Un prynhawn eisteddai Bendigeidfran, brenin Ynys Prydain, tu allan i'w lys yn Harlech yn edrych dros y m么r. Gwelai longau Matholwch yn dod draw o Iwerddon. Roedd Matholwch ar neges bwysig: dymunai briodi Branwen, chwaer y brenin.
Pan ddaeth Efnisien, hanner brawd cecrus Branwen, i glywed am hyn dialodd ar y Gwyddelod drwy anffurfio eu meirch. Torrodd eu gweflau at eu dannedd, torrodd eu cynffonnau at yr asgwrn cefn, a difethodd y meirch yn llwyr.
I osgoi rhyfel talodd Bendigeidfran am y meirch drwy roi meirch ac ebolion o Gymru yn anrheg i Matholwch, ynghyd ag aur ac arian, a chrochan hud, sef Pair y Dadeni. Gallai'r Pair ddod 芒 dyn marw yn fyw, dim ond ei osod yn y Pair. Roedd heddwch unwaith eto rhwng y ddwy wlad.
Hwyliodd Branwen a Matholwch i Iwerddon. Ymhen blwyddyn ganwyd mab iddynt, Gwern. Ymhen blwyddyn arall cododd protest yn Iwerddon. Grwgnachai'r Gwyddelod nad oedd Matholwch wedi cael digon o anrhegion yn lle'r ceffylau a ddifethwyd.
Penderfynwyd dial ar Branwen, a'i chosbi. Anfonwyd hi i weithio yn y gegin, a bob dydd d么i'r pen cogydd ati a'i tharo ar ei hwyneb. Rhag i Bendigeidfran ddod i glywed am hyn rhwystrwyd pob llong rhag mynd o Iwerddon i Ynys y Cedyrn.
Un ffrind oedd gan Branwen, sef aderyn drudwen. Dysgodd yr aderyn i siarad, gan s么n wrtho sut un oedd ei brawd. Yna ysgrifennodd Branwen lythyr at ei brawd yn cwyno am ei chosb. Rhwymodd y llythyr am f么n adenydd yr aderyn a'i anfon i Gymru.
Tristaodd Bendigeidfran yn fawr, a hwyliodd ar ei union i Iwerddon. Cafodd gweision Matholwch sioc un bore wrth wylio'r moch ar lan y m么r. Gwelsant goedwig yn y m么r yn symud tuag Iwerddon, a mynydd mawr yn symud yn ei hymyl, a llyn bob ochr iddi.
'Llongau yw'r goedwig yna,' meddai Branwen. 'A'r mynydd yw fy mrawd - mae'n gawr o ddyn. Ei lygaid yw'r ddau lyn ac mae'n edrych yn ddig iawn.'
Ff么dd Matholwch dros afon Llinon a dinistrio'r bont rhag i neb fedru ei ddilyn. Pan gyrhaeddodd Bendigeidfran lan yr afon dywedodd, 'A fo ben bid bont.' Gorweddodd ar draws yr afon a cherddodd ei filwyr drosto i'r lan arall.
Ceisiodd Matholwch heddwch drwy roi teyrnas Iwerddon i Bendigeidfran, ac adeiladu t欧 anferth iddo. Ond hoeliodd y Gwyddelod sachau ar waliau'r t欧, a chuddio milwr arfog ym mhob un i ladd Bendigeidfran. Daeth Efnisien o hyd iddynt. Gwasgodd ben pob un mor galed nes bod ei fysedd yn cwrdd yn eu hymennydd. Wedyn taflodd Gwern ar ei ben i'r t芒n. Dechreuodd pawb drwy'r t欧 ymladd.
Pan leddid un o'r Gwyddelod taflai Matholwch ef i'r Pair Dadeni a d么i'n fyw drachefn erbyn trannoeth. Roedd y Cymry'n colli'r frwydr. Llithrodd Efnisien i ganol cyrff meirw'r Gwyddelod a chafodd ei luchio gyda hwynt i'r Pair. Ymestynnodd yn y Pair nes ei dorri'n bedwar, ac yna bu farw ar lawr y crochan.
Clwyfwyd Bendigeidfran 芒 phicell wenwynig, a dim ond saith o'i filwyr oedd yn fyw wedi'r frwydr. Gorchmynnodd Bendigeidfran i'w filwyr dorri ei ben, a mynd 芒'r pen i Lundain i'w gladdu.
Hwyliasant i Gymru. Edrychodd Branwen yn drist tuag Iwerddon, ac ar ei gwlad ei hun. Rhoddodd ochenaid fawr, a thorrodd ei chalon gan ofid. Fe'i claddwyd yno ar lan Alaw ym M么n.
Cariodd y saith milwr ben Bendigeidfran i Harlech a buont yn gwledda yno'n hapus am saith mlynedd. Yna aethant i sir Benfro i wledda am bedwar ugain mlynedd. Pan agorodd Heilyn y drws hud oedd yno, difethwyd eu hapusrwydd. Ffrydiodd yr atgofion yn 么l am bob gofid a gawsant erioed. Daeth yn amser iddynt deithio i Lundain i gladdu'r pen.
Mwy
Cysylltiadau'r 成人论坛
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.