|
|
Un
dau tri . . .
a channoedd
efo'i gilydd
Parti cydadrodd mwyaf Cymru
Mawrth 2003
|
Bu
parti cydadrodd sy'n bygwth bod yr un mwyaf erioed yn - wel, cydadrodd
- ar y radio Ddiwrnod y Llyfr, Mawrth 6.
Ar Raglen Hywel a Nia ymunodd wyth o ysgolion ledled Cymru i gydadrodd
cerdd gomisiwn newydd gan Fardd Plant Cymru - Menna
Elfyn.
Gwrandewch
Yr
ysgolion oedd Gartholwg a Heol y Celyn ym Mhontypridd; Tregaron ac
ysgol Myfennydd, Llanrhystud yn y gorllewin, Tudweiliog, Pentrefoelas,
Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno ac Ysgol Rhydypennau, Bow Street,
Ceredigion.
Golyga hyn i dros 700 o ddisgyblion gydadrodd yn fyw ar yr awyr ar
y bore o wyth lle gwahanol.
Hwn oedd y parti llefaru plant mwya erioed!
Nia oedd yn llywio'r gweithgareddau o'r stiwdio yng Nghaerdydd.
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|