|
|
Dial
am y gorffennol
Llofrudd yn dial am gamwri Cymry'r gorffennol
Gorffennaf 2003
|
Dial yr Hanner Brawd, Arwel Vittle, Y Lolfa 拢6.95
Adolygiad gan Catrin Jones
Wedi mwynhau taith gyffrous i Gymru 2082 yn nofel ddiwethaf Arwel
Vittle, Talu'r Pris, roeddwn i'n awyddus iawn i weld beth oedd
yn ein haros rhwng cloriau ei nofel ddiweddaraf.
Tra mai nofel antur oedd y llall, nofel lofruddiaeth yw ei ddewis
y tro hwn a honno wedi ei gosod yng Nghymru heddiw.
Ond nid nofel lofruddiaeth gyffredin yw Dial yr Hanner Brawd.
Unwaith eto mae dychymyg byw yr awdur ar waith.
Tra bo Cymry'r dyfodol yn 'talu'r pris' am lwfdra eu cyndadau yn y
nofel ddiweddaf mae'r llofrudd yn gwneud ei orau i sicrhau na fydd
Cymry'r dyfodol yn dioddef.
Cyfrannu at dranc
Dial ar yr unigolion hynny sy'n cyfrannu at dranc y cymunedau Cymraeg
a'r iaith y mae.
Cymro Cymraeg i'r carn yw'r llofrudd, gwladgarwr eithafol sy'n dial
ar y rhai y mae'n eu hystyried yn fygythiad - newyddiadurwr gwrth-Gymreig,
aelod o'r Cynulliad a ffermwr cefnog sydd 芒'i fryd ar wneud elw.
Ond yr hyn sy'n hynod am y llofrudd hwn yw ei fod yn mynnu gadael
negeseuon ar ei 么l yn y man y cyflawnodd y weithred. Negeseuon ar
ffurf dyfyniadau o Bedair Cainc y Mabinogi!
Ydi mae'r llofrudd, neu'r Dialydd fel y'i gelwir, yn wr diwylliedig
ac mae emosiynau cryfion iawn yn ei gymell i hela ei brae.
Trwy lygaid seicolegydd
Fe gawn ni'r darllewnyr gipolwg ar holl digwyddiadau'r nofel drwy
lygaid Mathew; seicloegydd sy'n cynorthwyo hen ffrind coleg, y Ditectif
Arolygydd Brynmor Davies, i ddatrys dirgelwch Y Dialydd.
Mae cynllun pendant i'r nofel gyda'r holl ddigwyddiadau wedi eu trefnu
yn gyfres o olygfeydd sy'n golygu y byddai'r cyfan wedi gweithio'n
dda ar sgr卯n.
Mae digon yn digwydd yma i gadw'r darllenydd ar erchwyn ei sedd hyd
y diwedd pan fo Mathew yn dod i ddeall meddwl Y Dialydd.
Blas Cymreig
Er imi fwynhau'r cyffro oedd yn ein harwain o un bennod i'r llall
yr hyn a apeliodd fwyaf ata i oedd y ffaith fod y nofel wedi wedi
ei gwreiddio'n ddwfn yn naear Cymru.
Gwendid nifer o nofelau ditectif Cymraeg yn aml yw eu bod yn rhy debyg
i'r llu o rai Saesneg sydd wedi eu cyhoeddi eisoes.
Ond mae stamp awdur Cymraeg yn amlwg ar y nofel hon.
Un elfen sydd i'w gyfrif am hyn yw dull dychanol yr awdur o ysgrifennu.
Mae Arwel Vittle, trwy gyfrwng y cymeriadau, yn chwerthin ar ben y
Cymry academaidd dosbarth canol Cymraeg a'u bywydau ffug.
Elfen arall yw fod delweddau a motifau'r Mabinogi yn gwau drwyddi.
Yn ogystal 芒 chael ein tywys i leoedd fel Aberhenfelen fe gawn gyfarfod
rhai o'r cymeriadau - Math, Rhiannon, Branwen, Efnisien - maen nhw
yma i gyd.
Dyma yn fwy na dim sy'n gwneud Dial yr Hanner Brawd mor wahanol
ac yn llawer mwy na nofel lofruddiaeth yn unig.
|
|
|