成人论坛

Carwyn James

Carwyn James

Arwr llawer o Gymry a Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig oedd Carwyn James. Enillodd ddau gap dros Gymru, ond mae'n fwy enwog fel hyfforddwr timau Llanelli a'r Llewod. Roedd hefyd yn athro, yn ddarlledwr, yn ddeiacon ac yn lenor medrus.

Bro y Cewri Rygbi

Nid jobyn o waith oedd Rygbi i Carwyn, dyma oedd ei fywyd.

John Dawes, un o Lewod 1971

Ganwyd Carwyn yng Nghefneithin yn 1929, pentref glofaol ger Llanelli (lle ganed Barry John hefyd). Mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Drefach, a chafodd chwe chap dros Ysgolion Uwchradd Cymru yn ei ieuenctid. Chwaraeodd hefyd dwy gem i Lanelli tra yn yr ysgol uwchradd.

Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth wrth draed Gwenallt a T.H. Parry-Williams. Roedd gwasanaeth milwrol yn orfodol ar y pryd ac felly ymunodd 芒'r Llynges lle y dysgodd Rwseg. Roedd yn athro o ran galwedigaeth ac yn nes ymlaen yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Wedi dychwelyd i Sir G芒r bu'n chwarae yn gyson i Lanelli fel maswr. Enillodd ddau gap dros Gymru yn 1958, ond mae'n debygol y byddai wedi ennill llawer mwy onibai ei fod yn cystadlu a Cliff Morgan am safle'r maswr yn y tim cenedlaethol.

Arwain Llanelli i'r brig

Wedi ymddeol fel chwaraewr, daeth yn hyfforddwr Llanelli. Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr, enillodd Llanelli Gwpan Cymru bedair gwaith rhwng 1973 a 1976, ac ennill buddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1972.

Ni fu erioed yn hyfforddwr i Gymru, yn rhannol oherwydd ei fod yn credu y dylai'r hyfforddwr fod yn gadeirydd y pwyllgor dewis ac yn enwebu'r dewiswyr eraill. Dewiswyd ef yn hyfforddwr y Llewod Prydeinig ar gyfer eu taith i Seland Newydd yn 1971. Enillwyd y gyfres, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.

Bu Carwyn James yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholiad seneddol 1970. Wedi ymddeol fel hyfforddwr daeth yn amlwg fel darlledydd ac yr oedd yn ysgrifennu colofn wythnosol i'r Guardian.

Tensiynau Cudd

Er ei holl lwyddiant, roedd Carwyn yn ddyn gyda thensiynau emosiynol cymhleth, yn bennaf, medd rhai, oherwydd ei ddyheadau hoyw. Y gred yw gan lawer bod y byd 'macho' rygbi yn gwrthdaro hefo hyn a dioddefodd cyfyng gyngor yn gudd am flynyddoedd oherwydd ei fywyd personol. Ni briododd erioed ac roedd hyn yn destun siarad ac yn atgyfnerthu'r straeon am ei rywioldeb.

Bu farw'n sydyn mewn ystafell gwesty yn Amsterdam o drawiad ar y galon yn 1983 ac yntau ond yn 54 oed.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.