|
|
Gaby'n
sgorio dros lyfrau
Dangos fod darllen yn gêm werth chweil
Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
|
Mae'r pyndit chwaraeon o fri, Gaby Logan, wedi rhoi ei henw ar lyfrau
tîm Cyngor Llyfrau Cymru - a hynny am y ffi leiaf erioed yn hanes
pêl-droed – dim.
Ei thasg fydd hyrwyddo Diwrnod y Llyfr, Cymru sy'n cael ei gynnal
ar Fawrth 6.
Merch Terry Yorath yw’r seren ddiweddaraf i ymuno â’r tîm a fydd yn
hyrwyddo'r Diwrnod gyda'r nod o gael pobl o bob oed i ailddarganfod
y mwynhad a geir o ddarllen.
Mae Gaby i’w gweld ar y posteri diweddaraf "Bacha Lyfr!" a fydd yn
ymddangos ledled Cymru tua diwedd Ionawr ac ar dudalennau gwe arbennig
i hyrwyddo Diwrnod y Llyfr ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru – www.cllc.org.uk
– lle bydd yn rhoi neges ddwyieithog i gefnogi’r ymgyrch.
Yn ei neges at ddarpar ddarllenwyr, mae Gaby’n dweud: "Mae darllen
mor gyffrous. Does dim yn well gennyf nag ymgolli mewn llyfr sy’n
hoelio’ch sylw – rhowch gynnig arni, byddwch wrth eich bodd."
"Mae Diwrnod y Llyfr yng Nghymru yn syniad ardderchog ac mae’n bleser
mawr gen i gefnogi’r achlysur a fydd, gobeithio, yn annog pobl o bob
oed i godi llyfr a darllen," meddai.
Dywedodd Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru: "Rydyn ni wrth ein
bodd bod Gaby wedi dod i’r maes i gefnogi Diwrnod y Llyfr, Cymru –
gobeithio bod hyn yn profi y gall cefnogwyr pêl-droed hefyd fwynhau
darllen ac y gall darllen llyfrau apelio at bawb, beth bynnag eu hoed
a’u diddordebau."
Bydd dathliadau Diwrnod y Llyfr yn dechrau ymhell cyn y Diwrnod ei
hun gyda cannoedd o ddigwyddiadau mewn ysgolion, llyfrgelloedd a siopau
llyfrau.
Bydd sefydliadau fel yr Academi, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trefnu gweithgareddau hefyd.
"Rydyn ni’n gobeithio ailadrodd y llwyddiant a gafwyd y llynedd pan
fu miloedd o bobl ym mhob rhan o Gymru'n cymryd rhan yn y gweithgareddau
ac yn gobeithio rhwydo hyd yn oed fwy o gefnogwyr eleni er mwyn sicrhau
buddugoliaeth i'r llyfr," meddai Delyth.
Un llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n siwr o fod o ddiddordeb
arbennig i Gaby yw, Mae'r Byd yn Grwn gan Dylan Llewelyn sydd
yn ateb
Holiadur
Llais Llên
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|