|
|
Llyfr,
rhosyn a chusan
Dull heb ei ail o ddathlu diwrnod cenedlaethol
Mawrth 2003
|
Ar eu diwrnod cenedlaethol hwy mae pobol Catalonia yn rhoi llyfr a
rhosyn yn anrheg i'w hanwyliaid.
Tyfodd yr arferiad ylr fath raddau y mae 10% o werthiant blynyddol
llyfrwerthwyr ar Ddydd San Si么r, Ebrill 23 gyda strydoedd Catalonia
yn llawn stondinau llyfrau.
Y tu allan i'r siopau blodau mae stondianu rhosynnau.
Tri dathliad yn un
Mae Iain 脫 hAnnaidh yn gweithio yng Nghatalonia ers dros bymtheng
mlynedd yn athro ieithoedd a chyfieithydd.
Mae ei deulu o dras Wyddelig ac Albanaidd ac fe fu yn byw yng Nghymru
am gyfnod.
Mae'n rhugl yn y Gymraeg wedi graddio mewn ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol
Aberystwyth.
Eglurodd ef mai peth lled ddiweddar yw'r traddodiad o'r lyfr a'r rhosyn
er bod ei wreiddiau yn ymestyn yn bell yn ôl.
"Trwy gyd-ddigwyddiad daeth tri thraddodiad at ei gilydd dros y canrifoedd,"
meddai.
"Ar gyfer diwrnod Sant Si么r mae'n draddodiad llyfr, rhosyn a chusan."
Mae'n egluro fod y syniad o roi llyfr tua 75 oed ond yr arferiad o
roi rhosyn yn llawer hynach.
Rhyw 25 mlynedd yn 么l yr unwyd y ddau arferiad.
"Mae s么n am ffair rosynnau ar Ebrill 23 mor bell 芒 phum can mlynedd
yn 么l."
Hyd at 1840 roedd y ffair yn cael ei chynnal ar sgw芒r Sant Jaume yng
nghanol Barselona.
Mae s么n amdani fel ffair y caridaon ac mae s么n hefyd am sut y byddai'r
dynion yn prynu tusw o rosynnau i'w rhoi i'w cymar.
Y Llyfr yn rhan o'r wyl
Yna yn y 1930au fe ddaeth y llyfr yn rhan o wyl Sant Sior.
Datblygodd hyn yn 么l Iain 脫 hAnnaidh wedi i Vincent Clavel Andres,
a sefydlodd wasg yn Falensia yn 1916, geisio perswadio dinas Barselona
i sefydlu diwrnod yn deyrnged i'w hoff awdur.
Yn 1922 rhoddodd gynnig gerbron i sefydlu 'Fiesta del Libro Espa帽ol'
(Gwyl y Llyfr Sbaenaidd) ac yn 1926 datganwyd y byddai'r wyl yn cael
ei dathlu ym mis hydref y flwyddyn honno.
"Nid oedd fawr o gefnogaeth o du'r Cataloniaid i'r syniad, am nad
oeddynt yn gweld pam nad oedd hefyd yn bwysig i hybu darllen yn eu
mamiaith hwythau."
Rhwng 1926 a 1930 fe gynhaliwyd y Diwrnod ar 7 Hydref ond doedd yr
wyl ddim yn boblogaidd iawn yng Nghatalonia am ei bod yn Gastileg
(Sbaeneg) ei naws).
Hefyd roedd y tywydd yn dueddol o fod yn stormus ar y diwrnod ac felly
fe benderfynwyd cynnal yr wyl yn y gwanwyn.
Mae Iain 脫 hAnnaidh yn egluro fod yr wyl wedi datblygu'n wahanol ym
Madrid.
Yno, bu'n ddatblygiad academaidd ei naws ond ym Marselona daeth yn
wyl gwir boblogaidd.
O 1931 ymlaen aeth Gwyl y Llyfr o nerth i nerth, yn bennaf am ei fod
yn cyd fynd a diwrnod San Si么r.
Yn 1939 pan oresgynwyd Catalonia gan Franco gwaharddodd yr iaith Gatalaneg
ond roedd yr wyl yn parhau i gael ei dathlu ac wedi marwolaeth Franco
datblygodd traddodiad y rhosyn a'r llyfr.
Erbyn hyn mae pawb yn prynu llyfr a rhosyn i'w rhoi yn anrheg ar y
diwrnod.
I ddechrau roedd y gwr yn rhoi rhosyn i'w gymar a hithau wedyn yn
rhoi llyfr iddo ef ond erbyn hyn gall unrhyw un brynu llyfr i bwy
bynnag.
Rhosyn coch a bob amser a hwnnw'n cael ei werthu fel arfer gyda choes
o wenith a'r cwbl wedi eu clymu 芒 rhuban 芒 phatrwm baner Catalonia
arni.
"Mae wedi bod cymaint o lwyddiant fel bod pawb yn rhwym o brynu'r
ddeubeth erbyn hyn. Mae peidio 芒 phrynu llyfr a rhosyn mor ddifrifol
ag anghofio pen-blwydd."
Diwrnod y llyfr:
Bydd cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd,
stiwdios teledu a siopau llyfrau yn ogystal ag mewn siopau, swyddfeydd
a gweithleoedd eraill i ddathlu Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 6.
Mae'n ddiwrnod sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd
a'r llynedd ymunodd dros 30 o wledydd yn y dathliadau.
Y nod yw helpu pawb - o bob oed - i fwynhau llyfrau a darllen ac ymhlith
y rhai sy'n hyrwyddo'r diwrnod yng Nghymru y mae Ryan Giggs, Aled
Jones a Gaby Logan
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|