|
|
Merch
mewn
corff bachgen
Penbleth a thro yn nofel ddiweddaraf Mihangel Morgan
|
Pan Oeddwn Fachgen gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. 拢5.95.
Adolygiad gan Elin Wyn Davies
Rwyf wedi bod yn dipyn o ffan o waith Mihangel Morgan ers sawl blwyddyn.
Ers imi fod yn un o'i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth am wn i.
Felly fe wyddwn yn iawn, wrth eistedd i lawr i ddarllen ei nofel diweddara'
Pan Oeddwn Fachgen, nad o'n i am gael amser rhwydd.
Disgwyl yr annisgwyl
Pori trwy'r tudalennau gyda meddwl agored yn disgwyl tipyn o grafu
pen, a dod wyneb yn wyneb 芒'r annisgwyl - dyna, dybiaf i yw'r ffordd
orau i fynd ati i ddarllen nofelau'r awdur hwn.
Dydi Pan Oeddwn Fachgen ddim yn eithriad. "Hanes magwraeth
bachgen yn ne-ddwyrain Cymru'r chwedegau?" yw'r disgrifiad a geir
yn y broliant ar gefn y llyfr gyda'r marc cwestiwn yn codi penbleth
i ddechrau.
Nage stori bachgen yn ne-ddwyrain Cymru yn y chwedegau sydd yma? Nage
.. ac fe ddaeth hyn yn gliriach wrth imi ddechrau darllen.
Mewn gwirionedd, hanes merch fach wedi ei geni mewn corff bachgen
sydd yma (wedi'r cwbwl "...yr unig beth sy'n neud i ti fod yn fachgen
yw'r cwt rhwng dy goesau.")
Mae'n teimlo'n wahanol, ac mae pawb yn ei drin (neu ei thrin?) yn
wahanol. Mae'n dyheu i gael chwarae gyda'r merched, ond mae'r crwt
yn gwybod y caiff ei fwlio yn waeth am wneud hynny...
"Ti'n lico ambell un o'r merched a licet ti whare 'da nhw ond 'set
ti'n neud hynny 'sa'r bechgyn yn d'alw di'n sisi ... 'set ti'n whare
da'r merched bob dydd 'sa dy fywyd ddim gwerth ei fyw ... felly ti'n
sefyll mewn cornel ... yn gobeithio na fydd neb yn sylwi arnat ti."
Creulondeb
Creulondeb a diniweidrwydd
Mae creulondeb yn amlygu ei hun yn aml yn y nofel .. bwlio ymysg y
plant a chreulondeb cymdeithas. Ond mae yma ddiniweidrwydd annwyl
hefyd, sy'n cadw gw锚n fach gynnil ar wyneb y darllenydd ond ar yr
un pryd yn teimlo siom dros y prif gymeriad.
Mae'r prif gymeriad yn brwydro gyda'i rywioldeb yn Pan Oeddwn Fachgen.
Mae'n gwybod mai merch y dylai fod .. mae hyd yn oed wedi clywed ei
fam ei hun yn dweud hyn droeon ... ac mae'n teimlo'n gyfforddus pan
mae'n gwisgo dillad ei chwaer fawr ar y slei ...
"... am unwaith dyw pethau ddim yn teimlo'n rong o gwbwl. Rwy't
ti'n gwisgo'r bais am ryw ddeng munud ac am bob eiliad ohonyn nhw
tydi dy hun wyt ti ..."
Cael ei fwlio
Mae yma stori drist, caiff y 'bachgen' ei fwlio gan ei gyfoedion,
am fod yn sisi ond mae yma wrthdaro rhwng y Cymry a'r di-Gymraeg hefyd.
Yma, mae'r bachgen bach yn cael ei fwlio yn yr ysgol am fod yn "Welshie"
.
"...amser whare neth y bechgyn hwyl ar dy ben di a rheteg ar dy
么l di rownd yr iard yn d'alw di'n little Welsh poncey pansy ac yn
jocan siarad Cymrag: Ychi-wychi-pyll-pyll-chpwt, ac yn pwyri arnat
ti."
Ond, does neb yn deall, ac mae'r unigrwydd a'r arwahanrwydd yn ei
fwyta'n fyw. Mae'n well gan y bachgen bach orwedd o dan wely ei fam,
heb symud trwy'r dydd, na mynd yn 么l i'r ysgol.
Sgrifennu medrus
Mae'r nofel wedi cael ei hysgrifennu yn fedrus iawn yn yr ail berson,
yn bennaf, fel llif meddwl y plentyn ac heb benodau pendant ond yn
llifo i mewn i'w gilydd gan fy atgoffa o un o fy hoff nofelau Cymraeg,
Un Nos Ola' Leuad. Roedd hyn yn gweithio'n reit dda, yn fy
marn i.
Tafodiaith anghyfarwydd
Mae'r nofel wedi ei hysgrifennu yn nhafodiaith y de Ddwyrain, ac mae
Mihangel Morgan ei hun yn dweud yn ei ragair ei fod yn ceisio atgynhyrchu
yr iaith fel yr oedd hi yn ei ieuenctid.
Ond er i'r awdur ddweud iddo geisio peidio 芒 defnyddio iaith sy'n
rhy ddieithr i'r darllenwr, mae'n siwr gen i y gall y 'caletu' parhaus
o eiriau beri pen tost i rai sy'n anghyfarwydd 芒'r dafodiaith.
Fe ddown ar draws geiriau fel "cwnnu", "yn nhre", a "nisied" yn gyson
trwy'r nofel.
Mae yma ddisgrifiadau sy'n aros yn y cof - er enghraifft, y bachgen
yn cyd-gerdded i'r ysgol gyda Paul sydd wedi pasio ei eleven plusond
y prif gymeriad wedi methu ...
Mae'n nhw'n cerdded "fel arfer, ochor yn ochor. Ond mae cyfandir
wedi codi rhyngoch."
Disgwyl am y tro
Wrth feddwl n么l am y nofel, cofiaf deimlo ei bod ychydig yn undonog
a'r stori'n llusgo wrth imi ddisgwyl y tro yn y gynffon sy'n nodweddiadol
o Mihangel Morgan
Ac yna fe ddaeth y tro hwnnw .. a chydag ef y crafu pen.
Mae yma nifer o gwestiynau yn dod i'r meddwl:
Gyda pwy y mae'r awdur yn siarad yn y diwedd?
Beth sydd wedi digwydd go iawn i'r bachgen bach?
Beth yn union yw'r berthynas rhyngddo ef a Linda sy'n byw gyferbyn?
Yn sicr mae'r diwedd yn tanseilio popeth oedd yn mynd trwy'r meddwl
yn ystod y nofel.
Tybed a yw'r awdur yn ceisio bod yn rhy glyfar, er mwyn bod yn wahanol?
Yn anffodus dydi'r diwedd ddim yn taro deuddeg i mi.
Nid ei hanes ef
Mae
Mihangel Morgan, (mewn erthygl yn Golwg) wedi disgrifio'r nofel fel
'un hunangofiannol', ac eto mae'n gwadu mai ei stori ef sydd ynddi.
Mae'r teitl yn sicr yn awgrymu hynny, ac mae'r awdur yn gwbwl agored
ei fod yn hoyw ac yn dod o dde Ddwyrain Cymru.
Ond stori pwy bynnag yw hi, mae'n un drist ac yn un deimladwy.
Darllenwch hi ar bob cyfri, ond cymerwch fy nghyngor a disgwyl yr
annisgwyl, Chewch chi mo'ch siomi.
Ond os ydych chi'n ffan o waith Mihangel Morgan .. byddwch chi'n disgwyl
hyn beth bynnag!
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|