|
|
Gwneud
golchi dwylo yn hwyl
Tywysoges fach fuddiol i'r plant
Mai 2003
|
Cyfres y Dywysoges Fach. Colli Dant; Golcha Dy Ddwylo a Chwaer Rydw
i Eisiau. Gwasg Carreg Gwalch. 拢4.50 yr un.
Llyfrau tlws yn ceisio annog plant i wneud y pethau iawn fel golchi
eu dwylo cyn bwyta ac ar 么l bod yn y ty bach ydi'r rhain.
Yn 么l y clawr mae'n gyfres sydd wedi cael "derbyniad gwych" gan rieni
ac ysgolion "mewn sawl iaith ar draws y byd".
Cyfeirir at gyfuniad o hiwmor a thestun trafod.
Gellir ychwanegu at hynny luniau rhagorol a chymeriadau doniol fel
Llyr Llwy Bren y cogydd, y Forwyn Ferona ac Anwen Agor yn Fawr y ddeintyddes.
Yn Saesneg yr ymddangosodd y llyfrau gyntaf a chan mai Myrddin ap
Dafydd biau'r addasiad Cymraeg gallwn fod yn hyderus fod y Gymraeg
yn naturiol ac yn llithrig ac wedi ei saern茂o yn y fath fodd ag i
ychwanegu at eirfa'r plant bychain fydd yn ymh茅l 芒'r llyfrau.
Maen nhw'n llyfrau sy'n addas ar gyfer plant sy'n dechrau darllen
neu blant y mae eu rhieni yn darllen iddyn nhw.
Gwers amlwg Golcha Dy Ddwylo ydi'r angen i blant olchi eu dwylo yn
dilyn gwahanol gweithgareddau ond llwyddir i osgoi gwneud hynny yn
null llawlyfrau iechyd neu'n bregethwrol. Mae yma dipyn o hwyl hefyd.
Mae Colli Dant, wedyn, yn ymwneud ag edrych ar 么l y dannedd a'r angen
i'w bwrsio bob dydd ac unwaith eto mae yna hiwmor nid yn unig yn y
geiriau ond yn y lluniau.
Yn Chwaer Rydw i Eisiau mae mam y Dywysoges Fach sy'n brif gymeriad
y tri llyfr yn disgwyl plentyn a'r fechan yn mynnu nad brawd mae hi
eisiau gan fod brodyr "yn drewi" ymhlith pethau annymunol eraill.
Wrth
gwrs pan fo brawd yn cael ei eni mae'r fechan yn ei dderbyn a'r teulu'n
hapus ac yn gytun fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn straeon
o'r fath.
Eilbeth yw'r awydd i ddweud stori yn y math yma o lyfrau ac y maen
nhw, fel sy'n gyffredin y dyddiau hyn, yn gwbl wleidyddol gywir eu
hamcan a'u hysbryd.
A chymryd bod angen i'r math yma o lyfrau mae'r rhain yn cyflawni
eu swyddogaeth heb eu hail.
|
|
|