd y dyddiau hyn - os nad ydi hi wedi
bod yno ers tro byd a dweud y gwir, yn rhyw bendroni pa drywydd i'w
gymryd.
Ar y naill law mae bron i ugain canrif o draddodiad cyfoethog ymhleth
芒 diwylliannau mawr y gorllewin ac, ar y llaw arall, y mae'r her fwyaf
un, sef cario'r ffydd i'r oes bresennol, ac ailddarganfod egni rhyfeddol
bywyd ac atgyfodiad Crist.
Os dywedodd Iesu rhyw dro fod Teyrnas Nefoedd yn debyg i ddyn yn arddangos
storfa o'r hen a'r newydd, mae'r un yn wir dybiwn i am Gristnogaeth
heddiw - peidio colli golwg ar draddodiad, ond yn sicr edrych ymlaen
tua'r dyfodol gydag awch i genhadu.
Disgyn i'r categori cyntaf mae Cofio Tecwyn sy'n cofio'r dyddiau
da gynt, ac yn fwy penodol, hanes D. Tecwyn Evans, un o weinidogion
amlycaf y Wesleaid yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Mae'r cofiant sylweddol a theilwng hwn yn olrhain hanes Tecwyn o fore
ei oes yn Llandecwyn, ac ar hyd llwybr ei yrfa o ofalaeth i ofalaeth,
gan lenwi'r bwlch yn sgil diffyg unrhyw gofiant penodol iddo ers ei
farw yn 1957.
Nefoedd ar y ddaear
Mae'r darlun a gawn o gymuned glos a thrwyadl Gymraeg Llandecwyn yn
y bennod gyntaf bron yn un rhy berffaith i'w gredu - plant yn ffyddlon
i'r capel, yn parablu mewn Cymraeg rhywiog, a Christnogaeth yn elfen
amlwg o'r bwrlwm a'r hwyl hwnnw.
Does fawr o syndod i Tecwyn ddod yn Gymro a Christion mor gadarn wedi
magwraeth gystal, a datblygu mor enwog fel y gwyddai pawb pwy oedd
o trwy gyfrwng un enw'n unig - yn union fel 'Tegla' - E. Tegla Davies
- un o gymheiriaid Tecwyn, neu'r chwaraewyr p锚l-droed o Frasil y bydd
mwy ohonom yn gyfarwydd 芒 nhw!
Rwy'n oedi rhag dweud 'enw bedydd' testun y cofiant, gan mai David
Evans oedd 'Tecwyn' yn gyntaf oll - yn ddiweddarach y daeth yr enw
canol gwneud a anfarwolodd yn rhan o'i enw.
Yn y tair pennod ganlynol, cawn ein tywys yn sydyn iawn o un garreg
filltir i'r nesaf ym mywyd prysur Tecwyn - dim ond yn y penodau wedi
hynny y cawn ddarlun llawnach ohono ar ffurf ysgrifau unigol arno
fel ieithydd ac awdur, cyfieithydd ac emynydd, golygydd, darlithydd,
pregethwr, ac yn olaf fel unigolyn.
Wedi pennod gyntaf gystal, ychydig o siom oedd fod adroddiad y dair
bennod ganlynol braidd yn esgyrnog, a bod yn rhaid aros hyd y penodau
olaf nes gallu closio at y 'Tecwyn go iawn' os mynnwch chi.
Ysywaeth, dyna un gur pen mawr cofiannydd dybiwn i - ceisio ffurfio
cofiant taclus, ac mae hynny'n drybeilig o anodd gyda rhywun amryddawn
oedd a nifer o heyrn gwahanol yn y t芒n ar un pryd, fel y gwn i o brofiad
fel cyw myfyriwr ymchwil.
Pe bai'r awdur heb rannu'r llyfr fel y gwnaeth, mae'n siwr y byddai
rhywun arall wedi gweld bai arno, felly wna i ddim bod yn rhy llym
fy meirniadaeth. Yr unig gyngor a gynigiwn i ddarpar ddarllenwyr y
llyfr ydi iddyn nhw ddyfalbarhau drwy benodau 2, 3 a 4, gan gofio
fod seigiau go flasus i'w cael wedi hynny.
Yr her i ni heddiw
Ond dyma ddod at brif ffyn mesur unrhyw gofiant gwerth ei halen -
ydi rhywun elwach o'i ddarllen, ac ydi o'n ysbrydoli'r darllenydd?
Mae'n hawdd meddwl fod oes Tecwyn yn oes well i Gristnogaeth yng Nghymru
nag ydi hi heddiw, ond rhaid cofio nad oedd moethusrwydd ein hoes
ni'n rhan ohoni.
Bu Tecwyn fyw trwy ddau ryfel byd a dirwasgiad rhwng y rheiny ond
parhaodd ei ffydd gydol yr amser, ac mae hynny'n nodedig.
I Gristnogion heddiw sy'n pryderu ynghylch cynulleidfaoedd ar drai,
mae Cofio Tecwyn yn sicr yn cynnig her.
Doedd dim pall ar deithio Tecwyn o un pen y wlad i'r llall, a thu
hwnt i Glawdd Offa hefyd. Fel John Wesley gynt i raddau, gwelai'r
cyfanfyd (neu Gymru o leiaf) fel ei blwyf, a gwelodd fod ganddo neges
i'w chyflwyno i'r bobl.
Efallai mai'r argraff ddyfnaf a adawyd arnaf wedi darllen y gyfrol
ganmoladwy hon oedd mor ddienaid ydym ni heddiw, a rhyfeddu mor ddihysbydd
oedd ffynonellau egni Tecwyn a'i debyg.
Ffordd Bywyd -
Llawlyfr i Gristnogion Ifanc
A dyna ddod at yr ail lyfr, Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion
Ifanc gan Glyn Tudwal Jones. Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion
Ifanc Ffordd Bywyd - Llawlyfr i Gristnogion Ifanc
Canllaw ar gyfer Cristnogion ifanc yw'r llyfr hwylus hwn, wedi ei
lunio ar gyfer dosbarth sy'n paratoi ar gyfer Bedydd Esgob neu ar
gyfer cael eu derbyn yn aelodau cyflawn o gapel.
Yn hynny o beth, rhaid i mi gamu 'nol flwyddyn neu ddwy i geisio gweld
a fyddwn i wedi croesawu llyfr o'r fath pe bawn i'n rhan o gynulleidfa
darged y llyfr hwn - (peth garw ydi mynd yn hen yn de!).
'Cwl' heb fod yn 'naff'
Un o'r pethau sy'n mynd dan groen pobl ifanc ydi llyfrau gan oedolion
sy'n ymdrechu'n ormodol i fod yn 'cwl'. Mi fyddai ymdrechion felly
er enghraifft yn cynnwys lluniau o bobl ar sgrialfwrdd mewn siorts
bermiwda, ac ymadroddion fel 'cwl' a 'smart' a 'hip' fesul paragraff.
Yn hynny o beth, mae Glyn Tudwal yn iawn yn y ffordd y mae'n cyflwyno'r
llyfr. Mewn gair, tydi o ddim yn baglu wrth fod yn lliwgar a deniadol
- tydi o ddim yn 'naff', fel roedd fy nghenhedlaeth i yn ei ddweud
(a dyna i chi esiampl arall o air aeth allan o ffasiwn).
Mae pobl ifanc yn gweld trwy ymgeision gormodol i roi delwedd 'ifanc'
i rywbeth yn hawdd iawn, felly rwy'n siwr y caiff yr arweiniad syml
a chryno hwn groeso mawr gan lawer.
Un awgrym fyddai gen i cyn gorffen s么n am arddull - efallai fod ymadrodd
fel 'Dyna fyd rhyfedd fyddai hwnnw, ynte?', gyda'r 'ynte' tadol yna
ar ei ddiwedd, yn swnio'n rhy debyg i lais athro neu riant, ac y byddai
arddull fel 'Mi fyddai'n rhyfedd petai'r byd felly heddiw' yn taro'n
well ar glustiau'r darllenwyr ifanc.
Gwn i mai hollti blew ydi hynny, ac er mai ar ffin denau y mae ieithwedd
addas (a chywir) ar gyfer ieuenctid yn disgyn, mae modd cael cydbwysedd
trwy lacio'r mymryn lleiaf ar yr iaith lenyddol arferol - ond, fel
y dywedais, heb grwydro mor bell oddi wrthi fel bod hynny'n boenus
o amlwg.
Y Llwybr iawn
Y gwyn a glywir yn gyson y dyddiau yma yw fod pobl ifanc wedi colli
eu ffordd, ac yn hynny o beth mae teitl y llyfr yn addas iawn.
Rwy'n siwr y byddai pwy bynnag fyddai'n darllen 16 uned gryno y llyfr
hwn yn cael cymorth mawr i ganfod y ffordd iawn honno drostynt eu
hunain.
Mae hwn yn lyfr sy'n peri i'r darllenwr holi ei hunan yn gyson. Mae
o'n rhoi awgrymiadau, ond tydi o ddim yn stwffio propaganda Cristnogol
i lawr corn gwddw rhywun chwaith.
Mae o'n fodd i lanc neu lances ifanc holi eu hunain, ystyried beth
ydi prif egwyddorion Cristnogaeth, a dewis y llwybr sy'n gwneud synnwyr
iddyn nhw. Yn fyr, mae o'n rhywbeth fyddai'n cryfhau cymeriad rhywun
ifanc trwy gymell yn hytrach na gorfodi.
Ffydd, gobaith a Chariad
Mae hwn yn fyd lle mae 'cariad' yn fater amwys - ar un gwedd mae mwy
o s么n am ryw a chyfeillachu yn llenyddiaeth pobl ifanc nac erioed,
er mai ychydig iawn o sylw sydd 'na i gariad, ac ymrwymiadau yn rhinwedd
y cariad hwnnw.
Ydi, mae'n hawdd felly colli 'gobaith' trwy weld hyn, a sylwi dro
ar 么l tro mai'r cyfan y mae'r cyfryngau yn ei drafod yw anlladrwydd
wrth iddyn nhw geisio denu cynulleidfa.
Ond tybed ai'r elfen bwysig iawn sy'n cael ei anghofio yn y byd sydd
ohoni ydi 'ffydd'? 'Cofiwch mai ffydd ydi'r hyn sydd yn rhoi ystyr
i fywyd' ydi un o negesau amlycaf Glyn Tudwal Jones yn y llyfr hwn.
Rwy'n ei ailadrodd yma gan sylweddoli mod i'n annerch cynulleidfa
hyn yn ogystal.
Tybed a oes angen i'r rhai hyn sy'n ymwneud 芒 Christnogaeth ddangos
mwy o ffydd, a hynny ar ddwy wedd?
Oni ddylai eu ffydd ddisgleirio mor llachar trwyddynt fel ei bod hi'n
anodd i bobl eraill ei anwybyddu? Oni ddylent arwain trwy esiampl
yn hytrach na bytheirio o hyd fod pobl ifanc wedi colli eu ffordd?
Hynny'n un peth, ac yn ail, oni ddylent gael mwy o ffydd mewn pobl
ifanc trwy ymddiried mwy o gyfrifoldebau iddyn nhw yn yr eglwysi a'r
capel? Dwi'n holi nifer o gwestiynau mi wn, ond fiw i'r un Cristion
gwerth ei halen fod yn fodlon ei fod yn gwneud digon yn barod i yrru
cenhadaeth y ffydd yn ei blaen.
Efallai mai'r neges sy'n crisialu amcan cyfrol Glyn Tudwal i mi yw
adnod o 1 Timotheus 4, a ailadroddir yn y llyfr.
"Paid 芒 gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc.
Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred,
mewn cariad a ffydd a phurdeb."
Tybed felly a yw'n bryd i Gristnogion sylweddoli o ddifrif nad oes
modd cynnal yr eglwysi a'r capeli sydd gennym gyda'r person茅l sydd
ynddi ar hyn o bryd yn unig?
Os ydi pobl ifanc wedi colli eu ffordd, oni ddylem fynd allan i'r
priffyrdd a'r caeau o bryd i'w gilydd i chwilio amdanynt? Efallai
nad drwg o beth fyddai mynd 芒 chopi o'r llyfr hwn ar eu cyfer gyda
chi, os ewch chi.
Wedi eu hennill, efallai y byddai'r gyfrol sy'n 'Cofio Tecwyn' yn
ysbrydoliaeth i ambell un yn ogystal i sylweddoli mai gwarth o beth
fyddai gadael i Gristnogaeth farw wedi ymdrechion rhai fel Tecwyn,
yn enwedig o gofio'r holl adnoddau y mae'r byd modern yn ei gynnig.
Rhaid i Gristnogaeth gofio ei thraddodiadau felly, ond rhaid dilyn
esiampl Glyn Tudwal yn ogystal, a chael rhai newydd i ganfod 'ffordd
bywyd'.
|
|
|