|
|
Cymro'n
rhoi ei enw i America
Damcaniaeth llyfr newydd
Chwefror 2003
|
Amerike: the Briton who gave America its name
gan Rodney Broome, Sutton Publishing, 拢14.99
Adolygiad gan Dafydd Meirion
Christopher Columbus ddarganfyddodd America ac Amerigo Vespucci roddodd
ei enw i'r byd newydd.
Dyna'r gred arferol.
Ond na, yn 么l Rodney Broome.
Pysgotwyr o Fryste
Does yna fawr o s么n yn y llyfr i'r Indiaid fod yno ers 20,000 o flynyddoedd
ond yn 么l Mr Broome roedd pysgotwyr o Fryste yn hwylio'n rheolaidd
ar draws Mare Oceanum (yr enw ar F么r Iwerydd hyd yr 16eg ganrif,
neu'r Atlantic Ocean yn Saesneg, sef y m么r y tu hwnt i Fynyddoedd
Atlas, Gogledd Affrica, chwedl y Rhufeiniaid) i'r Terra Incognita
o leiaf ugain mlynedd cyn i Columbus fentro yn 1492.
Noda, hefyd, fod yna Ddaniaid a Basgiaid wedi bod yno cyn hynny, ond
dydy Madog ddim yn cael sylw nes cyrraedd y Nodiadau ar y cefn.
Beth bynnag, mae Cymro arall, neu un o dras Gymreig beth bynnag, yn
cael ei sylw. Er mai enw Richard ap Meurig neu Amerike sy'n
deitl i'r llyfr, rhaid cyrraedd o leiaf chwarter ffordd drwy'r gyfrol
cyn dod at ei enw.
Damcaniaeth y llyfr ydy mai Amerike roddodd ei enw i gyfandir America
yn hytrach nag Amerigo.
O hil tywysogion
Wedi mordaith Columbus yn 1492, mentrodd John Cabot ar draws yr Iwerydd
yn 1497, a masnachwyr Bryste fu'n gyfrifol am ariannu'r daith.
Un o brif fasnachwyr Bryste ar y pryd oedd Richard Amerike a allai
olrhain ei achau'n 么l i dywysogion Gwynedd.
Roedd yn perthyn i Hywel ap Meurig, un o dywysogion Brycheiniog, oedd
芒'r un arfbais ag Amerike.
Credir fod tad Richard Amerike wedi ei eni ar y ffin 芒 Lloegr ac wedi
symud i Fryste i fasnachu mewn gwl芒n.
Erbyn yr 1470au, roedd Richard Amerike yn un o 250 o fasnachwyr rhyngwladol
yn y ddinas a chofnodir gwahanol fersiynau o'i gyfenw, Ap Meric,
Ap Meryk yn ogystal ag Amerike.
Nid yn unig roedd Amerike yn masnachu mewn gwinoedd a sbeisus ond
roedd hefyd yn delio mewn penfras hallt o Wlad yr I芒.
Tua'r gorllewin
Wedi trafferthion rhwng Brenin Lloegr a Brenin Denmarc, gwaharddwyd
y Saeson rhag teithio i Wlad yr I芒 a bu'n raid chwilio am ffynonellau
eraill. Dyna pryd y gyrrwyd morwyr Bryste tua'r gorllewin.
Roedd hen hanesion Celtaidd am dir mil o filltiroedd i'r gorllewin,
yn arbennig Ynys Brassyle (yr Wyddeleg am Ynys y Rhai a
Fendithiwyd, sydd 芒 dim cysylltiad 芒 Brazil fodern a gafodd
ei henw o'r gneuen) ac Ynys y Dair Dinas.
Amerike oedd un o'r masnachwyr a dalodd am daith Cabot, oedd yn dilyn
yn bennaf fapiau'r pysgotwyr.
Y ddamcaniaeth
Damcaniaeth yr awdur yw fod y pysgotwyr wedi rhoi eu henwau eu hunain
ar gilfachau a thraethau yn y Byd Newydd, a chan mai Amerike oedd
wedi talu am nifer o'u teithiau, dywed mai'r tebygrwydd yw fod o leiaf
ran o'r cyfandir newydd 芒'r enw tir Amerike?
Ceir cyfeiriadau lu at y mapiau a ddefnyddiodd yr anturiaethwyr cynnar,
ac mae Broome yn cyhuddo Columbus o ddwyn mapiau'r pysgotwyr nid yn
unig er mwyn croesi'r Iwerydd ond i'w defnyddio'n sail i'w fap ei
hun.
Cafodd y map yma ei yrru gan Vespucci, oedd yn ei adnabod yn dda,
i argraffydd mapiau yn Yr Almaen a roddodd yr enw America ar
y byd newydd.
Ond, o bosib, wedi cwynion gan Columbus, mewn argraffiadau diweddarach
gadwyd yr enw America allan a defnyddiwyd Terra Incognita.
Gwrthod talu
Mewn mapiau diweddarach o eiddo'r Saeson hefyd, defnyddir yr enw Terra
Incognita ond daethpwyd ar draws cofnod fod Amerike wedi gwrthod
talu pensiwn y Brenin i Cabot am gofnodi rhan o'r Byd Newydd fel tir
Seisnig.
Yn nes ymlaen, derbyniodd Cabot ei arian ac mae'r mapiau erbyn hynny
yn dangos y gair America.
Ai Amerike roddodd bwysau ar Cabot i ddefnyddio'i enw ar y Byd Newydd?
Mewn llythyr oddi wrth Columbus at ddug yn Sbaen, cofnodir fod Cabot
wedi enwi nifer o ynysoedd a darnau o dir ar 么l ei ffrindiau; nid
yw'n enwi Amerike ond fyddai hwnnw ddim wedi clywed amdano, beth bynnag.
Felly, mae dau reswm dros ddadlau mai ar 么l Amerike yr enwyd Y
Byd Newydd - y pysgotwyr o Fryste a theyrnged Cabot i'w ariannwr.
Er bod Vespucci yn anturiaethwr ei hun, doedd o ddim yn un o'r rhai
cyntaf i ddilyn y 么l troed Columbus - Cabot oedd hwnnw.
S锚r a streips
Cyd-ddigwyddiad arall yw mai s锚r a stribedi oedd ar arfbais Amerike,
fel sydd ar faner America heddiw!
Ac mae s么n fod pl芒t metel wedi'i ddwyn oddi ar fedd merch Richard
Amerike tua 1800 a'i fod yn America erbyn hyn - efallai gan ddisgynnydd
i'r teulu sydd eisiau cofnod mai ei deulu o roddodd yr enw i'r cyfandir.
Mae'n llyfr difyr iawn er, ar brydiau, fod rhywun yn cael y teimlad
mai esgus ydy dadlau achos Amerike ac mai llyfr ydy hwn mewn gwirionedd
am fasnachwyr Bryste a'u rhan hwy mewn datblygu masnach 芒'r Byd Newydd.
Ond i ni Gymry, mae'n ddifyr meddwl y gallai Cymro fod wedi rhoi ei
enw i gyfandir sydd - y rhan ogleddol ohono o leiaf - wedi chwarae
rhan mor allweddol yn hanes y byd ers ei ddarganfod bum can mlynedd
yn 么l.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|