Yn 么l rhai, dyma nofelydd mwyaf Cymru a ddechreuodd ysgrifennu ar hap. Yr ieuengaf o chwech o blant, ganwyd Owen yn yr Wyddgrug i deulu tlawd.
Chafodd o erioed adnabod ei dad na dau o'i frodyr gan i'r tri farw ynghyd 芒 28 arall mewn llif ym mhwll Argoed yn yr Wyddgrug pan oedd Owen yn faban. Achosodd hyn galedi mawr i'r teulu.
Fe fagwyd Daniel Owen mewn t欧 teras a ddymchwelwyd yn ddiweddarach ym Maes-y-dre, yr Wyddgrug ac aeth yn brentis teiliwr i siop Angell Jones yn Stryd y Castell, yr Wyddgrug ac yna'n ddiweddarach ar y Stryd Fawr.
Dylanwadodd Jones yn drwm ar ei brentis a chan ei fod yn aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd, dechreuodd Owen bregethu dan ei anogaeth. Ar 么l deng mlynedd, gadawodd y siop a mynd i astudio ar gyfer y weinidogaeth yn 24 oed.
Fe ddychwelodd i siop y teiliwr ymhen dwy flynedd ond daliodd ati i bregethu. Cyhoeddwyd ei bregethau mewn cyfnodolion ac fe enillodd glod yn lleol amdanynt.
Agorodd Owen siop deiliwr ei hun efo partner ar y Stryd Newydd sef safle tafarn Y Pentan heddiw a datblygodd y siop yn un safonol iawn ond roedd Daniel Owen hefyd yn enwog am ei ddysgeidiaeth a'i athrawiaeth.
Ond ar un cyhoeddiad pregethu yn Llangollen, fe drawyd Owen yn wael a ddaeth o ddim dros y salwch o gwbl a gorfu iddo roi'r gorau i bregethu. Awgrymodd y Parch. Roger Edwards, golygydd Y Drysorfa ar y pryd, y dylai ganolbwyntio bellach ar ysgrifennu. Dyna'n union a wnaeth.
Cyhoeddodd Owen nifer o lyfrau gan gynnwys Y Dreflan a Hunangofiant Rhys Lewis gan sylfaenu sawl un o'r cymeriadau ar gymeriadau y gwyddai ef amdanynt yn Yr Wyddgrug.
Cyhoeddwyd Hunangofiant Rhys Lewis yn wreiddiol yn 1885 a dyma yn 么l rhai ei waith gorau. Ysgrifennodd sawl llyfr arall ac ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Cyngor Tref yr Wyddgrug yn 1894.
Er o deulu tlawd yn wreiddiol, fe lwyddodd Daniel Owen i godi t欧 i'w fam ac roedd o'n byw mewn fflat yn Stryd Newydd.
Bu farw yn 1895 ac fe'i claddwyd yn y fynwent yn yr Wyddgrug. Codwyd cerflun goffa iddo wrth ymyl y llyfrgell yn Stryd Earl.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn