|
|
Amrywiaeth
athrylith Iolo
Cynhadledd yn chwilio
pac Iolo Morganwg
Gorffennaf 2003
|
A fu unrhyw Gymro a ysgogodd gymaint o drafod a dadlau a dicter -
yn arbennig ymysg y Cymry-Cymraeg - a Iolo Morganwg?
Tua dwy flynedd yn 么l cychwynnodd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a
Cheltaidd Prifysgol Cymru ar y gwaith enfawr o archwilio dogfennau
a phapurau'r rhyfedd Edward Williams - y saer maen, hynafiaethydd,
dyn busnes, amaethwr, athrylith a ffugiwr o Forgannwg.
Prawf o'r diddordeb sydd yn Iolo yw fod ystafell Cyngor, Llyfrgell
Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn llawn ddydd Sadwrn, Gorffennaf
5, 2003, ar gyfer cynhadledd undydd amdano.
Yr un diwrnod ag yr oedd Gorsedd y Beirdd yn cynnal seremoni cyhoeddi
Eisteddfod Genedlaethol 2004 yng Nghasnewydd daeth pobl ynghyd o bob
rhan o Gymru i Aberystwyth hefyd wrando ar saith o ddarlithoedd difyr
a diddorol am y gwr a greodd ddefodau'r Orsedd.
Ardderchog bod y Ganolfan yn trefnu'r ysgol undydd hon, sydd, fe ymddengys,
yn ddigwyddiad blynyddol bellach.
Cysylltiadau a gelynion
Darlith gyntaf y dydd oedd un Dr David Ceri Jones ar gysylltiadau
a phrofiadau Iolo yn Llundain - cyfnod cynnar yn ei hanes. Gwnaeth
gysylltiadau - a gelynion - yno. Yn eu plith Gwallter Mechain, a'r
Bwrdd Amaeth, a pheri iddo wneud ei astudiaeth gynhwysfawr o'i hoff
Forgannwg.
Cafwyd
ymdriniaeth o Weledigaeth Farddol Iolo - Y Gogledd 'Barbaraidd'
a'r De 'Gw芒r gan Dr Cathryn Charnell-White.
Cymaint oedd athrylith Iolo, canfyddodd debygrwydd rhwng y canu cynganeddol
Cymreig a mesurau traddodiadol barddoniaeth skaldig ac eddig
yr hen Nors - neu Islandeg.
A chysylltu'r ddau draddodiad drwy Gruffydd ap Cynan, yr hanner Viking!
Gwelodd Iolo gysylltiad arall yn 么l Charnell-White, sef bod y Norsmyn
a'r gogleddwyr weithiau'n ysbaddu dynion! Unrhyw beth i enllibio'r
Gogs!
Y cyntaf i weld
Mwy gw芒r a mwynach oedd dylanwad Trwbadwriaid De Ffrainc ar ganu Dafydd
ap Gwilym yng ngolwg Iolo ac mae'n debyg mai Iolo oedd y cyntaf i
weld y tebygrwydd hwn.
Ond iddo honni mai drwy Normaniaid Bro Morgannwg y bu'r croes ffrwythlonni
a hynny braidd yn anodd i'w dderbyn oherwydd natur stor茂ol y traddodiad
Normanaidd - cymharer 芒 Chaucer oedd yn cydoesi'n agos 芒 Dafydd a
Gwilym, ond ei waith yn llawer nes at y Normaniaid o ran natur.
Enghraifft, hwyrach, o Iolo'n gweld y cysylltiad ond yn creu llinyn
i'w bwrpas ei hun.
Weithiau'n gyfeillgar weithiau'n stormus
Mewn darlith afieithus gan Glenda Carr cafwyd darlun o berthynas,
weithiau'n gyfeillgar, dro arall yn stormus, Iolo, William Owen Pughe
ac Owain Myfyr.
Y tri rhyngddynt yn achub llwythi o lawysgrifau Cymraeg hen lyfrgelloedd
y plastai oedd ar fin mynd rhwng y cwn a'r brain.
Cafwyd stori ddifyr a chyffrous Achos Llys Tomos Glyn Cothi,
y Gweinidog Undodaidd a garcharwyd am ddwy flynedd am geisio ysgogi
terfysg drwy ganu c芒n mewn achlysur "Cwrw Bach".
Y g芒n, yn 么l pob tebyg, oedd cyfieithiad Cymraeg Iolo o'r Marseillaise.
Barddoniaeth Saesneg Iolo
Bu dwy ddarlith ar farddoniaeth Saesneg Iolo, Poems, Lyrical and
Pastoral, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn ystod y cyfnod a dreuliodd
yn wr ifanc yn Llundain.
Fe'u gosodwyd yn nhraddodiad a chyd-destun beirdd y dosbarth gweithiol
gan Dr Tim Burke, St Mary's College, Strawberry Hill, Llundain, ochr
yn ochr a beirdd fel yr Albanwr Robert Burns, y Sais John Clare ac
Ann Yearsley.
Fel y nododd Burke, ystryw yn aml, i hybu gwerthiant, oedd cyfleu'r
syniad fod rhyw fardd neu'i gilydd yn ddi-ddysg acyn athrylith naturiol
a dyfodd o'r tir a cheisiodd Iolo odro'r fuwch honno drwy ddangos
ei fod yn perthyn i'r , yntau, dosbarth gweithiol er mwyn denu nawdd
a/neu danysgrifwyr i'w gyfrol arfaethedig.
Nodiadau ymfflamychol
Mwy diddorol fyth oedd darlith Dr Mary-Ann Constantine o'r Ganolfan
Uwchefrydiau a gymharodd yn gampus ragair tanllyd y Poems, Lyric
and Pastoral - "un o'r cyflwyniadau mwyaf cwerylgar a sgriofennwyd
erioed i gyfrol o farddoniaeth" - gyda'r niferus droed nodiadau ymfflamychol
i gerddi yr oedd llawer ohonyn nhw yn ddof a di-awen.
Da
o beth fu iddo gefnu ar iaith ei fam ddi-Gymraeg a chanolbwyntio ar
iaith ei dad hyd yn oed os bu iddo beri poen a thrallod i ysgolheigion
am ddwy ganrif ar 么l hynny.
Gwnaeth Dr Constantine imi feddwl gymaint ragorai ei ryddiaith ar
ei gerddi.
Mab ei dad
Yn narlith Dr Brinley F. Roberts, Taliesin ab Iolo: Mwy na mab
ei dad, cafwyd hanes y mab a gafodd ei drwytho gan y tad, ddaeth
yn ysgolfeistr cydwybodol ac uchel ei barch ym Merthyr.
Gwr oedd yn troi yng nghylchoedd Arglwyddes Llanofer, Charlotte Guest,
Carnhuanawc a Maria Jane Williams.
Y dyn a ddiogelodd lawysgrifau Iolo ac oni bai amdano ef ni fuasai
dim i weithwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol
Cymru gael eu dannedd ynddynt.
Gallesid son am rai o'i ddisgyblion diddorol. Un oedd William Thomas
Lewis, diwydiannwr a gomisiynodd ffenestr liw hardd sydd i'w gweld
yn Eglwys Cathryn ym Mhontypridd, darlun o Garadog yn garcharor yn
Rhufain.
Wedi marw W. T. Lewis comisynodd ei deulu ddwy ffenestr sydd i'w gweld
yn Eglwys Gadeiriol Lland芒f - un yn darlunio'r saint a'r llall y brenhinoedd
Cymreig, gan gynnwys Arthur!
Yn ddi-ddadl mae 么l llaw ei gyn-athro, Taliesin ab Iolo, heb son am
Iolo ei hun, yn amlwg yma.
Disgybl arall iddo, yn ddiau, oedd ei fab Edward Williams, ddaeth
yn rheolwr gwaith haearn yn Nowlais, sylfaenydd Cymdeithas Peirianwyr
De Cymru (South Wales Institute of Engineers), ac ar 么l hynny rheolwr
un o weithiau dur mwyaf Prydain, yn Middlesborough.
Edward Williams y tadcu (sef Iolo) yn sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys
Prydain; ei wyr, o'r un enw, yn sefydlu Cymdeithas y Peirianwyr.
Mae'r maes yn ddi-derfyn.
Gwefan berthnasol:
|
|
|