|
|
Cym
Bwyl
Beirdd Cymru
yng Ngwlad Pwyl
Mawrth 2003
|
'Potrzebna zar贸wka', meddai bardd 'Golau yn y Gwyll'
(Gwyl Gymraeg Lublin, Gwlad Pwyl: Mai 6 - 22, 2003)
"Dwi angen bylb golau!" - oedd geiriau cyntaf y prifardd Ifor ap Glyn
wrth gyrraedd maes awyr Warszawa.
O hynny ymlaen, nid oedd dianc rhag y brawddegau hap-farddol a dynnwyd
o fwydlen, arwydd ffordd neu graffiti, ac unwaith i Mei Mac ddysgu
mai 'piers z kurczaka' yw 'brest cyw i芒r' yn y Bwyleg, a bod modd
creu cynghanedd Lusg wrth ddefnyddio ei enw ei hun, dechreuodd y ras
i lunio'r englyn cyntaf mewn iaith Slafeg.
Blas o Gymru
Roedd gan y prifeirdd waith difrifol i'w wneud, hefyd, sef darlithio
ym Mhrifysgol Gatholig Lublin er mwyn dod 芒 blas o Gymru a'i diwylliant
i fyfyrwyr yr Adran Astudiaethau Celtaidd.
Gyda
Mei ac Ifor 'roedd Arwyn Davies, y bardd carismatig 芒 llais hudolus
o Ddolanog, ac yn ystod dau ddiwrnod o ddarlithoedd, cyflwynwyd gan
y tri rychwant eang iawn o destunau, syniadau, cerddi a chaneuon,
yn eu dulliau ffraeth, unigryw eu hunain.
Doedd dim diffyg Cymraeg rhwng y beirdd a'u cynulleidfa ac roedd nifer
fawr o'r myfyrwyr yn awyddus iawn i sgwrsio - yn iaith y Cymry.
Mil o filltiroedd
Mynegwyd tipyn o syndod gan y teithwyr fod myfyrwyr ifainc o Lublin
mor rhugl, ar 么l blwyddyn neu ddwy yn unig o gyrsiau iaith.
Roedd ymateb Mei Mac yn arwyddocaol:
"Hyn oll ar 么l dwy flynedd o waith dysgu - a hynny fil o filltiroedd
o Gymru! - mae rhai wedi bod yng Nghymru ei hun ers mil o flynyddoedd,
ac yn methu creu dwy frawddeg!"
Nos Iau, y gyrchfan oedd yr hen ddinas ganoloesol i gynnal noson o
gerdd a ch芒n yn nhafarn 'U Szewca' (Tafarn y Crydd). Noson o wladwriaethu
gwrthdroadol' oedd hi, a'r dafarn, fu unwaith yn 'British Pub' heno'n
atseinio'n Gymraeg.
Go brin i unrhyw dafarn yng Nghymru weld gwell noson Gymraeg erioed:
o'r braidd y gwelwyd pall ar berfformio'r beirdd, ac ar y caneuon
Cymraeg a Gwyddeleg a ganwyd gan y Pwyliaid i gyfeiliant git芒r ac
organ geg.
Peint yn ddiweddarach
Erbyn hyn roedd y beirdd yn dechrau cael tipyn o hwyl ar yr iaith
Bwyleg, a newidwyd teitl sawl cerdd a ch芒n er mwyn medru ymarfer:
'Ja jestem facetem z brzuchem' wrth gwrs oedd 'Y fi yw'r boi efo'r
bol', ond peint neu ddau yn ddiweddarach cafwyd 'Wiew贸rka jest w lod贸wce!',
sef 'Mae gwiwer yn yr oergell!'
Hwn oedd y trydydd tro o fewn blwyddyn i feirdd o Gymru ymweld 芒'r
Brifysgol yn Lublin a'r ail dro i Mei Mac ddiddanu'r dinasyddion -
flwyddyn yn 么l fe'i gwahoddwyd ef a'r Prifardd Iwan Llwyd i'r ddinas
ac i Kazimierz, tref hanesyddol gerllaw; ac ym mis Hydref cafwyd ymweliad
gan Grahame Davies a David Greenslade, yn ogystal 芒'r Athro M. Wynn
Thomas o Brifysgol Cymru, Abertawe, i gynnal amryw weithgareddau llenyddol
a chelfyddydol.
Yng nghanol y gweithgareddau bob tro hefyd bu Sabine Heinz o Ferlin,
yr academydd a'r cennad Cymreig syfrdanol o ymroddgar, a'r British
Council yn cynorthwyo'n ariannol.
Dyfodol i'r heniaith yn Lublin
A fydd yr heniaith yn parhau yn Lublin? Barn Aled Llion, darlithydd
yn y Brifysgol a threfnydd y Gwyliau, yw y bydd.
"Gyda chymaint o waith arbennig o dda wedi ei wneud gan ein gwesteion,
mae proffeil yr iaith yn uwch nag erioed, a does dim rheswm pam na
ddylai'r Adran Astudiaethau Celtaidd hon, sy'n unigryw yng nghanolbarth
Ewrop, fedru parhau i fod yn gyfrwng i hybu ymwybyddiaeth o Gymru,
ei hiaith a'i diwylliant.
"Mae'r
gwaith yma yn dangos fod pobl yn awyddus iawn i ddysgu am Gymru, ac
yn hapus iawn i fanteisio ar gyfleon i wneud hynny. Mae'n ardderchog
sylwi bod diwylliant Cymru yn dechrau dylanwadu ar lenorion ac artistiaid
eraill yn yr ardal, ac felly'n ymgyfoethogi'r amrywiaeth sydd yma.
"Mae'r cyfnewidiadau yn fodd hefyd i gyfoethogi diwylliant Cymru hefyd
- mae'n braf fod cerddi Pwylaidd eu naws eisoes wedi dechrau ymddangos
gartref, yn dilyn teithiau cynharach.
"Er mai Iwerddon yw 'brawd mawr' y gwledydd Celtaidd o ran proffeil
rhyngwladol, mae gan Gymru hithau lawn cymaint i'w rannu 芒 diwylliannau
eraill, ac mae gennym yr adnoddau celfyddydol a dynol i wneud hynny
gystal 芒 neb.
"Wrth i Wlad Pwyl baratoi i ymuno 芒'r Uneb Ewropeaidd, mae'n amser
arbennig o dda i geisio ehangu'r cysylltiadau rhwng ein gwledydd.
Hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn Lublin ar flaen y gad yn hynny o
beth, a gobeithiaf y gallwn ddatblygu'r gweithgareddau a'r cysylltiadau
yn y dyfodol."
Ffilmiau Cymraeg
Yn dilyn llwyddiant yr w^yl farddol, cafwyd cyfle i fwynhau wythnos
o ffilmiau Cymraeg yn sinema 'Chatka Zaka' yn y ddinas, ac 'roedd
yr ymateb i honno'n fendigedig, meddai Aled:
"O 'Hedd Wyn' i 'Solomon a Gaenor', ac o 'Un Nos Ola Leuad' i 'Oed
yr Addewid', heb s么n am 'Gogs', cafodd y gynulleidfaoedd eu synnu
gan y ffilmiau sydd wedi dod allan o Gymru, a sinema Cymru ymhlith
y rhai lleiaf adnabyddus yn Ewrop.
"Mynegwyd syndod wrthyf sawl tro fod cymuned ieithyddol o hanner
miliwn yn medru creu ffilmiau o'r fath safon. Mae'n bleser mawr gen
i - gyda chydweithrediad S4C - fedru dangos y ffilmiau hynod hyn yn
Lublin yn ogystal 芒 mewn lleoliadau eraill yng Ngwlad Pwyl."
A do, mi lwyddodd Aled ac Ifor i lunio englyn yn y Bwyleg, heb fod
ynddo s么n am na bylb golau na gwiwer:
Jak w Lublinie Jest
Jak zar dla mnie, jak zurek - jak piwo,
Jak powiem, jak w贸dek;
Jak 'gyros', jak og贸rek,
M贸j los to tutaj m贸j lek.
|
|
|