|
|
Nofel
Ronseal!
Gwneud be sy'n cael i ddweud ar y clawr!
Chwefror 2003
|
Hen Friwiau gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch 拢6.50
Adolygiad gan Elin Meredith
Meddai'r broliant ar glawr y llyfr yma:
"Mae'r awdur yn sylwgar ac yn deall y natur ddynol, ac nid oes amheuaeth
ei fod yn medru ysgrifennu naratif cyffrous a deialog dda."
Ond, peidiwch 芒 gadael i'r sylw athro-ysgol yma beri ichi droi
eich trwyn ar Hen Friwiau.
Er ei bod hi'n frawddeg wir bob gair, dydi hi ddim yn gwneud cyfiawnder
o gwbl 芒 gwead a rhediad tyn y nofel dditectif yma.
Stori dda
Mae Hen Friwiau yn dweud stori, a honno'n stori dda wedi ei
dweud yn gelfydd a Dyfed Edwards wedi llwyddo i osgoi'r fagl o ysgrifennu
er mwyn dangos clyfrwch geiriol neu syniadol ac wedi ysgrifennu nofel
'Ronseal' gan wneud yn union be mae'n ei ddweud ar y clawr
sef dweud stori, dim mwy, dim llai.
A dyna'r math anoddaf o ysgrifennu i'w wneud yn dda medde nhw.
Llofruddiaeth merch ifanc
Newyddiadurwraig o'r enw Aleksa Jones ydy'r 'ditectif' yn y nofel
yma. Cymeriad sy'n benderfynol o fynd at wraidd llofruddiaeth merch
ifanc dros chwarter canrif ynghynt.
Wrth dyrchu i mewn i hen hanes, mae Aleksa'n codi sawl crachen ac
yn siglo rhai o bileri'r gymdeithas wrth ddod yn anghyfforddus o agos
at y gwir.
Yn Aleksa Jones mae'r awdur wedi creu prif gymeriad sy'n fodern, yn
fyw ac yn gwbl greadadwy. Yn debyg iawn i dditectifs benywaidd cyfresi
teledu fel Prime Suspect mae hi'n perthyn yn naturiol i'n cyfnod
a'n cymdeithas ni, yn rhywun y gallwn i ei hadnabod fel merch sy'n
byw yng Nghymru yn fy oes i - profiad prin iawn mewn llenyddiaeth
Gymraeg.
Mae hi'n braf gweld y rhyw deg yn brif gymeriad positif mewn llenyddiaeth
Gymraeg am unwaith.
Mae yna ymgais i wau'r stori dditectif efo edau bywyd personol Aleksa
drwy geisio rhoi rheswm am ei dycnwch wrth geisio canfod beth ddigwyddodd
i'r ferch ifanc a laddwyd - sef bod Aleksa wedi cael erthyliad.
Mae'n ymgais i greu is-blot a'i gwneud hi'n fwy byw, ond dydw i ddim
yn siwr os mai dyma'r ddyfais fwyaf effeithiol. Nid yw cymharu marwolaeth
merch ifanc yn ei harddegau a babi nad yw erioed wedi bod yn taro
deuddeg rhywsut.
Mynd dan groen
Er hynny mae ei pherthynas efo'i chyn gariad, a rhan ei chyfaill,
Ffion, yn y stori, yn help i'w gwneud yn gymeriad mwy crwn.
Ond mae'n glod i Dyfed Edwards ei fod wedi llwyddo i fynd dan groen
y cymeriad benywaidd cystal ac ysgrifennu deialog llyfn, naturiol
nad yw'n tynnu sylw ato'i hun.
Yn newyddiadurwr ei hun ers 13 o flynyddoedd mae wedi tynnu ar ei
brofiadau ei hun a'i adnabyddiaeth o lefydd a phobl i greu sefyllfaoedd
credadwy, hyd yn oed mewn plot sydd ar brydiau'n anghredadwy.
Cymeriadau hunllefus
Er bod yr awdur yn ymhyfrydu mewn datgelu'r stori inni wrth ei bwysau
a chreu'r potensial i sawl tro yn y gynffon, roedd gen i ofn i ddiwedd
y nofel droi yn ychydig o ffars yn arddull y League of Gentlemen.
Daw trigolion y dref o fewn trwch blewyn i ymddangos fel cymeriadau
hunllefus o bentref dychmygol Royston Vasey, ond caiff hynny ei osgoi
jyst mewn pryd.
Un o brif fanteision Aleksa Jones ydy ei bod hi'n ymddangos yn ddi-wreiddiau.
Does dim s么n am deulu a chartref i dynnu oddi ar y stori ac mae hynny'n
rhoi elfen o ddirgelwch iddi hefyd.
Mae yma ddigonedd o sg么p i'w datblygu mewn nofel ddilynol felly ac
mi fyddwn i yn bendant yn awyddus i ddarllen am ei hanturiaethau eto.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|