成人论坛

Charles Williams

Charles Williams, Gillian Elisa Thomas a Harriet Lewis

Perfformiwr annwyl ac amryddawn a dylanwad mawr ar fyd y ddrama yng Nghymru. Yn adnabyddus iawn am bortreadu'r cymeriad hoffus, Harri Parri, yn opera sebon y 成人论坛, 'Pobol y Cwm' am nifer o flynyddoedd.

Dawn dweud

Charles Williams a ynganodd y geiriau cyntaf erioed yn y gyfres pan ddechreuodd yn 1974. "Bore da, Maggie Mathias" oedd cyfarchiad cyntaf ei gymeriad Harri Parri.

Dechreuodd ei yrfa radio gyda'r 成人论坛 a gwnaeth ei enw ar raglen boblogaidd y Noson Lawen a ddarlledid yn y 1940au dan gyfarwyddiaeth Sam Jones o Neuadd y Penrhyn, Bangor.

Daeth i fod yn un o fawrion byd y ddrama yng Nghymru, yn wyneb a llais cyfarwydd ar radio a theledu drwy Gymru benbaladr ac yn berfformiwr ac arweinydd naturiol a deallus a ddylanwadodd ar genhedlaeth gyfan o gomed茂wyr ac actorion.

Er iddo dreulio llawer o'i amser yn gweithio yng Nghaerdydd, mynnodd fyw drwy ei oes ym mhentref Bodffordd, Ynys M么n, lle magodd o a'i wraig, Jini, chwech o blant mewn t欧 cyngor yno.

Roedd yn ddyn ei filltir sgw芒r a thystia llawer o'i gydweithwyr mai ei adnabyddiaeth drylwyr o fywyd a chymeriadau'r fro lle cafodd ei fagu, a lle roedd yn byw, a roddodd seiliau mor gadarn i'w ddawn fel actor.

Roedd ei ddawn dweud a'i st么r o straeon am bobl ei fro yn ddiarhebol.

Dyddiau Cynnar

Cafodd ei eni mewn tyddyn bach o'r enw Penffordd ym Modffordd. Gadawodd yr ysgol yn 13 mlwydd oed ac aeth i weithio, neu i 'weini', ar ffermydd lleol. Parhaodd i weithio ar y tir yn achlysurol drwy gydol ei yrfa er mwyn ennill arian ychwanegol.

Ei fab Idris Charles, sy'n ymhelaethu yma ar fywyd a gyrfa ei dad:

"Roedd yn mwynhau bywyd y fferm yn arw. Mi ddechreuodd fel gwas fferm a gweithio'i ffordd fyny i fod yn brif hwsmon.

"Pan ddechreuodd gyda'r 成人论坛, byddai'n mynd a'r sgript i mewn yn fudr ac yn fl锚r ar 么l iddo fod yn godro cyn mynd i'w waith!

"Dwi'n credu mai'r ffermydd mwyaf ddiweddar iddo weithio arnynt oedd fferm Cerrig Duon efo Mr a Mrs Humphreys, a fferm Frogwy Fawr, efo Mr a Mrs Hughes. Un o'i gyfnodau mwyaf hapus oedd tra'n gweithio ar fferm Frogwy Fach. Mae 'na lot o straeon yn ei lyfr 'Wel, Dyma Fo' o'r cyfnod yma.

"Mi oedd o yn actor amatur arbennig o dda yn 么l pob s么n a byddai'n cynhyrchu dram芒u capel.

"Fe welodd Cynan o yn perfformio mewn eisteddfod ac awgrymu y byddai'n berffaith ar gyfer rhan William Jones yn nram芒u PH Burton yn Llundain. (Y dramodydd a lywiodd yrfa Richard Burton).

Actor Amryddawn

"Roedd llawer o bobl wedi ceisio am y rhan ond yn 么l Burton, ar 么l i dad agor ei geg a dweud un frawddeg, roedd yn gwybod mai fo ddylai chwarae William Jones.

"O hynny 'mlaen cafodd lot o waith efo Cwmni Theatr Cymru, gydag Cynan yn cynhyrchu a fo yn chwarae'r prif rannau.

"Wrth edrych yn 么l, mae'n debyg ei fod yn un o'r actorion mwyaf amryddawn i droedio'r llwyfan neu i fod mewn stiwdio radio a theledu.

"Mae sawl actor wedi dweud ei fod yn garedig wrthyn nhw, yn enwedig wrth fynd i'r stiwdio radio am y tro cyntaf.

"Roedd yn feistr ar y radio - yn gwybod lle i sefyll i roi'r argraff ei fod mewn adeilad neu ryw sefyllfa arall. Mae'n grefft, ac mi ddysgodd lot o bobl eraill, yn ddistaw bach drwy gael gair yn y gornel efo nhw: 'Tria hi fel hyn 'li'. Mae sawl un fel Mei Jones, Hywel Gwynfryn a John Pierce Jones wedi dweud iddo fod yn garedig iawn, iawn wrthyn nhw.

Pobol y Cwm

"Fe chwaraeodd ran Harri Parri ar Pobol y Cwm am flynyddoedd ac roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny. Er fod yn well ganddo'r llwyfan, daeth i dderbyn teledu fel rhan o'i fywyd a daeth yn naturiol iawn arno mewn amser.

"Un o'i hoff rannau oedd cymeriad o lyfr y Parchedig Harri Parri, Hufen a Moch Bach. Roedd wedi darllen y gwaith ar y radio a roedd yn hapus iawn i chwarae'r rhan yng nghynhyrchiad S4C.

"Profiad mwyaf gwefreiddiol ei yrfa oedd pan chwaraeodd y brif ran yn y ddrama Mr Lolipop MA gan Rhydderch Jones.

"Roedd yn chwarae rhan dyn oedd wedi colli ei feddwl ac yn credu bod ganddo ddosbarth o blant o'i flaen yn ei ystafell adref. Roedd gofyn iddo felly actio efo rheolaeth dros y cyfan roedd yn ei bortreadu - sef siarad efo plant nad oedd wir yna.

"Pan chwaraeodd y rhan yn y fersiwn Saesneg, ei gyd-actor oedd Dame Flora Robson. Roedd yn cofio'r darn pan fyddai'n s么n am adael y dosbarth gan fod yr arolygwyr yn dod, 芒 hithau'n tr茂o ei berswadio nad oedd yna inspectors yna, na phlant 'chwaith. Roedd yn cofio cael gwefr wrth weld dagreuyn go iawn yn ei llygaid - a hynny bob tro iddyn nhw chwarae'r olygfa.

The Archers

"Roedd o hefyd yn yr Archers am ryw saith mlynedd, yn actio'r ffermwr Haydn Evans gyda John Ogwen yn fab iddo. Mewn un olygfa, roedd y sgript yn dweud bod merch yn dod 芒 phaned o de i'r beudy at Haydn Evans - ond mi ddywedodd fy nhad na fyddai neb fyth yn dod 芒 phaned i'r beudy rhag ofn i'r gwartheg ei gicio drosodd!

"Dwi hefyd yn ei gofio'n dweud iddo gael cannoedd o lythyrau o ledled Prydain yn cynnig cyngor iddo pan oedd gan y cymeriad Haydn Evans boen yn ei gefn!

"Roedd yn ddyn crefyddol ac yn aelod ffyddlon o Gapel Methodistaidd y Gad, Bodffordd, cyn gadael ac ymuno 芒'r anibynnwyr yng nghapel Sardis. Byddai'n hyfforddi plant ac oedolion i adrodd hefyd ac roedd ganddo dri pharti - Parti'r Fron, Parti Fron Bach a'r Gwerinwyr.

"Roedd yn gefnogol iawn i eisteddfodau bach, cwmn茂au drama a chyngherddau bach. Y werin bobl oedd ei bobl."

Bu farw Charles Williams yn 1990 ac mae wedi'i gladdu yn Eglwys y Plwyf, Bodffordd.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.