Cafodd Augustus John yr hawl i gadw ei farf tra roedd yn y fyddin, a wnaeth ef yr unig swyddog Allied Forces i gael yr hawl i wneud hynny - heblaw Brenin Si么r V wrth gwrs.
Ganwyd Augustus yn 4 Ionawr 1878 a magwyd ef a'i arlunydd o chwaer Gwen yn Ninbych y Pysgod, lle roedd eu tad yn gyfreithiwr lleol. Mynychodd y ddau Ysgol Gelf Slade yn Llundain a mynd ymlaen i fod yn arlunwyr blaenllaw.
Newidiodd personoliaeth Augustus yn ddramatig ar 么l iddo gael niwed i'w ben ar 么l damwain ddeifio. Aeth o fod yn ddyn tawel, myfyrgar i yfwr trwm, yn ferchetwr ac yn Fohemaidd. Tyfodd farf a dechrau gwisgo clust dlws aur, cap sipsi a sgarff.
Trwy gydol ei fywyd roedd wedi ei gyfareddu gyda diwylliant Romany. Roedd ei fywyd carwriaethol yr un mor gythryblus 芒'i yrfa artistig - ar 么l priodi Ida yn 1901, dim ond tair blynedd yng nghynt y cyfarfu a syrthio mewn cariad 芒 merch arall. Y cariad newydd yma yn ei fywyd oedd Dorothy McNeill (oedd yn cael ei hadnabod fel Dorelia), ffrind a model ei chwaer Gwen.
Daeth Dorelia yn menage-a-trois gyda Augustus a'i wraig. Daeth Dorelia yn wrthrych i nifer o'i ddarluniau, gan gynnwys 'The Smiling Woman' sy'n ei phortreadu fel sipsi. Datblygodd y ddau ffordd o fyw crwydrol, yn teithio o amgylch Cymru mewn caraf谩n a cheffyl.
Bu farw Ida ym 1907 yn rhoi genedigaeth i'w pumed plentyn ac ar y pwynt hwnnw roedd Dorelia hefyd wedi geni dau o blant John. Roedd yn dad i lawer mwy o blant gan wahanol fenywod yn ystod ei fywyd cosmopolitan.
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd Augustus yn swyddog ym myddin Canada, a chafodd yr hawl i beintio ar y ffrynt Orllewinol. Er hynny, mae'n ymddangos na lwyddodd i wneud llawer iawn o beintio, ac ar 么l deufis bu mewn ffrwgwd a achosodd iddo gael ei anfon adref mewn cywilydd.
Yn ddiweddarach, mynychodd Augustus Gynhadledd Heddwch Versailles lle beintiodd nifer o'r mynychwyr, a daeth yn un o beintwyr portreadau mwya' blaenllaw Prydain.
Ymhlith y bobl roedd Thomas Hardy, Dylan Thomas, George Bernard Shaw, Tallulah Bankhead, a T E Lawrence. Fe gafodd enw gwael yn rhyngwladol pan ddychwelodd yr Arglwydd Leverhulme ei bortread i John, am nad oedd yn hapus 芒'r darlun. Bu protestiadau trwy'r byd yn dilyn hyn.
Treuliodd Augustus ran helaeth o'i fywyd yn ne Lloegr, a bu farw ar Hydref 31, 1961.