成人论坛

Cynan

Cynan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdar 1956

Archdderwydd, bardd o fri ac enillydd coron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynan oedd testun ffilm liw Gymraeg gyntaf y 成人论坛, Y Llanc o L欧n yn 1970.

Mab y Bwthyn

Pan fwyf yn hen a pharchus ac arian yn fy nghod, a phob beirniadaeth drosodd a phawb yn canu 'nghlod. Mi brynaf fwthyn unig heb ddim o flaen y dd么r, ond creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y m么r.

Aberdaron gan Cynan

Ganwyd Albert Evans-Jones ym Mhwllheli yn fab i siopwr lleol ar Ebrill 14, 1895. Yn 1916 graddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor a mynd i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn Gaplan a gwasanaethu ym Macedonia.

Ei enw barddol oedd Cynan ac fel Cynan y c芒i ei adnabod gan y rhan fwyaf o bobl Cymru.

Yn 1921 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei bryddest boblogaidd, Mab y Bwthyn, ac ym marn un awdurdod ar ei waith, Dafydd Owen, hon oedd y gerdd fwyaf poblogaidd yng Nghymru yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Daeth ei gerddi telynegol eraill, fel Anfon Nico, yn hynod boblogaidd ar lawr gwlad hefyd.

Tad Seremoni Barddol

Yn ystod dauddegau'r ugeinfed ganrif, bu'n weinidog ym Mhenmaenmawr ac yna'n ddarlithydd ym Mangor o 1931 i 1960.

Yn 1931 cafodd ei benodi'n Ddarllenydd dramau Cymreig ar ran yr Arglwydd Chamberlain. Fe wnaeth gyflawni'r swydd yma tan ddiddymiad sensoriaeth yn 1968. Roedd yn sensor rhyddfrydig -er enghraifft, fe wnaeth roi caniatad i ddrama James Kitchener Davies, 'Cwm Glo' drama oedd, medd beirniaid y dydd, yn llawn 'mochondra', i gael ei pherfformio wedi iddi ennill y Wobr Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1968.

Enillodd Goron yr Eisteddfod dair gwaith a'r Gadair unwaith am ei awdl, 'I'r Duw nid Adwaenir, yn 1924'. Etholwyd ef yn Archdderwydd ddwywaith rhwng 1950-1953 a 1963-67.

Cynan yn anad neb oedd yn gyfrifol am lunio seremoni y cadeirio a'r coroni fel rydym yn eu hadnabod heddiw gan geisio creu seremoni fodern a fyddai, yn ei d欧b ef, yn adlewyrchu ysbryd y genedl.

Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i fywyd diwylliannol Cymru a dewisodd y teitl Syr Cynan Evans-Jones. Bu farw yn 1970 ac mae wedi'i gladdu ar Ynys Tysilio ar lan y Fenai.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.