|
|
Y
gwyllt mewn peryg
Rhybudd naturiaethwr mewn llyfr am fywyd gwyllt
Ebrill 2003 |
Welsh
Wildlife gan David Jones. Y Lolfa. 拢4.95.
Y mae'r geiriau hynny gan Saunders Lewis sydd mewn peryg o gael eu
hailadrodd hyd at syrffed yn cael eu dyfynnu mewn cyswllt mwy anarferol
- ond llythrennol bron - mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.
Mae Gwinllan a roddwyd i'n gofal yw Cymru fy ngwlad/ I'w thraddodi
i'm plant,/ Ac i blant fy mhlant,/ Yn dreftadaeth dragwyddol,
yn gorffwys yn gwbl naturiol fel cyflwyniad i Welsh Wildlife,
llyfr gan David Jones am y bywyd gwyllt, naturiol sydd yng Nghymru.
Yn gyfrol fechan 拢4.95 mae'n rhywfaint o ofid nad yw ar gael yn y
Gymraeg hefyd.
Trydydd llyfr
Brodor
o Gasnewydd ydi'r awdur a dyma ei drydydd llyfr am fyd natur Cymru.
Mae'n ymddangos yng nghyfres ddifyr It's Wales Gwasg y Lolfa
gan gymryd ei lle'n gysurus ochr yn ochr a theitlau fel Welsh Organic
Recipes, Welsh Mountain Walks, Welsh Railways, Welsh Rugby Heroes,
Welsh Place Names ac yn y blaen.
Er yn gyfrol denau 106 dalen mae Welsh Wildlife yn adlewyrchiad
teg o'r amrwyiaeth o fywyd gwyllt sydd yna yng Nghymru gyda'r awdurr
yn rhyfeddu fod cymaint amrywiaeth mewn gwlad o ddim ond rhyw 20,763
kilometr sgw芒r.
Amrywiaeth ryfeddol
"Mae gan Gymru amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd," meddai - a'r rheini
yn amrywio o uchelderau'r Wyddfa i wastadeddau Gwent.
Canlyniad y fath amrywiaeth o dirwedd yw amrywiaeth gyfatebol mewn
anifeiliaid a phlanhigion ac y mae penodau yn y llyfr am Flodau, Rhedynnau,
Coed, Adar, Mamaliaid, Amffibiaid, Pysgod, Gwyfynnod a Gloynnod a
chreaduriaid heb asgwrn cefn.
Mae yna luniau - rhai camera a rhai pin ac inc - ond does yna ddim
llun o bob peth.
Er mai llyfr Saesneg yw hwn byddai wedi bod yn braf gweld cynnwys
enwau Cymraeg yr holl rywogaethau sy'n cael sylw ochr yn ochr a'r
enwau Lladin gan fod rhyw gyfaredd arbennig yn perthyn i enwau Cymraeg
rhai blodau ac anifeiliaid.
Hanner cant o rywogaethau sy'n cael sylw yma a chan ddyfynnu'r naturiaethwr
arall hwnnw, William Condry, mae David Jones yn pwysleisio y byddai
angen cyfrol wyddoniadurol ei maintioli i dynnu sylw at bopeth.
Y winllan dan warchae
Mae ganddo air o rybudd hefyd - yr un gair o rybudd ag sydd yna yng
ngeiriau aml-ddyfynedig Saunders Lewis.
Ydi, mae'r winllan naturiol hefyd dan warchae ac wrth gyfeirio at
fwy nag un rhywogaeth y mae gofidio ei fod yn prinhau.
"Bu harddwch cymhleth y tirwedd Cymreig dan ymysodiad dros yr hanner
can mlynedd diwethaf," meddai gan feio mawredd galluoedd peiriannyddol
dyn a'i ystyriaeth bitw o'r byd o'i gwmpas.
Diflannodd miloedd o filltiroedd o wrychoedd ac hyd at 90% o'r gweirgloddau
heb s么n am rostiroedd a gweunydd - y cyfan oll ond yn rhan o'r pris
a dalwyd am y pwyslais ar elw mewn amaethyddiaeth.
Y canlyniad yw fod erwau lawer o dir yn hesb o fywyd gwyllt.
Y frwydr wedi ei cholli?
"Byddai'r sinigiaid yn awgrymu bod y frwydr am gefn gwlad wedi ei
cholli yn barod,; fod y mudiad cadwriaethol wedi ei rwymo mewn ymdrech
olaf, enbyd, i gadw rhywbeth, unrhywbeth o dirwedd sydd wedi ei rhwygo,"
meddai.
Dydi o, fodd bynnag, ddim mor sicr ei bod ar ben arnom yn y cyswllt
hwn ond y mae yn rhybuddio fod yn rhaid i agweddau newid.
"Mae'n wir," meddai, "nad mewn ychydig warchodfeydd y gorwedd tynged
cefn gwlad a dyfodol bywyd gwyllt Cymru ond yn ffordd dyn o feddwl.
Ac mae'n berffaith glir, os na fydd y ffordd honno o feddwl yn newid
yn sylweddol . . . fe ddaw yn fater o bethau oedd yn arfer bod, ond
nad ydynt mwyach."
Yn y cyfamser mae Welsh Wildlife yn ein tywys trwy wlad lle
mae y pabi Cymreig, grugeiir duon, brain coesgoch, cornchwiglanod,
llamhidyddion, geifr gwyllt, boncathod a'r wyrth yna o aderyn a achubwyd
o ddibyn difodiant, y barcud coch, yn parhau yn bethau i ryfeddu atyn
nhw - er bod rhai ohonyn nhw yn mynd yn brinach, brinach.
|
|
|