|
|
Eglwys
Llangadwaladr
Eglwys hynafol gyda mwy nag un trysor
Ebrill 2003 |
Lle i Enaid Gael Llonydd; Serch - dyfyniadau wedi eu dethol gan
Tegwyn Jones. Cyfres Dymuniadau Da. Gwasg Carreg Gwalch. 拢2.99.
Nid
yn unig y mae Gwasg Carreg Gwalch yn un o rai prysuraf Cymru ond y
mae hi hefyd ymhlith y goreuon am weld tyllau yn y farchnad a chyhoeddi
rhywbeth sydd yn mynd i ffitio pocedi.
Dyfyniadau
Un enghraiff o hynny yn llythrennol ac yn ffigurol oedd y gyfres yna
o ddetholion clasuron llenyddiaeth Gymraeg. Yn yr un traddodiad, newydd
weld golau dydd mae'r ddau lyfr cyntaf mewn cyfres arall debyg o ran
maint, syniad a phris.
Dyfyniadau byrion ar wahanol bynciau yw cynnwys Cyfres Dymuniadau
Da ac os yn chwilio am anrheg o'r math y gellir ei roi mewn sanau
Nadolig mae'r llyfrau hyn heb eu hail.
Dyfyniadau am dawelwch, tangnefedd a hedd yw cynnwys Lle i Enaid
Gael Llonydd gyda Serch yn cynnwys dyfyniadau am hwnnw
yn ei wahanol agweddau.
Llyfrau bychain ydyn nhw yn mesur ond chwe modfedd efo pedair ac yn
64 tudalen.
Mae'r dyfyniadau wedi eu dewis gan Tegwyn Jones.
Gobaith Gwasg Carreg Gwalch yw y bydd pobl yn anfon y llyfrau hyn
yn lle anfon cerdyn, ebost neu beth bynnag pan am ddymuno'n dda i
rywun.
Digon o bleser
Mae'n syniad gwerth chweil achos er yn fyr o ran hyd y mae'r llyfrau
hyn yn hir o ran y pleser y gellir ei gael ohonyn nhw a gellir troi
atyn nhw dro ar 么l tro.
Erbyn y bydd y gyfres wedi ei chwblhau mae rhywun yn rhagweld y bydd
gan ei pherchen gyda'r casgliad gorau posibl o ddyfyniadau Cymraeg.
Yn wir, fe fyddwn i wrth fy modd pe byddai Carreg Gwalch yn cyhoeddi
yr adeg honno un casgliad cyflawn o'r dyfyniadau i gyd gyda mynegai
awduron a geiriau.
Ar dystiolaeth y cyfrolau cyntaf hyn gellir dweud yn eithaf sicr y
byddai honno yn gyfrol gwir werth chweil - yn enwedig a ninnnau, o
gymharu 芒'r Saeson, mor brin o gyfrolau dyfyniadau.
"Mae'r ddwy gyfrol gyntaf," meddai'r wasg wrth gyhoerddi'r rhain,
"yn llawn dyfyniadau am serch a chariad a lleoedd yng Nghymru sy'n
iechyd i'r enaid.
"Ar achlysur neilltuol neu ar unrhyw ddydd o'r wythnos, maent yn dweud
neges arbennig wrth eu cyflwyno yn anrheg fach i rywun."
Barddoniaeth a rhyddiaith
Mae'r dyfyniadau yn gymysgedd o farddoniaeth a rhyddiaith ond pob
un yn fyr ond yn amrywio'n fawr o ran awduraeth o weithiau ein beirdd
a'n llenorion cynharaf fel Dafydd ap Gwilym i gynnyrch beirdd sy'n
dal i gyfansoddi heddiw fel Myrddin ap Dafydd a Dewi Pws.
Mae'r hyn a gawn yn Lle i enaid Gael Llonydd yn ymestyn o Adfeilion
T. Glynne Davies i gywydd mawreddog Goronwy Owen i'w F么n dirion
dir, Hyfrydwch pob rhyw frodir.
O Gysgod y Cryman cawn ddisgrifiad synhwyrus Islwyn Ffowc Elis
o ddyfodiad yr hydref;
"Daeth yr hydref i Arfon gyda byddin o liwiau. . ." ac
yn y blaen.
Mae Ystrad Fflur T. Gwynn Jones , Cwm Pennant Eifion Wyn, Ynys
Llanddwyn Emyr Huws Jones a ac Aberdaron Cynan mor hudolus ag erioed.
Geiriau o gariad
Ymhlith y dyfyniadau serch mae disgrifiad y Pedair Cainc o
gyfarfyddiad Pwyll a Rhiannon a'r geiriau o ganiad Solomon a drysorwyd
wedyn gan Ann Griffiths, "Fy anwylyd sydd wyn a gwridog yn rhagori
ar ddengmil" a byddai wedi bod yn braf cael yr adnod a'r emyn
ochr yn ochr.
Yr un mor drawiadol yw'r disgrifiad rhyddiaith barddonol o Olwen o
chwedl Culhwch ac Olwen.
Mae'r amrywiaeth yn y gyfrol hon eto yn ganmoladwy yn rhychwantu fel
ag y mae Ganiad Solomon a Dewi Pws.
Go dda Carreg Gwalch.
Glyn Evans
|
|
|