|
|
Pedwar
canmlwyddiant marw'r Frenhines Elizabeth
A hynny'n gyfle i gofio Ffwtman Hoff o Gymro yn ei llys
Mawrth 2003
|
gan
Ioan Mai Evans
Bedwar can mlynedd i Fawrth 24 bu farw'r Frenhines Elisabeth - yr
olaf o'r Tuduriaid.
Yn ferch i Harri'r Wythfed, bu ei theyrnasiad yn un unigryw o ystyried
y cwerylon crefyddol a etifeddodd a'r bygythiadau o Sbaen ond, gyda
chefnogaeth ei deiliaid, gallodd oresgyn llu o anawsterau yn lliwgar
ac yn urddasol gan ennill i'w theyrnasiad y teitl, Oes Elisabeth.
Cred rhai na wnaeth fawr ddim o'i hachau Tuduraidd o Benmynydd ym
M么n ond fe ganodd bardd o Lanbedrog ar Benrhyn Llyn englyn yn llawn
pryder hyd yn oed cyn ei marw - maddeuwch y diweddaru:
Hwylus yw f'wyllys felly - deallwch
Ni allaf sgrifennu,
Gwan yw mhen, gwae fi am hynny,
Rwy'n brudd rhag ofn y dydd du.
Milwr a bardd o Gymru
Yr
englynwr oedd Dic Huws, Cefnllanfair, y daeth y gyfrol werthfawr Y
Ffwtman Hoff gan Nesta Lloyd, yn gyfraniad hir ddisgwyliedig am
un tra haeddiannol, lle gynt nad oedd ond "Dic Huws, equerry to
Queen Elizabeth", a hefyd dim ond ei enw ymysg y 'Writers on
the Art of Poetry now extant "
Dic - neu Richard - Huws o Gefnllanfair oedd y ffwtman yn nheitl cyfrol
Nesta Lloyd - wedi gadael Pen Llyn i wasanaethu yn filwr yn Llys y
Frenhines yn Llundain.
Ymladdodd yn rhengoedd Lloegr yn Cadiz yn 1596 cyn dod yn ffwtmon
yn y llys ei hun.
Dulliau arloesol
Yr
oedd hefyd yn fardd o bwys.
Ac o ystyried diddordeb y frenhines ei hun yn y celfyddydau does ryfedd
fod dulliau barddol Dic Huws yn arloesol ac oherwydd dylanwad beirdd
y llys gwelwn mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i ganu yn y dull ymddiddan
yn y Gymraeg.
Er yn hyddysg yn y mesurau caeth, am ei gerddi yn y mesurau rhydd,
cwbl ddigynghanedd ac arloesol yn eu dydd, y mae'n cael ei gofio heddiw.
Cafwyd sawl enghraifft o'r canu rhydd cynnar hwnnw o'i eiddo yn Cyngor
yr Eos i'r claf o Gariad:
A fi ar noswaith deg yn gwrando
Ar yr eos bach yn lleisio
Ddiwedd Mawrth cyn dechrau Mai
A'r coed bob rhai yn deilio.
A'r mab yn ateb:
Edifaru nid gwiw ceisio
Rwyf yn y rhwyd ni thycia gwingo.
Pery'r ymddiddan am ddau ddwsin o benillion , a dyma'r math o ganu
a deitlir fel y 'chanson d'avenrure' oedd yn hen ffurf o ganu
mewn gwirionedd ond na ddaeth i amlygrwydd yn Lloegr tan Oes Elisabeth
ac y gellir cyfrif Dic Huws gyda'r cynharaf i gyfansoddi ynddo yn
y Gymraeg .
Cawn enghraifft ddigon teg o ddylanwad Llys y Frenhines ar y Cymro
pan gymhara Brinley Rees y llinell wreiddiol, "diwedd Mowrth kyn
dechre Mai" i "not far fro marche, in the end of feueryere"
I ddod yn 么l at Richard Huws, y soldiwr a'r ffwtman crwydrodd fel
sawl un arall am Lundain oedd y ddinas fwyaf yn Ewrop ar y pryd.
Yno roedd Ty'r Cyffredin yn ennill bri a Chymry amlwg a'r tirfeddianwyr
yn cael llais yn San Steffan, a phrif gynghorydd Elizabeth yn cadw
golwg ar anghenion Cymru oherwydd y tropyn o waed Cymreig yn ei gwythiennau.
Gwrthryfel tirfeddianwyr
Cadwai'r frenhines lygad barcud ar y tirfeddianwyr hefyd, mae'n amlwg,
pan fwriodd i garchar nifer ohonynt adeg helynt Fforest Yr Wyddfa,
pryd y dewiswyd sawl comisiwn i benderfynu ar yr union diroedd a berthynai
i'r fforest.
Bu hynny'n achos creu gwrthwynebiad ffyrnig drwy'r wlad gyda chynrychiolwyr
yn cael eu hanfon i Lundain er mwyn cyflwyno'r achos gerbron y frenhines.
Ymysg y rhain roedd rhai o foneddigion Llyn fel Sion Gruffudd o hen
deulu Cefnamwlch.
Un arall oedd Huw ap Rhisiart, tad Dic Huws ac un arall o deulu Plas
ym Mhenllech.
Ond ni chawsant fawr o lwyddiant gyda'r frenhines - dim ond addewid
y byddai hi'n ail ystyried ei dyfarniad ar ddyfodol Fforest yr Wyddfa
ar yr amod y byddai'r byddigions yn dychwelyd adre yn heddychlon.
Gwrthod wnaethon nhw a chael eu carcharu am ganddi am ei herio.
Tipyn o ergyd i drigolion Llyn a digon i Morus Dwyfach y bardd ganu
am absenoldeb y tirfeddianwyr caeth:
Gwag ddyffryn yw Llyn, a'i holl wynion dai,
Lle doi pob cerddorion,
Am y gwyr sydd mae cur s么n,
Girad sais mewn gward estron.
Marw yn ei chwsg
Bu farw'r Frenhines yn ei chwsg am dri o'r gloch y bore ac ar ddydd
yr angladd bu i'r corffddelw ar yr arch ennyn wylo a galar cyffredinol.
Parhaodd Dic Huws yn ffwtman yn y Palas gyda'i holynydd i'r orsedd,
Iago'r cyntaf.
Parhaodd i ganu hefyd a chofiaf Cynan, yn ei ddull dramatig, yn adrodd
Carol o Gyngor Hen Wr i Sawdwr (Sowldiwr) -carol lle mae Dic
Huws yn s么n amdano'i hun yn cyfarfod a henwr yn begio ar y stryd yn
Llundain ac wrth roi arian yng nghap y begerwr yn ymddiheuro na allai
roi mwy oherwydd;
"Sawdwr wyf a serving man
Nid oes fawr arian gen i."
Ond pan welodd y begiwr mai Cymro ydoedd, rhoddodd ei arian yn 么l
iddo a'i annog i eistedd i lawr i gael gair o gyngor ac mewn 30 o
benillion mae'n croniclo ffawd y milwr:
Tra bo chi yn cael y boen
A'ch cig a'ch croen yn brifo.
Rhyw gyfeillion eraill fydd
Yn mynd a'r budd wrth fflatro.
Nid oes pris mewn soldiwr ffel
Pan ddarffo rhyfel ffyrnig,
Mwy na'r dise gwaeth i gwedd ar ddiwedd y Nadolig.
Ac os gobeithi fod yn un o gael y ffortun ore,
Ti elli obeithio heb fawr hap
A chael hen gap fel finne.
Ym
mynwent Llanbedrog yn Llyn y claddwyd Dic Hughes, tua'r flwyddyn 1618
ac mewn marwnad iddo canodd Gruffydd Philip:
Bu was hael hapus helynt
Oes byth gof i Elsbeth gynt
Bu'r un wedd fab barwn iaith,
W芒s alwant i Siams eilwaith,
A'i was fu, gu ragoriaeth
Hyd yr awr o'r byd yr aeth.
|
|
|