|
|
Ar
ôl yr holi - dyma'r sgwrs!
Ymunodd yr awdur a'r bardd Mihangel Morgan â Llais Llên fore
Iau, Mawrth 6 mewn sgwrs arlein.
|
Aneurin: O'r swmp o waith llenyddol sy'n perthyn i chi, pa
gyfrol yw eich hoff un chi yn bersonol?
Mihangel Morgan: ymm..o'm gwaith fy hun felly? .. wel.. dw
i ddim yn licio meddwl am fy hoff un, mae'n well peidio bod yn rhy
sentimental ..
Llio: Pryd ddechreuoch chi feddwl am ysgrifennu?
Mihangel Morgan: ymm ..yn fy ugeiniau, tua 28 oed ... roeddwn
i'n reit ddiweddar, yn fy mywyd ..
Kelly: Pwy sy'n arwr/arwres i chi?
Mihangel Morgan: Does dim arwr gen i .. dw i ddim yn licio
addoli pobl .. ond mae yna rai dw i'n eu hedmygu, ond mae yna wendidau
ynddyn nhw a chi'n cael eich siomi os ydych yn eu rhoi ar bedestal.
DJ: Am beth fydd eich llyfr nesaf?
Mihangel Morgan: Dw i ddim ishe dweud gormod ond mae prif ran
y stori yn yr oes Fictoria .. yna lefel arall yn y presennol .. wedi
ei leoli mewn dinas sy'n debyg i Gaerdydd.
Sam: Beth yw dyfodol yr iaith Gymraeg yn eich barn chi?
Mihangel Morgan: Dw i'n teimlo'n besimistaidd iawn ar hyn o
bryd, ond dw i'n gobeithio fydd pethau yn fy mhrofi fi'n anghywir
ac y bydd yr iaith yn parhau.
Menai: A oes un llyfr wedi dylanwadu arnoch chi'n fwy na'i
gilydd?
Mihangel Morgan: ymm ... ymmm... dw i ddim yn gallu meddwl
am ddim un llyfr sydd wedi dylanwadu arnaf. Mae'r llyfr diwethaf dw
i wedi ei ddarllen yn dylanwadu arna i .. bydd pobl yn dweud www..
mae'r llyfr yma yn drwm o dan ddylanwad pwy bynnag dw i'n darllen
ar y pryd.
Dewi Jones: Ydych am wneud cyfrol o gerddi eto?
Mihangel Morgan: Ydw .. mae gen i gyfrol mewn ffeil ... teitl
yw 'Digon o Fwydod' ac mae rhai o'r cerddi wedi cael eu cyhoeddi mewn
cylchgronau yn barod.
Ceri: A ydych yn teimlo fod eich gwaith wedi cael ei ddylanwadu
gan waith Caradog Prichard?
Mihangel Morgan: ymmm.. siwr o fod .. mae'r rhan fwyaf o lenorion
ar ddechrau'r ganrif hon o dan ddylanwad Caradog Prichard .. a dw
i wedi ysgrifennu llyfr beirniadol am Caradog Prichard.
Alwyn Thomas: Does dim llawer o son am y dechnoleg ddiweddaraf
/ y we yn eich gwaith. Beth yw eich barn am yr arbrofi diweddar gyda
llenyddiaeth yn y cyfeiriad hwn? Ai dyma'r dyfodol?
Mihangel Morgan: Wel, y rheswm pam nad oes gormod o sôn am
y dechnoleg yn fy ngwaith yw am nad wyf yn gyfarwydd iawn â'r dechnoleg
fodern.. dw i'n gwybod bod rhai wedi ceisio cyhoeddi llyfrau ar y
we ond dw i ddim yn gwybod pa mor llwyddiannus oedd hyn. Roedd Stephen
King wedi cyhoeddi nofel mewn penodau ar y we, ond dw i ddim yn meddwl
ei fod wedi cael fawr o ymateb.
Mali: Beth sy'n gwneud i chi chwerthin?
Mihangel Morgan: (chwerthin) pob math o bethau .. ymmm ...
mae'n anodd meddwl!
Gweinydd: Mae Mihangel yn chwethin ac yn methu meddwl..!!
Mihangel Morgan: ymm.. dw i ddim yn meddwl fy mod yn gallu
ateb y cwestiwn yma ar hyn o bryd, dw i'n methu meddwl.
Carys: Oes rhai o'ch cymeriadau wedi eu selio arnoch chi?
Mihangel Morgan: Mae'n debyg fod peth ohona i yn Mr Cadwaladr
yn y nofel Dirgel Ddyn ac mae peth ohona i yn fy nofel ddiweddara
' Pan Oeddwn Fachgen' … a peth ohona i hefyd yn y cymeriad Dr Jones
yn Melog dw i'n meddwl. Ond wedi dweud hynny mae'n debyg bod peth
ohona i ym mhob cymeriad.
Cwestiwn: Beth sy'n eich gwylltio chi?
Mihangel Morgan: mmm ... ymm ..pobl fel Robbie Williams yn
cael £80 miliwn am nesa' peth i ddim hyd y gwela i. Mae lot o bethau
yn gwylltio fi.
Cwestiwn: Oes ganddoch chi gyngor i rywun sy'n trio ysgrifennu?
Mihangel Morgan: Pan ofynnodd rhywun y cwestiwn yna i Saunders
Lewis, ei gyngor oedd i beidio gwarando ar hen ddynion yn rhoi cyngor
pan oedd yn ifanc. Felly dyna fy nghyngor i hefyd dw i'n meddwl! A
hefyd y peth gorau yw i ddal ati a pheidio cymryd gormod o sylw o
bobl eraill.
Mali: Beth oeddech chi eisiau bod ar ôl tyfu fyny?
Mihangel Morgan : ymmm.. pan o'n i'n fach? Wel doedd dim lot
o glem da fi pan o'n i'n fach. Doedd dim syniad da fi, ond d'on i
ddim ishe gyrru trên na dim byd fel'na!
Menai: Ydych chi'n fore godwr neu gweithio'n hwyr?
Mihangel Morgan: Dw i'n codi tua phump o'r gloch bob bore ..
ac yn mynd i'r gwely yn gynnar yn y nos. Felly ydw dw i'n fore godwr
ond dw i ddim yn sgrifennu yn y bore. Dw i'n tueddu i ysgrifennu nes
ymlaen yn y bore, o tua 10 o'r gloch ymlaen.
Rachel: O ble rydych chi'n cael eich syniadau?
Mihangel Morgan : Wel, dw i'n cael syniadau o bob man, o weld
pobl, clywed pobl yn dweud pethau, rhyw bethau bach fel arfer sy'n
digwydd, a wedyn dyna fel arfer gnewyllyn syniad sydd yn tyfu.
Er enghraifft, ges i'r syniad gwreiddiol am Melog ar ôl gweld menyw
yn dod ar y bws yng Nghaerdydd un diwrnod, roedd ganddi wallt gwyn,
o'n i'n meddwl y byddai'n ddiddorol sgwennu am gymeriad ifanc gyda
gwallt gwyn,mae Melog yn fachgen, wel, menyw gyda gwallt gwyn oedd
y syniad gwreiddiol y tu cefn i'r nofel honno.
Menai: Be' fyddech chi'n ei fynd efo chi i ynys bellennig?
Mihangel Morgan: O... bydden i'n mynd a fy nghwn i .. ac ..
ymmm ... rhai llyfrau. Dw i ddim eisiau darllen stwff dw i wedi sgrifennu
fy hunan, ond llyfrau pobl eraill.
Menai: Petaech chi'n dod nôl fel anifail - pa anifail fyddech
chi'n dymuno bod?
Mihangel Morgan: Oww ... ymm ... dw i ddim yn meddwl faswn
i'n dod nôl fel ci achos weithiau mae cwn yn cael eu camdrin. Mwy
na thebyg faswn i'n dod nôl fel aderyn dw i'n meddwl.
Dewi Jones: Beth yw eich hoff ffilm?
Mihangel Morgan: O diar , dw i byth yn gallu meddwl am ffilmiau,
ond dw i'n hoff iawn o ffilmiau. Dw i'n eitha hoff o 'Whatever Happened
To Baby Jane' ac yn ddiweddar dw i'n licio 'The Man Who Wasn't There',
a hefyd 'Oh Brother Where Art Thou'.
Menai: Fyddwch chi'n aros ar eich traed i wylio'r Oscars o
gwbl?
Mihangel Morgan: Na! (yn chwerthin). Flynydde nôl roeddwn yn
cymryd diddordeb yn yr Oscars ond yn ddiweddar mae ffilmiau ofnadwy
wedi ennill yr Oscars.
Gweinydd: Yn ôl at eich gwaith...
Mali: Oes rhaid i chi gael tawelwch hollol pan fyddwch chi'n
llenydda?
Mihangel Morgan : Ymm .. oes, dw i ddim yn gallu gwrnado ar
y radio nac ar unrhyw gerddoriaeth pan dw i wrthi yn sgrifennu.
Mali: Ydych chi'n mwynhau teithio dramor?
Mihangel Morgan: wel, ymm, dw i ddim wedi bod dramor lawer
..ond dw i wedi bod i Ffrainc rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, ond dw i
ddim yn deithiwr mawr.
Eirlys Jenkins: Ydych chi'n gallu uniaethu ag unrhyw rai o'r
cymeriadau yn y nofel ‚Dan Gadarn Goncrit'?
Mihangel Morgan: Ydw i yn gallu uniaethu? www.. ydw dw i'n
credu fy mod yn gallu uniaethu â'r rhan fwya' ohonyn nhw. Dw i'n gallu
cydymdeimlo â Tanwen a hyd yn oed dw i'n gallu uniaethu â Mama Losin
a'i gwr hi.
Menai: Ydych chi'n ieithydd?
Mihangel Morgan: Ymm, nag ydw. Mae ieithydd yn rywun sydd â
diddordeb mawr mewn gramadeg a phethau fel'na, ond dydw i ddim!
Alwyn Thomas: Ydych chi'n hyddysg yn y Clasuron?
Mihangel Morgan: O, nag ydw gwaetha'r modd dydw i ddim. Beth
mae'n feddwl am y Clasuron? Y rhai Cymraeg neu pethau fel rhai y Groegiaid?
Sian: Beth yw arwyddocad y tri rhaniad yn y nofel 'Dan Gadarn
Goncrit'?
Mihangel Morgan: Wel, o'n i'n meddwl ei bod hi'n mynd braidd
yn hir heb doriadau ynddi hi .. ac ym mhob ran mae rhyw fath o newid
yn y stori .. felly mae jyst yn ffordd o dorri stori hir yn dameidiau
llai, mwy hydrin efallai.
Alwyn Thomas: Yn dilyn o'r cwestiwn blaenorol, ie - Groegaidd.
Mihangel Morgan: Wel dw i ond wedi darllen rhai o'r clasuron
Groegaidd fel Soffocles.
Nia: Ydych chi'n ceisio apelio at gynulleidfa arbennig yn eich
gwaith?
Mihangel Morgan: Ymm … na ddim at unrhyw gynulleidfa arbennig,
dw i'n trio apelio at bawb mewn ffordd.
Menai: Fyddwch chi'n gwrando ar sgyrsiau pobl mewn caffi fel
enghraifft o ddeialog?
Mihangel Morgan: O byddwn! Os oes unrhyw gyfle i glywed pobl
yn siarad dw i yno yn clustfeinio, achos wi'n licio clywed tameidiau
o sgwrs allan o gyd-destun. Dw i wedi defnyddio pethau fel'na yn 'Saith
Pechod Marwol'.
Sam Bufton: Yn 'Saith Pechod Marwol', mae'r prif gymeriadau
i gyd yn anobeithiol ac yn drist iawn. Pam eich bod chi wedi creu
darluniau mor llym ar bobl wedi'u dadfreinio yn ein cymdeithas?
Mihangel Morgan: Ooo ... wel .. mae pobl drist yn fwy diddorol
na phobl hapus. Dw i ddim am sgrifennu am bobl hapus, byse hwnnw yn
annioddefol i sgrifennu am bobl llwyddiannus!
Sian: Ydych chi'n hapus?
Mihangel Morgan: Ymm... weithiau dw i'n hapus, weithiau dw
i ddim. Mae hapusrwydd yn rhywbeth sydd yn mynd ac yn dod.
Menai: Oes unrhyw acen sy'n swyno'ch clust?
Mihangel Morgan: Acen? Ymm … (saib) dw i'n eitha' lico acenion
America - y South, 'deep South'. Dw i ddim yn siwr iawn lle mae'r
ardaloedd hynny, ond dw i'n licio'r acenion!
Yn naturiol, yng Nghymru acen De Cymru dw i'n licio!
Cwestiwn :Pa mor bwysig yw llên i'n hiaith?
Mihangel Morgan: Dw i'n meddwl ei fod yn holl bwysig, yn holl
bwysig .. heb ein llenyddiaeth fyddai ddim gwerth i'n hiaith.
Mali: Ydych chi'n credu fod y teledu wedi lladd y nofel?
Mihangel Morgan: Ymm... nac ydi. Mae'r nofel yn gwneud rhywbeth
gwahanol i'r teledu yn dyw hi? Felly mae lle i'r ddau.
Menai: Beth fyddai amserlen eich diwrnod delfrydol?
Mihangel Morgan: Wel … dw i'n codi am bump yn y bore ... wedyn
dw i'n neud yoga am awr .. a wedyn dw i'n mynd m'as am dro gyda'r
cwn. Enwau'r cwn ydi Losin a Licrish. Wedyn fyddwn i'n sgrifennu yn
y bore, ac wedyn yn y prynhawn fyddwn i'n darllen rhywbeth a wedyn
falle mynd i weld ffilm yn y nos.
Dewi Jones: Pa gwn sydd gennych?
Mihangel Morgan: Keeshond ydyn nhw. Maen nhw'n dod o'r Iseldiroedd,
dydyn nhw ddim yn gwn mawr ond ddim yn fach chwaith. Mae' nhw'n llwyd
a lot fawr o flew, mae'r blew yn stico lan dros eu cyrff i gyd! Mae
pobl yn meddwl mai Huskies ydyn nhw, ond maen nhw'n rhy fach i fod
yn Huskies.
Lowri: A ydych chi`n credu bod Diwrnod y Llyfr yn codi ymwybyddiaeth
pobl o lenyddiaeth Cymraeg?
Mihangel Morgan: Wel, gobeithio yntyfe? O'n i'n gweld ar Radio
4 eu bod nhw wedi cael pleidlais i ddewis un llyfr ar gyfer pob gwlad
ym Mhrydain. Ar y rhestr fer ar gyfer Cymru roedd tri llyfr, sef 'On
The Black Hill', 'Under Milk Wood' gan Dylan Thomas a 'Rape of The
Fair Country', ac o'n i'n meddwl ei fod yn drueni nag o'n nhw wedi
ystyried llyfrau Cymraeg eu hiaith o gwbl, achos rhai Saesneg ydy'r
rheina wrth gwrs.
Thomas Evans: Beth fyddwch chi'n hoffi ei ddarllen yn Saesneg?
Mihangel Morgan: Ymmm ... o nawrte .. dw i'n trio meddwl. Dw
i'n licio llyfrau Tennesee Williams, ei storïau e .. a beth arall?
Ymm … dw i'n tueddu i ddarllen llyfaru ffeithiol nawr fel cofiannau
a hunangofiannau.
Mali: Pa lyfr sydd wrth ochr eich gwely?
Mihangel Morgan: 'James Herriot Dog Stories'
Mali: Beth yw'ch hoff fwyd?
Mihangel Morgan: Siocled
Gweinydd: Gair olaf gan Mihangel …
Mihangel Morgan: Dim ond iddyn nhw i ddal ati i ddarllen ac
i fwynhau darllen. Ac i drio ysgrifennu ar bob cyfri. Dal ati!
|
|
|