|
|
Dihareb
o lyfr!
Casgliad difyr o ddiarhebion ac idiomau - i ddysgwyr yn bennaf
Dydd Iau, Ionawr 9, 2003
|
Cryno-ddysg y Cymry. Diarhebion ac Idiomau i Ddysgwyr gan Cennard
Davies. Gwasg Prifysgol Cymru. 拢5.99.
Mae'n ymddangos mai'r Oesoedd Canol oedd cyfnod aur diarhebion.
Ond,
ar 么l bod yn addurniadau anhepgor ar iaith daethant yn bethau i'w
difr茂o maes o law a bach yw y deunydd ohonyn nhw erbyn heddiw.
Mwy o drueni fyth yw bod llai fyth o greu rhai newydd.
Fodd bynnag y mae i'r ddihareb o hyd rhyw ap锚l arbennig ac ar ei gorau
gall fod yn brawf o gyfoeth iaith - yn farddoniaeth mewn dillad bob
dydd.
I ddysgwyr a'r rhai sy'n dysgu dysgwyr gallant fod yn 'anifeiliaid'
anodd iawn y'u trin achos er mor gyfforddus yw dihareb mewn un iaith
dydi hi ddim yn trosi'n hawdd i iaith arall - yn enwedig o'i chyfieithu'n
llythrennol.
Bydd, Cryno-ddysg y Cymry, yn gyfaill da i'w gael yn y cyfyngder
hwnnw.
Torchi llewys
Casgliad yw o 165 o ddiarhebion ac idiomau gyda nid un unig gyfieithiad
o'u hystyron ond enghreifftiau o'u defnydd hefyd.
Mae'r awdur, Cennard Davies o'r Rhondda, yn un sydd wedi gwir dorchi'i
lewys gyda, a thros, ddysgwyr dros y blynyddoedd.
Ni fu ffrwyno ar ei ymroddiad a'i gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol
ym maes Cymraeg i oedolion, yn cynnal dosbarthiadau ac yn cyhoeddi
llyfrau i hwyluso'u tasg.
Ef yw awdur Sefyllfa a Sgwrs, Gweld Dweud a gwneud, Lluniau Llafar,
Dros y Bont, Y Geiriau Bach a Torri'r Garw ac y mae hefyd
yn gadeirydd Consortiwm Iaith Morgannwg.
Mae Cryno-ddysg - lecio'r teitl, gyda llaw - yn ychwanegiad
buddiol i'r maes ac yn gyfrol fydd o ddiddordeb i eraill ar wah芒n
i'r "dysgwyr profiadol" yr anelir atyn nhw.
Dewisodd ddiarhebion sydd, ar y cyfan, yn eitha cyfarwydd ond go brin
y bydd pob un yn adnabyddus i bawb.
Yr hyn y mae'n ei gynnig yw cyfieithiad llythrennol o bob dihareb,
eglurhad o'r ystyr ac wedyn enghraifft o'i deunydd gydag o leiaf un
idiom arbennig o fewn yr enghraifft honno.
Mae'r gyfrol yn cloi gyda geirfa a rhestr o'r holl idiomau yn amrywio
o, a dweud y gwir, i beirniadu'n hallt, bwrw gwreiddiau,
yn 么l y s么n, yn graig o arian ac yn y blaen.
Hanes y ddihareb
Mewn rhagymadrodd mae'n rhoi peth o hanes y ddihareb gan ddweud:
"Yn ystod yr Oesoedd Canol, mae'n debyg y byddai diarhebion yn cael
eu defnyddio'n aml wrth siarad, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg
a'r ail ganrif ar bymtheg, byddent yn cael eu hystyried yn addurn
angenrheidiol ar iaith lafar ac iaith ysgrifenedig gwyr diwylliedig
yr oes.
"Fodd bynnag, erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg roedd eu seren
dan gwmwl, ac ym marn un awdur o Sais nid oeddent ond yn 'vulgar
sayings, only fit for ignorant men'. Barn y nofelydd Jane Austin
amdanynt oedd eu bod yn 'gross and illiberal'," meddai.
Nid pawb oedd mor unllygeitiog a chyn cyhoeddi unrhyw lyfrau
o gwbl, meddai Cennard Davies, roedd llawysgrifau yn y ddeuddegfed
ganrif yn cynnwys casgliadau o ddiarhebion Cymraeg - Llyfr Du o'r
Waun (13g) Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest
(14g) er enghraifft.
Iolo Morganwg
"Gwelai Iolo Morganwg werth diarhebion a dywedodd . . . ei fod ef
ei hun wedi rhestru 'upwards of 60,000' a berthynai i'w annwyl Forgannwg,"
meddai Cennard Davies gan ychwanegu mai ofn mawr Iolo oedd "y byddai
Methodistiaeth yn bygwth yr hen ddysg, a chredai fod angen cofnodi'r
cyfoeth a oedd ar lafar gwlad ar fyrder cyn iddo ddiflannu am byth."
Yn hynny o beth, bu'n ysbrydoliaeth "i nifer o hynafiaethwyr amatur
y bedwaredd ganrif ar bymtheg."
Casgliadau mwy diweddar y mae'n eu henwi yw un gan William Hay yn
1955 a Diarhebion Cymraeg - Welsh Proverbs gan J. J. Evans
a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1965.
Er nad yw'n cael ei grybwyll gan Cennard Davies y mae casgliad hynod
o ddifyr Gwernyfed a gyhoeddwyd yn y Genhinen yn 1884 a 1895 o "Ddiarhebion
Lleol" ardal Merthyr Tudful i'w gweld ar wefan Cymru-Catalonia
ar y We.
Tebyg at ei debyg
Buddiol yng Nghryno-dddysg y Cymry . yw croes gyfeiriadau Cennard
Davies at ddiarhebion eraill sy'n dweud yr un peth mewn ffordd wahanol..
Er enghraifft, dan Natur y cyw yn y cawl y mae'n ein cyfeirio
hefyd at:
Ail fam fydd y ferch
Anodd dwyn dyn oddi ar ei dylwyth
Fel y fam y bydd y ferch
Lle crafa'r i芒r y piga'r cyw
Tebyg i ddyn fydd ei lwdn
A than Hir ei dafod, byr ei wybod
mae'n tynnu sylw hefyd at
A wyr leiaf a ddywed fwyaf
Mwyaf trwst llestri gweigion
Hoff gan bob aderyn ei lais ei hun
Mwyaf ei fost, lleiaf ei orchest.
sydd 芒'u hadran eu hunain yn y llyfr.
Gwahanol ddehongliad
O ddarllen yr eglurhad mae'n ddiddorol sylwi hefyd sut y gall yr un
ddihareb olygu rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r
wlad.
Er enghraifft i mi mae'r ddihareb neu ddywediad Pen punt a chynffon
ddimai yn cyfleu'r neges debyg i'r dywediad Saesneg am geiniogwerth
o dar yn difetha llong ond ychydig yn wahanol i'r disgrifiad amrwd
hwnnw - gyda'i ensyniad o ragrith - o ferch mewn c么t ffwr ond heb
nicyrs!
Hynny yw, fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun y mae ei holl wisg yn
hynod drwsiadus ar wah芒n i un eitem - rhywun mewn siwt grand ond 芒
hen fflachod am ei draed.
Y dehongliad yn Cryno-ddysg, ar y llaw arall, yw ei fod yn
ddywediad sy'n cyfleu person "sy'n ymddangos yn grand ond sydd, mewn
gwirionedd, yn dlawd" sydd yn ystyr ychydig bach yn wahanol ac yn
nes at y "Fur coat and no nickers" Saesneg.
Byddai'n
gwbl annheg s么n am y llyfr hwn heb dynnu sylw hefyd at y cartwnau
du a gwyn gan Rhys Bevan Jones ochr yn ochr 芒 rhai o'r diarhebion.
Maen nhw'n hyfryd a llawn hiwmor.
Cyfrol fuddiol i ddysgwyr ac un ddifyr i unrhyw un arall sy'n ymhyfrydu
mewn iaith a'i chyfoeth a'i nodweddion
Holi awdur
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|