|
|
Môr
o brofiad
Ton ar ôl ton o bleser mewn cyfrol am deulu hynod
Dydd Iau, Ionawr 16, 2003
|
Morwyr y Cilie gan Jon Meirion Jones. Cyhoeddiadau Barddas.
£15.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Mewn oes pan fo’r mwyafrif o lyfrau Cymraeg a gyhoeddir yn fach a
thenau amheuthun yw cyfrol sylweddol Morwyr y Cilie gan Jon
Meirion Jones.
Mae’n fawr ei maint, sylweddol iawn ei chynnwys ac yn chwaer barchus
i’w gyfrol flaenorol, Teulu’r Cilie, a gyhoeddwyd ym 1999.
Mae
cyfanswm y gwaith ymchwil ynddo’i hun yn syfrdanol ac ychwanegol at
y portreadau difyr o’r 11 aelod o’r teulu amryddawn a fentrodd i’r
môr cawn ddarlun gwerthfawr o ddigwyddiadau canrif gythryblus drwy
lygaid dynion a merched cyffredin.
Cyffredin eu byd anghyffredin eu doniau
Cyffredin eu byd – oherwydd doedd dim arall yn gyffredin am deulu’r
Cilie.
Simon B. Jones - y B. am Bartholomew - oedd yr unig un o’r genhedlaeth
gyntaf i fynd i’r môr. Sy’n gwneud imi fod eisiau gofyn a enwyd ef
ar ôl Bartholomew Roberts, Barti Ddu, un o’n morladron enwocaf.
Yn ôl yr awdur, taflodd Simon B. ei bladur i ganol ysgall Pen Foel
Gilie a mynd i’r môr.
Aeth cyn belled a Buenos Aires lle torrodd ei ddwy goes mewn damwain
ddrwg a dyna ddiwedd ei yrfa forwrol.
Rownd yr Horn
Er hynny, myn yr awdur mai ef oedd y morwr enwocaf ohonynt - am iddo
ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 am ei bryddest Rownd
yr Horn.
Mae sawl hanesyn da yn y bennod am Simon B. Fel y bu’n holi’r hen
gapteiniaid yng Nghaerfyrddin am eu profiadau nhw’n hwylio o gwmpas
Cape Horn.
A’r stori ardderchog mai Prosser Rhys, Golygydd Y Faner, a’i
hysbysodd mai ef oedd enillydd y Goron ac yn hawlio cyfweliad ecscliwsif
am y newydd a’r papur ar werth yn union wedi’r seremoni!
Bythefnos wedi cael y newydd gan Prosser Rhys y cafodd y bardd wybod
yn swyddogol gan awdurdodau’r Eisteddfod mai ef oedd yr enillydd!
Hanes cymdeithas
Nid hanes bechgyn y Cilie yn unig a geir yn y gyfrol ond hanes cymdeithas
arfordir godre Ceredigion, y capteiniaid oedd yn hwyluso’r ffordd
i’r bechgyn lleol gael lle ar long.
Daeth tri ohonyn nhw i’r brig – yr Uwchgapten Dafydd Jeremiah Williams,
y Capten John Etna Williams a’r Capten Jac Alun Jones (tad Jon Meirion
Jones) - pob un yn fardd er nad oroesodd dim o waith y Capten John
Etna.
Aeth ag Odl a Chynghanedd Dewi Emrys gydag ef i’r môr ond bu’n
garcharor gan y Siapaneaid a thros dro "collodd ei ddiddordeb yn y
pethau".
Darnau mwyaf hwyliog y gyfrol
Cymeriad lliwgar arall oedd Fred Williams, brawd Dafydd Jeremiah a
John Etna, a "neidiodd long" yn Awstralia a byw yno am bum mlynedd.
Dychwelodd a setlo lawr yn ei hen fro.
Mae ei helyntion yn yr Home Guard yn un o ddarnau mwyaf hwyliog
y gyfrol, yn enwedig gwreiddioldeb ei gofnodion yn y "llyfr boncyff"
(log book).
Mae cannoedd o englynion yn y gyfrol. Dweud y gwir, mae’r awdur yn
manteisio ar bob cyfle ac esgus i lusgo englyn, cywydd neu gerdd i’r
stori – ond dyna fe, byddant yn help i’r gwerthiant.
Hoffais yr englyn Saesneg hwn gan Fred Williams – un o dri am Yr
Home Guard ar Gwm Tydu:
United in our duty, - here we are
The pride of the party;
And tonight – we’d fight if we
Met Adolph at Cwm Tydu.
Canada a Llundain
Mae yma ddarlun ardderchog o fywyd Thomas Ellis Jones a dreuliodd
gyfnod fel lumberjack yng Nghanada ac Elfan James Jones aeth
ar un fordaith ac wedyn mynd yn blismon yn Llundain lle’r oedd adeg
gorymdeithiau Oswald Mosley.
Profiadau Jac Alun Jones, wedyn, ac yntau’n Gapten llong drwy’r ail
ryfel.
I mi, a fagwyd ar Blodau’r Ffair – cylchgrawn a fu’n llwyfan
perffaith i feirdd Y Cilie – Jac Alun oedd yr enwocaf a’r mwyaf lliwgar
o’r teulu.
Gerallt Jones, wedyn ...
Mae hon yn yffach o gyfrol - er bod yr awdur yn or- dueddol i ddilyn
ysgyfarnogod a gresyn na fuasai rhyw olygydd tua Barddas wedi tocio
mymryn ar ei frawddegau weithiau.
Ond pan ydych chi wedi hel cymaint o ddeunydd difyr, mân lwch y cloriannau
yw hyn.
Gresyn, hefyd, na chafodd y clamp o lyfr ardderchog hwn ei rwymo’n
well. Mae fy nghopi i’n ymddatod yn barod er ei bod yn gyfrol naturiol
i bori ynddi’n achlysurol ar ôl ei darllen drwyddi.
- cyfrol flaenorol Jon Meirion Jones
|
|
|