|
|
Dihangfa
mewn syrcas
Nofel gyntaf yn creu awydd am fwy
Awst 2003
|
Hogyn Syrcas, gan Mary Annes Payne, Gwasg Gomer, 2003, 82 tt. 拢4.95.
Adolygiad gan Grahame Davies.
Mae rhywbeth anfarwol am atgofion plentyndod. Yn aml iawn, nid y pethau
arwyddocaol a gofir ond, yn hytrach, y manylion ymddangosiadol ddibwys
- blas, arogl, swn.
Camp Mary Annes Payne yn Hogyn Syrcas yw iddi gyplysu ymwybyddiaeth
plentyn gyda chrebwyll a dirnadaeth oedolyn wrth iddi ddarlunio plentyndod
digon garw ei phrif gymeriad.
Nid yw broliant y clawr, na chwaith dudalen agoriadol y gyfrol, yn
gadael ichi gredu mai rhyw fagwraeth Enid Blytonaidd y mae Geraint
yn ei chael: "Y bastad bach" yw o i'w rieni.
Ac yntau'n blentyn cyfreithlon iddyn nhw! Dyn a wyr beth fyddan nhw
wedi ei alw pe bai'n blentyn llwyn a pherth go iawn.
Alcoholig a breuddwydiwr
Mae mam Geraint yn alcoholig a'i dad yn freuddwydiwr mawr ei gynlluniau
ond bach ei lwyddiant. Ac ar ben hynny, mae'r teulu i gyd yn cael
eu hystyried yn garidyms gan weddill trigolion parchus Llwyn Berth,
sy'n bentref dychmygol rhywle yng ngogledd orllewin Cymru, rywbryd,
mi dybiaf, yn y chwedegau.
Darlunir profiadau Geraint yn gynnil iawn: "Be dw i'n gofio? Ogla
saim chips a huddug, y fflamau'n dawnsio yn y gr芒t, fel fi'n dawnsio
wrth beltan fy mam."
Caiff Geraint druan sawl peltan, yn llythrennol ac yn ffigurol, wrth
i'r naratif symud yn ei flaen
. A rhaid yw canmol crefft yr awdures, sydd yn llwyddo i osgoi sentimentaleiddiwch
a gormodedd ill dau wrth iddi lynu at bersbectif y plentyn yn effeithiol
ac yn awgrymog o gryno drwy gydol troeon ei stori.
Celfydd ac argyhoeddiadol iawn hefyd yw ei defnydd o'r iaith lafar.
Gobaith mewn adfyd
Yr hyn a rydd obaith i Geraint yn ei adfyd yw'r syrcas a ddaw i'w
gymuned bob hyn a hyn gyda sbloet o liw a rhamant, ac a ddaw'n symbol
o ddihangfa ac o ryddid iddo.
Yr hyn a amharodd ryw ychydig ar fy mwynhad o'r nofel fach hon oedd
y diweddglo, oedd, ar yr un pryd, braidd yn frysiog ei ddigwyddiadau
ac yn rhy amhendant ei gynnwys emosiynol.
Gobeithio gweld mwy
Nofel gynta Mary Annes Payne yw hon, ac un a ddaeth yn agos at y brig
yng Nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Nhyddewi yn 2003.
Rwy'n mawr obeithio y gwelwn fwy ganddi. Does dim dwywaith am ei chynildeb
a sicrwydd ei gafael ar yr iaith lafar ac ar y grefft o ddarlunio
awyrgylch, cymeriad a golygfa.
Wedi'r rhagflas hwn, edrychwn ymlaen at weld gwaith mwy estynedig
a mwy uchelgeisiol fyth.
Cyfle i chi drafod llyfrau ebostiwch
|
|
|