|
|
Cofiwch
am yr eliffant!
Apelio am gymryd gofal o drysorau eglwysig sydd mewn peryg
Gorffennaf 2003
|
Eglwysi Cymru a'u Trysorau gan Edgar W. Parry. Gwasg Carreg Gwalch.
拢4.75.
Eliffant gyda thraed ceffyl, llwynog mewn dillad mynach, pelican 芒
phedwar cyw yn ei nyth - dim ond rhai o'r symbolau annisgwyl sydd
i'w gweld mewn eglwysi ar hyd a lled Cymru.
Ond er cymaint sydd i'w weld, gofid awdur llyfr sydd newydd ei gyhoeddi
am hynodion eglwysig yw fod cymaint o 'drysorau' wedi eu colli dros
y blynyddoedd.
Colli cyfoeth
Dro ar 么l tro y mae Edgar W. Parry yn cwyno am yr anfadwaith a fu
yn ein heglwysi gyda chrefftwaith cain wedi ei rwygo a'i ddifetha
a hyd yn oed ei losgi.
Mae'n galaru "gymaint y golled a gawsom trwy'r chwalu didrugaredd
a fu ar waith coed cerfiedig gan y dryllwyr delwau."
A rhybuddia fod y perygl yn parhau gan alw'n daer arnom i fod ar ein
gwyliadwriaeth i ddiogelu'r hyn sy'n aros.
Ymddengys nad anfadwaith bwriadol oedd hwn bob amser ac yn ei gyfrol
mae'n nodi sawl enghraifft "lle mae'r eglwysi a'u cynnwys wedi eu
difetha yn llwyr gan y rhai oedd yn eu hatgyweirio."
O ganlyniad, does yna ddim, erbyn heddiw, o'r gwaith coed gwreiddiol
i'w weld yn y Gadeirlan ym Mangor.
Ffenestri godidog
Digwyddodd llawer o'r difrod y mae'n cwyno amdano yn ystod y cyfnod
Fictoraidd ond ochr yn ochr 芒 hynny bu'r Fictorianiaid yn gyfrifol
hefyd "am osod nifer fawr o ffenestri lliw godidog mewn llawer iawn
o eglwysi, yn ogystal 芒 gwneud gwaith haearn addurnedig gwych."
Yr ochr gadarnhaol i bethau, er gwaethaf popeth, yw fod llawer o bethau
gwych i'w gweld o hyd yn ein heglwysi a dywed mai un o ryfeddodau'r
cyfnod presennol o ostyngiad mewn cynulleidfaoedd yw fod mwy a mwy
o bobl yn mwynhau ymweld ag eglwysi hyd yn oed os nad yw hynny
er mwyn addoli!
Trysorau'n llechu
Ac ymddengys na ddylai'r sawl sy'n chwilio am ryfeddodau gael ei ddallu
i gyrchu'r mawr a'r ysblennydd yn unig, ychwaith.
"Yn yr eglwysi lleiaf a mwyaf diarffordd yn aml gellir gweld trysorau'n
llechu; a'r trysorau hynny'n rhai amhrisiadwy. Ymhle arall y gallwn
weld cymaint o drysorau sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd ac ymhle arall
y cawn ni weld cymaint o waith coed cerfiedig a hynafol? Mae'r rhain
yn drysorau gwirioneddol werthfawr ac yn llawn deilwng o'n sylw a'n
gofal," meddai.
Mae'n cyflei y synwyrusrwydd arbennig yna a berthyn i'r profiad o
ganfod gwaith crefftwyr sydd wedi hen adael y byd hwn:
"Wrth gydio yn y coed hyn heddiw a theimlo llaw y crefftwyr cynnar
rydym yn pontio gagendor o dros bum can mlynedd . . . . Mae'r cyfrifoldeb
yn pwyso'n drwm arnom," meddai.
Y dyfodol
Mae'r her o ddiogelu'r cyfoeth hwn yo'r pwys mwyaf i Edgar W. Parry:
"Ond beth am y dyfodol? Ydym ni am adael i'n heglwysi hynafol fynd
yn adfeilion unwaith eto? Mae'r ffaith fod yn rhaid i nifer ohonynt
gau yn sicr o fod yn creu problemau mawr cyn belled ag y mae'r trysorau
hyn yn y cwestiwn. Beth sydd am ddigwydd iddynt?" meddai gan ddisgrifio
rhai o'r sgriniau eglwysig sydd wedi goroesi fel "trysorau cenedlaethol".
"Ac yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd yn rhaid i ni fod yn barod i gymryd
gofal ohonynt. Sut allwn ddisgwyl i gynulleidfa o ddeugain fod yn
gyfrifol am ambell i drysor fel hyn?"
Dywed mai ei obaith yw y bydd llyfr fel ei un ef sy'n tynnu sylw at
yr amryfal drysorau yn pigo cydwybod pobl i weithredu.
Cyfoeth y sgriniau
Mae peryg fod y gair trysorau yn rhoi camargraff yn y cyd-destun
hwn gan mai s么n yn ydym nid am drysor yn yr ystyr gyffredin ond am
gerfiadau ac addurniadau a'u tebyg sydd yn rhan hanfodol o adeiladau
eglwysig.
Dyna'r sgriniau er enghraifft - dyfais yn wreiddiol i wahanu'r offeiriad
a'r gynulleidfa:
"Roedd yn bwysig iawn fod y gwahaniaeth mawr rhwng yr offeiriad a'i
gynulleidfa yn cael ei gadw mewn ffurf oedd yn eglur vi bawb. I ddangos
hyn, codwyd barau o goed gyda lliain drostynt i gau'r allor o olwg
y gynulleidfa, a dyna oedd y sgriniau cynharaf. Roedd yn weithred
anghysegredig i unrhyw un heblaw am offeiriad, i fynd drwy'r llen
"Gyda threiglad y blynyddoedd daeth y sgr卯n yn bwysig (ac) wrth i'r
sgr卯n ennill pwysigrwydd cai'r crefftwyr gyfle i ddangos eu gallu
ac i greu'r rhwyllwaith arbennig a welir yn sgriniau 'r Canol Oesoedd,"
meddai.
Eliffantod a llwynogod!
Gwn芒i'r hen grefftwyr ddefnydd helaeth o symbolau ac y mae pennod
am hynny yn un ddifyr iawn yn cyfeirio at:
Sarff fytholegol a chanddi ail ben, ym mlaen ei chynffon, yn
cynrychioli dichell.
Llwynog mewn dillad mynach yn pregethu i gynulleidfa o adar
neu, yn Nhyddewi, llwynog mewn dillad merch gyda chadach am ei ben
a theisen yn un law a phl芒t gwag yn y llall. Yn eglwys Gresffordd
mae mewn pulpud yn pregethu i geiliog a naw o ieir!
Y Pelican yn symbol o'r Crist croeshoeliedig oherwydd cred fod
yr aderyn hwn yn bwydo'i gywion a'i waed ei hun.
Er bod sawl cerfiad o eliffant anaml, meddai Edgar W. Jones,
y mae'r darlun yn un cywir. "Fe'i gwelir weithiau gyda thraed ceffyl
a thro arall gyda chlustiau tebyg i rai ci!.
I gloi ei gyfrol mae'n cyfeirio mewn rhywfaint o fanylder at eglwysi
penodol fel Llanfaes a Biwmares, Eglwys Fair ac Eglwys Dewi Sant Y
Drenewydd, Llanengan ac yn y blaen.
Cyfrol ddifyr sy'n cynnwys nifer o luniau.
|
|
|