|
|
Byw
llyfrau
Gadael gwaith i gadw siop
Mawrth 2003
|
Ar drothwy Dydd Rhyngwladol y Llyfr mae swyddog cysylltiadau cyhoeddus
wedi rhoi gorau i'w swydd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn rhedeg ei siop
lyfrau ei hun yng Nghaernarfon.
Eirian James o Llanrug yw perchennog Siop Lyfrau Palas Print yn Stryd
y Palas yn y dref ers yr haf diwethaf.
Tan yr wythnos hon bu'n rhannu ei hamser rhwng y siop a'i gwaith yn
Adran Addysg Gydol Oes y Brifysgol.
"Ond daeth hi'n bryd i mi roi fy sylw i gyd i fy menter ym myd y llyfrau,"
meddai Eirian, 31 oed sy'n dod o Landeilo yn Sir Gaerfyrddin.
"A gyda Dydd Rhyngwladol y Llyfr yn cael ei gynnal yfory pa amser
gwell i droi at gadw siop lyfrau am fywoliaeth," ychwanegodd.
Mae
Siop Palas Print (Twll yn y Wal gynt) yn arbenigo ar lyfrau a llenyddiaeth
Cymraeg a Saesneg un ogystal 芒 chryno ddisgiau, fideos a chardiau
cyfarch. Gall cwsmeriaid gysylltu 芒'r siop drwy'r e-bost, ac mae gwefan
newydd yn cael ei datblygu fydd yn galluogi pobl i grwydro'r siop
heb orfod gadael eu cartrefi.
Nid yw byd y llyfrwerthwr yn gwbl ddieithr i Eirian gan iddi fod yn
gynrychiolaydd gwerthiant gyda Chngor Llyfrau Cymru.
"Bu gennyf uchelgais o gadw fy siop lyfrau fy hun erioed," meddai
Eirian.
"Ac er bod gadael gwaith sefydlog yn y Brifysgol a chamu i fyd busnes
yn
Ebostiwch eich sylwadau
chi am lyfrau
|
|
|