|
|
Diolch
am weledigaeth
Taflu goleuni newydd dros gelfyddyd y Celtiaid
Dydd Iau, Ionawr 2, 2003
|
Y Weledigaeth Geltaidd - John Meirion Morris. Y Lolfa 拢24.95
Adolygiad: Lois Eckley
Does dim syndod mawr yn newis John Meirion Morris o destun yn ei lyfr
newydd, Y Weledigaeth Geltaidd.
Yn gerflunydd amlwg sydd wedi anwesu鈥檙 traddodiad Celtaidd yn ei waith
ei hun, bu鈥檙 llyfr yn gyfrwng newydd iddo ategu at yr hyn y mae eisoes
yn ei ddweud yn ei waith.
Symbolau yn eglur
Mae鈥檙 llyfr lliwgar yn astudiaeth o waith y Celtiaid yn bennaf o gyfnod
La Tene, a thrwy iaith a delweddau daw symbolau yn eglur.
Yr hyn sydd yn amlygu yn y llyfr yw鈥檙 cymhlethdod oedd yn perthyn
i鈥檙 bobl hyn a dadl John Meirion Morris yw bod mwy o ystyr yn perthyn
i鈥檙 patrymau plethedig na鈥檙 hyn sydd wedi ei ddadansoddi cyn hyn.
.
Gyda geiriau mae'n rhoi cnawd ar gyfnod a chreiriau sydd wedi bod
yn y niwl i nifer o haneswyr ac, yn raddol, mae鈥檙 awdur yn ein tywys
ni o ddelweddau a thlysau i arfau mewn rhyfel gan gyflwyno gogwydd
newydd ar siapiau a chelfyddyd sy鈥檔 hen hysbys inni
.
Ymdrech yw鈥檙 astudiaeth hon i ddangos fod y Celtiaid mor gynnar a
chyfnod La Tene 500 CC a 100 OC yn ymwybodol o fywyd a marwolaeth
a myfyrdod - hynny yw llonyddwch ysbrydol.
Gall yr awdur gynnig engreifftiau inni i gynnal ei ddadl a'i ddamcaniaethau
- ond dyna鈥檙 oll all e wneud gan mai ond barn, damcaniaeth a dehongliad
a allwn ni ei chynnig bellach ynglyn a gwir ystyr celfyddyd y Celtiaid,
wrth gwrs
.
Ac yn hynny o beth, mae鈥檙 llyfr yma yn ddarlleniad ffres o gelfyddyd
a adawyd yn y pridd yn hanesyddol ers tro
.
Diolch felly i John Meirion Morris am ddod a'r byd Celtaidd yn ôl
i鈥檙 amlwg gan godi ar yr un pryd nifer o gwestiynau a thaflu goleuni
newydd dros bobl a oedd o bosib yn fodau gyda mwyaf soffisdigedig
eu cyfnod
am y llyfr
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|