成人论坛

Catrin Finch

Catrin Finch

Cyn delynores swyddogol Tywysog Cymru, ac un o delynorion mwya' blaenllaw y byd.

Croten Ceredigion

Ganwyd Catrin Finch yn Llanon, Ceredigion ym 1980, ac fe'i magwyd yn y pentref bach ar arfordir bae Ceredigion, a mynychodd yr ysgol gynradd yn y pentref. Pan oedd yn bum mlwydd oed, aeth ei rhieni 芒 hi i Glwb Cerddoriaeth Llanbed i wylio perfformiad gan y delynores Marisa Robles. Dyma drobwynt i Catrin - ar 么l y gyngerdd dywedodd y ferch fach ei bod hi hefyd am fod yn delynores. A daeth ei hamser yn fuan.

Ar ei phen blwydd yn chwe mlwydd oed, cafodd delyn Geltaidd yn anrheg, a dechreuodd gymryd gwersi telyn gyda Delyth Evans yn Aberystwyth. Sylweddolodd ei hathrawes bod ganddi dalent anghyffredin. Pan oedd Catrin yn wyth mlwydd oed, cyfarfu ag Elinor Bennett, un o delynorion mwyaf blaenllaw Cymru, a bu'n hyfforddi Catrin am yr wyth mlynedd nesaf.

Talent anghyffredin

Fy nod yw i boblogeiddio'r Delyn fel offeryn. Mae'n reit anghyfarwydd i ddweud y gwir.

Catrin Finch

Roedd Elinor Bennett yn byw yn y Bontnewydd, Gwynedd, bron i gan milltir o Lanon. Bob pythefnos, byddai Catrin yn gwneud y siwrne bedair awr yn 么l ac ymlaen, am wers o ddwy awr. Erbyn ei bod yn naw oed, roedd wedi llwyddo mewn arholiad gradd wyth gydag anrhydedd. Roedd Catrin yn ddeg oed pan ymunodd 芒 Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno, hi oedd yr aelod ifancaf o'r gerddorfa honno i ganu'r delyn mewn Cyngerdd Proms y 成人论坛 yn yr Albert Hall yn Llundain.

Yn y cyfnod yma, symudodd Catrin o ysgol gynradd Llanon, i ysgol uwchradd Aberaeron. Byddai'n deffro am chwech yn y bore i ymarfer am ddwy awr cyn mynd i'w gwersi ysgol, ac ar y penwythnosau, byddai'n ymarfer hyd at saith awr.

Palas Buckingham yn galw

Enillodd y wobr gyntaf yn adran ieuenctid G诺yl Delyn y Byd yn 1991, a daeth yn ail yn y gystadleuaeth i oedolion, pan oedd ond yn 14 mlwydd oed, yn 1994.

Pan oedd Catrin yn 16 mlwydd oed, gadawodd Geredigion a mynd i astudio gyda'r tiwtor Skaila Janga yn Ysgol Purcell yn Llundain. Mewn dwy flynedd wedyn aeth ymlaen i'r Academi yn Llundain.

Pan oedd yn ei thrydedd blwyddyn yno, cafodd ei deffro gan ei ffrind yn dweud bod yna alwad ff么n iddi. Palas Buckingham oedd yno, yn ei gwahodd i fod yn Delynores Frenhinol i Dywysog Cymru. Doedd neb wedi dal y swydd hon cyn hynny ers 1871 pan apwyntiodd y Frenhines Fictoria y telynor o Gymru John Thomas.

Teithio'r Byd

Daeth y gwahoddiad wedi i Tywysog Charles glywed Catrin yn canu'r delyn yn ei ddathliad pen-blwydd yn hanner cant, a dywedodd "mae hi'n glod i Gymru." Derbyniodd Catrin y gwahoddiad, a bu'n canu'r delyn mewn digwyddiadau cyhoeddus a phreifat ym Mhalas Buckingham, Winsdsor, Highgrove a Phalas St James.

Canodd Catrin y delyn yn Agoriad Swyddogol ail dymor y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru wrth i'r teulu brenhinol gyrraedd bae Caerdydd, ym mis Mai 2003.

Mae Catrin Finch wedi perfformio ar draws yr Unol Daleithiau a rhan helaeth o Ewrop, yn ogystal 芒 Gwlad Thai a'r Dwyrain Pell, ac mae hi hefyd wedi ennill y wobr gyntaf yn un o'r cystadlaethau telyn mwya' mawreddog y byd, sef Cystadleuaeth Telyn Rhyngwladol Lily Laskine.

Mae Catrin wedi gweithio yn agos gyda'r cerddor enwog o Gymru, Karl Jenkins a drefnodd ac a gyfansoddodd amrywiaeth o waith iddi i'w cyhoeddi ar label Sony yn 2003.

Telyn Binc!

Yn Ionawr 2004, ymddangosodd Catrin mewn cyngerdd arbennig i ddathlu pen blwydd y cerddor yn drigain oed, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Tynnodd dipyn o sylw wrth iddi berfformio gyda thelyn newydd arbennig binc! Roedd y delyn wedi ei chynllunio yn arbennig fel bod Catrin yn gallu ei chario o gwmpas, ac felly gallai gerdded a chanu'r delyn ar yr un pryd. Yn y gyngerdd hon hefyd y perfformiodd am y tro cyntaf gyda'i chyn athrawes telyn, Elinor Bennett ers iddi ddod yn fam yng nghyfraith iddi!

Mae Catrin Finch yn briod 芒 Hywel Wigley, mab Elinor Bennett a chyn Lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley a rhoddodd enedigaeth i ferch fach yn Rhagfyr 2006.

Ffurfiodd Catrin y band, CF47, sy'n teithio'r DU yn perfformio ac agorodd stiwdio recordio ei hun, 'Acapela', mewn hen gapel yng Nghaerdydd.

Mae hi wedi rhyddhau sawl cryno-ddisg hyd yn hyn yn cynnwys 'Catrin Finch -Live/Byw' yn 2008 a'r 'Goldberg Variations' yn 2009.

Yn 2009, agorwyd Canolfan Catrin Finch, canolfan berfformio a chynadledda ym Mhrifysgol Glyndwr yn Wrecsam.

Yn 2011 bu Catrin yn perfformio ar y delyn ar gyfres newydd i blant bach, 'Byd Begw Bwt.'


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 成人论坛 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.