Un bore cysgodd Gwenhwyfar, gwraig Arthur, yn hwyr. Roedd Arthur a'i farchogion wedi mynd i hela carw purwyn, brenhinaidd, felly dilynodd Gwenhwyfar a'i morwyn hwy o hirbell. Ar eu ffordd gwelsant Geraint - roedd ef hefyd wedi cysgu'n hwyr.
Daeth corrach ar farch praff, marchog ar farch rhyfel, a gwraig mewn gwisg sidanwe i'w cyfarfod. Anfonodd Gwenhwyfar ei morwyn atynt i ofyn pwy oeddynt. Gwrthododd y corrach ddweud, a phan geisiodd y forwyn ofyn i'r marchog trawodd y corrach hi ar ei hwyneb nes bod gwaed yn llifo.
Pan aeth Geraint i ofyn i'r corrach ei enw, digwyddodd yr un peth iddo yntau.
Aeth Geraint ymlaen i'r dref agosaf. Roedd y corrach, y marchog, a'r wraig yn aros yno hefyd. Bore trannoeth roedd y marchog yn cynnal twrnameint am hebog. Roedd eisoes wedi ei ennill ddwywaith a phe enillai ef am y trydydd tro c芒i alw ei hun wrth y teitl 'Marchog yr Hebog' am byth.
Penderfynodd Geraint y byddai'n drysu ei gynllun a thrwy hynny'n dial cam morwyn Gwenhwyfar. Benthycodd arfau ei letywr, Ynywl Iarll, a hawliodd yr hebog i'w gariad, Enid ferch Ynywl. Roedd yn olygfa ryfedd: Geraint yn gwisgo hen arfau rhydlyd, a'r marchog arall a'r haul ar ei helm a'i harnais.
Ysbardunodd Geraint ei farch a thrawodd ei elyn nes hollti ei darian. Fflachiai eu cleddyfau ac roedd y ddau bron yn ddall wrth i'r chwys a'r gwaed redeg i'w llygaid.
O'r diwedd gwelodd Geraint ei gyfle. Cododd ei gleddyf a'i suddo i benglog ei elyn. Yna taflwyd hwnnw'n swp ar ei farch a'i anfon at Gwenhwyfar i ymddiheuro i'w morwyn. Edern ap Nudd oedd ei enw.
Aeth Geraint ag Enid i lys Arthur er mwyn i Gwenhwyfar ei gwisgo, ac fe'u priodwyd yn llys Arthur.
Ymhen ychydig daeth negeswyr Erbin at Geraint i ofyn iddo ddiogelu teyrnas Erbin gan ei fod yn heneiddio. Gwnaeth Geraint hynny a lledodd ei glod drwy'r wlad. Hoffai Geraint lys Erbin a chwmni Enid gymaint nes bod y marchogion eraill yn ei ddifr茂o am aros gyda'i wraig yn lle ymladd brwydrau a thwrnameintiau. Tristaodd Enid am hynny, ond camddeallodd Geraint ei thristwch fel hiraeth am gariad arall.
I brofi ei chariad a'i ffyddlondeb gorfododd Geraint hi i anturio gydag ef ar daith hir a pheryglus. Gorchmynnodd ei bod yn marchogaeth o'i flaen yn fud. Anwybyddodd Enid y gorchymyn i'w rybuddio o dri chyrch ar ei fywyd. Rhybuddiodd ef wedyn fod Iarll Dwn am ei ladd er mwyn ei chael hi'n wraig, ac yna fod y Brenin Bychan am ei waed am iddo dresmasu ar ei dir. Trechodd Geraint bob rhwystr a dd么i i'w erbyn, ond daliai i siarad yn sarrug ag Enid.
Ar 么l trechu'r Brenin Bychan esgynnodd Geraint ar ei farch yn waedlyd ac anesmwyth. Ymhen amser daeth Cai o hyd iddo a chan fod y ddau mor anfoesgar tuag at ei gilydd aethant i ymladd. Daeth Gwalchmai a'i dafod arian i ddenu Geraint i lys Arthur i wella o'i glwyfau.
Ymhen mis, wrth i Geraint ac Enid barhau 芒'u taith, clywsant y sgrech fwyaf croch yn y byd, a gwelsant farchog marw, a'i gariad yn wylo yn ei ymyl. Wrth drechu'r tri chawr oedd wedi lladd y marchog cafodd Geraint anaf aruthr, fel mai o'r braidd ei fod yn fyw.
Tynghedodd Enid na fyddai'n bwyta nac yfed nes byddai Geraint yn yfed a bwyta. Trawodd Iarll Limwris hi ar ei boch i geisio ei gorfodi, a sgrechiodd hithau nerth ei phen. Dadebrodd Geraint a lladd yr Iarll 芒'i gleddyf.
Cymodwyd Geraint ac Enid, a dychwelodd y ddau i'w teyrnas a'i llywodraethu gyda chlod ac edmygedd o hynny allan.
Mwy
Cysylltiadau'r 成人论坛
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.