|
|
Hen
ganiadau yn dwyn atgofion
Mynd yn ôl i'r ysgol gyda Cherddi Ceredigion
Mawrth 2003 |
Cerddi Ceredigion - golygydd, Lyn Ebenezer, Gwasg Gomer. 拢6.95.
Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Tybed a oes cenedl arall o'n maint yn y byd sydd mor gynhyrchiol ei
barddoniaeth a'i chyfrolau barddoniaeth?
Weithiau rwy'n meddwl mai da fuasai gweld rhywfaint o'r egni barddol
yn cael ei gyfeirio i gyfoethogi agweddau eraill o'n ll锚n.
Beth bynnag, diolch am yr egni a'r gweithgarwch.
Rhyw feddyliau fel yna aeth drwy fy mhen wrth i gyfrol arall o farddoniaeth
yn y gyfres Cerddi Fan Hyn ddod i law - Cerddi Ceredigion.
Hyfryd a chyfleus
Ac eto, ac eto - hyfryd a chyfleus cael cynifer o hen ffefrynnau rhwng
dau glawr ac yr oedd hon yn gyfrol a ysgogodd atgofion lu.
Cerddi a ddysgais yn Ysgol Gynradd Castell Flemish - tua thair milltir
o Dregaron ar y ffordd o Aberystwyth.
Cerddi fel Bugeilgerdd Edward Richard, Ar ben y l么n Sarnicol
a Tair Afon Tom Hughes-Jones.
Roedd yn werth agor y gyfrol petae ond i ddysgu mai Hughes-Jones oedd
awdur y gerdd fach hyfryd am y tair afon, Hafren, Gwy a Rheidol a'u
teithiau o Bumlumon i'r m么r.
Fedra i ddim teithio o Aberystwyth i Langurig heb i'r gerdd yna ddod
i gof rywle cyn i mi gyrraedd Steddfa Gurig. Ac eto, wyddwn i ddim,
nes darllen y gyfrol hon, pwy a'i lluniodd.
Ystrad Fflur gan T. Gwynn Jones, wedyn, yn delyneg arall a
ddysgais yn yr ysgol gynradd wrth droed Dinah Jones - athrawes gampus
os bu un erioed.
Mewn un prynhawn
Dywedodd Evan Daniel Jones-Evans, gwr o fy hen ardal a fu'n bennaeth
Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, wrthyf i T. Gwynn Jones
sgrifennu Ystrad Fflur, Rhos Y Pererinion ac Ynys Enlli
yr un prynhawn heb godi o'r bwrdd.
Daeth ambell i gerdd a thon o hiraeth am i mi ei chanu - fel emyn
David Lloyd-Jenkins, cyn brifathro Ysgol Uwchradd Tregaron, Mewn
Llafur Mae Elw - emyn swyddogol yr ysgol a genais ddiwethaf mewn
cyfarfod o Gymdeithas y Cyn Ddisgyblion flwyddyn union yn 么l.
Teifi Cynan, wedyn, yn g芒n feddwol a genir yr un mor frwysgaidd
gan Hogia'r Wyddfa.
Direidus braidd
Ac emyn Rhys Nicholas, Pantyfedwen. Cerddi sy'n atseinio yn
y glust. (Direidus braidd oedd gosod englyn Yr Emyn Trichant ar
y dudalen gyferbyn 芒 Phantyfedwen.)
Hyd gyrrion bro'r gogoniant - y mae s么n
Am y siec a gawsant,
Er hynny, bois, mae'r "Hen Bant"
Yn trechu'r emyn trichant.
Cofio ein hathrawes Gymraeg yn fy mlynyddoedd cynnar yn Ysgol Uwchadd
Tregaron, Mrs Mair Jones, yn ein cyflwyno i gywydd hudolus B. T. Hopkins,
Rhos Helyg a'r criw anystywallt o ardal y Mynyddbach yn eu
dyblau.
Roedd Eilian, mab aflonydd Ben Hopkins yn y dosbarth, ei wyneb yn
goch fel twrci ac am unwaith wedi tawelu'n llwyr.
Yn y wers nesaf cawsom un o gerddi J. M. Edwards ac erbyn hynny roedd
Eilian allan o'i gragen ac yn cyfrannu o'i wybodaeth am y bardd o'r
Barri - ond genedigol o ardal Blaenpennal a Blaenafon.
Gwyliau ym Mrynwichell
Treuliai J. M. Edwards ei wyliau ym Mrynwichell, cartref yr Hopkinsiaid
a chawsom glywed gan ein cyd-ddisgybl am ddawn y bardd fel genweiriwr.
O blith beirdd Ceredigion mae beirdd Ffair Rhos yn uchel yn fy rhestr
a da cael casgliad fel hwn i'n hatgoffa, a gobeithio peri i ni droi
eto, at Evan Jenkins a Dafydd Jones.
Ac o'r un llinach, y cyn-Archdderwydd W. J. Gruffydd, heb son am y
barbwr Jac Oliver y gwerthodd ei gyfrolau'n well nag R. Williams Parry!
Wedyn dyna feirdd y Mynyddbach, J. M. Edwards, B. T. Hopkins ac Edward
Prosser Rhys. Rwy'n meddwl mai un o'r ardal hon oedd Tom Hughes-Jones,
hefyd.
Yna, yng ngodre'r sir mae beirdd Y Cilie a'r garfan fawr a gasglodd
o'u cwmpas ac a ysbrydolwyd ganddynt - Dic Jones, Idris Reynolds ...
Adroddwyr ddaeth yn feirdd
Cofio am yr eisteddfodau lleol 'slawer dydd a'r adroddwyr mawr, J.
R. Jones (Talybont), Vernon Jones (Bow Street) a Peter Davies (Goginan).
Adroddwyr a dyfodd yn feirdd. Ac mae'r tri yma.
Hoffais yn arbennig gerdd Vernon i New Row. Roeddwn yn gyrru
drwy'r pentre pitw yr wythnos diwethaf.
Mae'r Golygydd, Lyn Ebenezer, yn cyflwyno'r gyfrol i'w hen athro Cymraeg
yn Nhregaron, y Prifardd John Roderick Rees a da gweld amryw o gerddi
"Jack" yn y gyfrol.
Bu'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o ddisgyblion Ysgol Tregaron ac
fel llawer athro da, roedd yn un hawdd i'w ddenu oddi ar ei bregeth.
Roedd yntau'n eisteddfotwr yn cipio'r cadeiriau lleol a byddem yn
gofyn iddo adrodd ei gerddi buddugol yn y dosbarth - a chael hoe o'r
wers.
Rwy'n ei gofio fel ddoe yn adrodd y ddwy delyneg Ymadael a
Dychwelyd - dwy delyneg y medrem ni, blant Cardis "y w芒c l芒th"
uniaethu a nhw. Mae'r ddwy yn y gyfrol.
Nid tasg hawdd!
Wn i ddim at bwy'n union yr anelir y gyfres Cerddi Fan Hyn
ond mae Cerddi Ceredigion yn bendant at fy nant gan godi awydd
i droi'n 么l at rai o'r beirdd sydd ynddi - ac i edrych ar waith ambell
un nad yw yma - i wneud yn siwr fod y golygydd wedi gwneud yn iawn
i'w hepgor!
Nid tasg hawdd oedd ei un ef.
C锚s bleser digymysg yn ailddarllen hen ffefrynnau a morio mewn atgofion
melys am yr hen ddyddiau. Mae yma gerddi newydd ardderchog hefyd ond
cenwch i mi yr hen ganiadau!
A diolch am gynnwys cynifer o sonedau.
|
|
|