|
|
Cyhoeddi
testun y Fedal Ryddiaith 2004
Trefn newydd yn rhoi mwy o amser i gystadleuwyr
Ebrill 2003 |
Testun cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol
Casnewydd a'r Cylch y flwyddyn nesaf fydd, "Newid".
Dan reolau newydd sy'n awr yn dod i rym mae'r testun yn cael ei gyhoeddi
cyn cyhoeddi y Rhestr Testunau fis Gorffennaf nesaf.
Y mae hynny er mwyn i gystadleuwyr gael mwy o amser i wneud eu gwaith.
Dan anfantais
Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod ychydig
yn 么l yn dilyn cwynion fod y rhai sydd am ymgeisio ar y gystadleuaeth
hon dan anfantais o gymharu a chystadleuwyr cystadlaethau eraill fel
y Gadair a'r Goron sy'n cael tan Ebrill 1 i anfon eu gwaith i mewn.
Rhaid i ymgeision y Fedal Ryddiaith, fodd bynnag, fod mewn llaw erbyn
Rhagfyr neu Ionawr er mwyn rhoi digon o amser i'r beirniaid ddyfarnu
ac lywioi'r gyfrol fuddugol drwy'r wasg a bod yn barod erbyn wythnos
yr Eisteddfod.
Yn barod y mae cystadleuwyr Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael dwy flynedd
i baratoi eu gwaith hwy.
O hyn allan bydd testun y Fedal Ryddiaith hithau yn cael ei chyhoeddi
yn syth wedi i'r Pwyllgor Lleol sy'n ei ddewis dderbyn sel bendith
Panel Llenyddiaeth Cyngor yr Eisteddfod a'r beirniaid.
Mae hynny newydd ddigwydd yn achos Eisteddfod Casnewydd 2004 ac mewn
cyd-ddigwyddiad y testun yw "Newid".
Ymhlith y rhai a fu'n ymgyrchu am newid yn y drefn y mae Cyfeillion
Llen a ysgrifennodd at yr Eisteddfod fis Mai diwethaf yn dadlau fod
y cwta bum mis rhwng cyhoeddi'r Rhestr Testunau ar gyfer seremoni
cyhoeddi yr Eisteddfod berthnasol yng Ngorffennaf bob blwyddyn a'r
dyddiad cau yn Rhagfyr yn "afresymol".
Ofnir hefyd mai un o ganlyniadau hyn yw fod hen gesig yn cael eu hanfon
i'r gystadleuaeth yn hytrach na gwaith a luniwyd yn benodol fel ymateb
i'r testun a osodwyd..
Cystadleuaeth Casnewydd
Union ofynion y gystadleuaeth yng Nghasnewydd yw "cyfrol o ryddiaith
heb fod dros 40,000 o eiriau" ar y testun Newid.
Yn ogystal a'r fedal y mae gwobr ariannol o 拢750 sy'n rhodd gan Marina
ac Arthur Wyn Parry i gofio canmlwyddiant geni y diweddar John Gwilym
Jones, un o feirniaid a dramodwyr mwyaf dylanwadol y cyfnod diweddar
ac un a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1939 - trydedd flwyddyn y gystadleuaeth.
Bu hefyd yn beirniadu'r gystadleuaeth sawl gwaith.
Y beirniaid yng Nghasnewydd fydd, Harri Parri, Hafina Clwyd a John
Rowlands.
|
|
|