|
|
Mil
o bunnau am stori fer
Ond does dim llawer o amser ar ôl!!
|
Mae'r beirniaid yn prysur hogi eu cynheddfau beirniadu wrth i ddyddiad
cau cystadleuaeth sgwennu stori fer rhaglen 成人论坛 Radio Cymru, Y
Celfyddydau, ddynesu.
Y dyddiad cau ydi Dydd Llun Mehefin 16, 2003, ac yn barod mae
yna 30 o straeon wedi dod i law yn barod meddai Rhisiart Arwel, cynhyrchydd
y rhaglen.
Ond fyddai o ddim yn synnu derbyn mwy - "Yn y gystadleuaeth cyfansoddi
darn corawl y llynedd daeth bron bob cais i fewn ar y diwrnod olaf
un. Gawn ni weld," medda fo.
Ta beth mae gan y tri beirniad sydd ymhlith ein llenorion mwyaf blaenllaw
ddigon i'w drafod yn barod a bydd yn rhaid dod i benderfyniad cyn
diwedd Gorffennaf gydag enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rifyn
arbennig o'r Celfyddydau sy'n cael ei ddarlledu ddydd Sul, Gorffennaf
27 am 14.30.
Bydd
rhan o'r stori yn cael ei darllen ar y rhaglen gydag un o'r beirniaid
yn traddodi beirniadaeth lafar.
Gobeithiwn gyhoeddi'r stori fuddugol ar wefan Llais Llen yn syth wedi
hynny ac hefyd grynodeb o'r feirniadaeth.
Mae'r tri beirniad yn llenorion o fri sydd wedi ennill prif wobrau
rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol - Aled Islwyn (uchod)
yn enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac Angharad Price
newydd dderbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn
gyda'r gyfrol a enillodd iddi y Fedal Ryddiaith yn Nhyddewi y llynedd,
O Tyn y Gorchudd.
Mae hi hefyd yn un o'n beirniaid llenyddol amlycaf.
Mae'r trydydd beirniad, Robin Llywelyn, wedi ennill y Fedal
Ryddiaith ddwywaith - yn 1992 ac yn 1994 - gyda nofelau dadleuol ac
arloesol. Mae yntau hefyd, fel y ddau arall, yn feirniad llenyddol
o bwys yn y Gymru gyfoes.
Mae
Y Celfyddydau yn cynnig gwobr o £1,000 am y
stori fuddugol - o gymharu a gwobr o rhyw 拢200 sy'n arferol
yn yr Eisteddfod Genedlaethol .
Giftynnwyd am straeon o hyd at 4,000 o eiriau gyda'r testun yn gwbl
agored. Does dim rhaid i ymgeiswyr ddilyn unrhyw thema benodol ychwaith.
"Ond bydd yn rhaid i'r gwaith fod yn wreiddiol ac heb ymddangos mewn
print o'r blaen," meddai Rhisiart Arwel, cynhyrchydd Y Celfyddydau.
Datgelir enw'r buddugol yn ystod cyfres newydd o Y Celfyddydau
ym mis Gorffennaf.
Disgrifiodd Rhisiart Arwel hwn fel cyfle heb ei ail i awduron "arddangos
eu talentau yn llawn, mewn cyfrwng mor arbennig 芒'r stori fer".
Rhaid i'r ymgeision gyrraedd Canolfan y 成人论坛 yng Nghaerdydd erbyn pump
o'r gloch ddydd Llun, Mehefin 15 fan bellaf gyda ffugenw wrth
bob stori ac amlen dan s锚l yn cynnwys enw, cyfeiriad llawn a rhif
ff么n yr ymgeisydd.
Y cyfeiriad yw:
Cystadleuaeth Stori Fer, Y Celfyddydau, 成人论坛 Radio Cymru, Ystafell
2001, Y Ganolfan Ddarlledu, Llandaf, Caerdydd CF5 2YQ.
Ebostiwch am fwy
o fanylion a rheolau:
|
|
|