Mebyd y M么nwysyn
Ysgolhaig a beirniad llenyddol oedd Bedwyr Lewis Jones. O 1974 hyd ei farwolaeth annhymig ym 1992 bu'n Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Ysgrifennodd gryn dipyn am yr iaith a'i diwylliant ac roedd yn ddarlledwr profiadol iawn ar y pynciau hyn. Roedd ei bersonoliaeth agos-atoch a'i ddiddordeb diffuant ym muddiannau ei fyfyrwyr yn amlwg yn ei wersi a phob sgwrs, a denodd gannoedd i astudio'r Gymraeg yn y Coleg ac i gymryd diddordeb ynddi yn y gymdeithas ehangach, gan ei fod yn methu gwrthod unrhyw gais am ddarlith o unrhywle yn y Gogledd.
Ganwyd ef yn Wrecsam, Sir Ddinbych, ym 1933, ond M么nwysyn ydoedd i'r carn. Cafodd ei fagu ym Mhenysarn ger Llaneilian. Ymhyfrydai mewn iaith, ll锚n, hanes, ll锚n gwerin, enwogion a thopograffi yr ynys. Siaradai Gymraeg cyfoethog Sir F么n gydag awch ac acen nodweddiadol, a daeth yn awdurdod ar idiomau'r sir.
I Rydychen
Fe'i haddysgwyd ym Mangor ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Tra roedd yn fyfyriwr bu'n olygydd (ar y cyd ag R. Gerallt Jones) Yr Arloeswr, cylchgrawn a gyhoeddwyd ym Mangor rhwng 1957 a 1960. Er i'r celfyddydau gweledol, cerddoriaeth a'r theatr gael sylw ynddo, prif ddiddordeb y cylchgrawn bywiog hwn oedd llenyddiaeth, ac un o'i amcanion oedd darparu llwyfan ar gyfer beirdd ifanc megis Gwyn Thomas a Bobi Jones, yn ogystal 芒 gwaith llenorion fel Kate Roberts a John Gwilym Jones. Felly gwnaeth Bedwyr Lewis Jones ei gyfraniad cynharach i ddiwylliant ein gwlad.
Cyhoeddodd Yr Hen Bersoniaid Llengar ym 1963, sef astudiaeth o glerigwyr yr Eglwys Anglicanaidd a gyfrannodd i lenyddiaeth Gymraeg yn ystod y cyfnod o 1818 hyd 1858 gan ddioddef gwrthwynebiad, yn aml, oddi wrth yr elfen wrth-Gymraeg yn yr Eglwys Sefydliedig; Eglwyswr oedd yr awdur, a llwyddodd i dynnu sylw at werth cynnyrch llenyddol yr hen glerigwyr mewn modd dadlennol a gwerthfawr.
Ysgolhaig o fri
Aeth ymlaen, er gwaethaf ei ddyletswyddau academaidd a gweinyddol fel Pennaeth yr Adran Gymraeg ym Mangor, i ysgrifennu ar amrywiaeth o bynciau, gan gadw mewn golwg y darllenydd 'cyffredin' oedd wastad yn agos at ei galon.
Cyfrannodd fonograff ar R.Williams Parry i'r gyfres Writers of Wales (1972), un arall ar Arthur y Cymry (1975), a nifer o gyfrolau ar y Gymraeg, yn eu plith Iaith Sir F么n (1983), Blas ar Iaith Ll欧n ac Eifionydd (1987), Enwau (1991) ac Yn ei Elfen (1992). Er yn 'boblogaidd' eu hap锚l, roedd safon ysgolheigaidd y gweithiau hyn yn uchel iawn.
Cyhoeddodd hefyd Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1965), Rhyddiaith R. Williams Parry (1974), Gw欧r M么n (1979) a Bro'r Eisteddfod: Ynys M么n (ar y cyd 芒 Derec Llwyd Morgan, 1983). Ar 么l iddo farw cyhoeddwyd y gyfrol ar Williams Parry yn y gyfres Dawn Dweud (1997) wedi'i olygu gan ei gyfaill a'i gyd-weithiwr Gwyn Thomas.
Mae Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor yn coff谩u'r Athro yn y Coleg lle treuliodd gymaint o flynyddoedd. Gwelir plac ar wal yr ysgol yn Llaneilian lle roedd yn ddisgybl.
Meic Stephens