'David Beckham ysbrydol ei ddydd' medd Kevin Adams. Evan Roberts oedd arweinydd carismataidd Diwygiad 1904-05, amser o adfywiad ysbrydol gwelodd 100,000 o bobl Cymru yn rhoi eu ffydd yn Iesu Grist.
Ateb Gweddi?
Daeth Evan Roberts, oedd yn 27 mlwydd oed yn 1904, yn enwog iawn am ei waith ac mae llawer yn priodoli dechrau y symudiad Pentecostal rhyngwladol iddo fe.
I lawer o bobl roedd y Cymro dinod hwn o Gasllwchwr yn ateb i weddi - pregethwr dosbarth gweithiol oedd 芒 chysylltiadau amlwg 芒'r diwydiannau peryglus oedd yng Nghymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Er iddo weithio yn y pyllau glo ers ei fod yn 12 mlwydd oed cyn hyfforddi fel gof, penderfynodd y Cristion hwn fod rhaid iddo bregethu gair Duw. Dechreuodd hyfforddi i fod yn weinidog, ond un noson pan oedd yn gwedd茂o am 'fethiant' Cristnogaeth, trawsnewidiwyd ei fywyd pan ymwelodd Duw ag ef yn ei freuddwydion.
Daeth Roberts i'r amlwg fel pregethwr tra oedd adfywiad crefyddol De a Gorllewin Cymru yn dal i fod ar y lefelau cyntaf, yng Ngwanwyn 1904. Daeth e mor enwog fel bod s茂on am ei bresenoldeb mewn capel arbennig yn ddigon i ddenu cannoedd i'r man hwnnw.
Arloeswr Pregethu Tawel
Teimlais lawenydd anhraethol ac arswyd wrth ddod i bresenoldeb y Duw hollalluog...Cefais yr anrhydedd o siarad iddo wyneb-yn-wyneb fel y mae dyn yn siarad 芒'i gyfaill.
Evan Roberts
Serch hyn roedd ei bregethau yn wahanol iawn i'r rhai cryf, ymosodol, t芒n-a-brwmstan a'r pregethu mwy blodeuog, ffurfiol oedd yn nodweddiadol o gapeli Cymraeg y cyfnod. Roedd e'n dawel a myfyrgar, gan wahodd y gynulleidfa i gymeryd rhan a rhannu eu profiadau o'r Ysbryd Gl芒n.
Cafodd yr arddull hwn ymateb cryf. Cyhoeddodd eglwysi twf o 80,000 yn niferoedd eu cynulleidfaoedd, a dilynodd miloedd mwy wrth i bobl deithio dros Brydian ac Ewrop i glywed Roberts yn siarad. Roedd y papurau newydd yn llawn straeon amdano a'i ffrindiau, a sylweddolodd golygyddion yn fuan y gallant godi eu rhifau gwerthiant trwy gyhoeddi cofnodion dyddiol o'i helyntion.
Roedd effaith y diwygiad ar y gymdeithas gyfan yn syfrdanol mewn sawl ffordd. Gwelwyd cwymp sylweddol yn lefelau meddwi ac yng ngwerthiant alcohol wrth i filoedd ymwrthod ag yfed. Gostyngodd y lefel o dor-cyfraith hefyd wrth i bobl geisio byw bywydau mwy gonest a thalu eu dyledion. Dywedai cyflogwyr fod safon gwaith eu dynion wedi cynyddu. Yn 么l s么n roedd hyd yn oed y merlod oedd yn gweithio yn y pyllau glo wedi drysu oherwydd fod iaith anweddus y dynion oedd yn eu trin wedi gwella cymaint.
Wesley Cymraeg
Roedd hyd yn oed Lloyd George, AS Caernarfon ar y pryd, yn canmol Roberts yn fawr iawn. Roedd pobl ifanc yn arbennig yn cael eu atynnu i'w arddull arbennig ef o bregethu a chyn hir roedd ganddo gr诺p o ferched oedd yn ei ddilyn i bobman - roedd y papurau newydd yn cyhoeddi eu bod nhw wedi eu swyno gan y 'Wesley Cymraeg'.
Fe ddaeth yr arddull hwn o bregethu yn batrwm yr nifer fawr o bregethwyr yn y symudiad Pentecostaidd yn ei ddilyn, sydd bellach 芒 niferoedd o tua 115 miliwn dros y byd.
Yn anffodus, wedi ond blwyddyn yn llygaid y cyhoedd, roedd Roberts wedi blino'n lan a phenderfynodd ymddeol. Cyn bo hir trodd y diwygiad yn anhrefn llwyr, ond erbyn hynny roedd wedi gosod y sylfaen i adfywiad tebyg yn America, ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd wedyn.
Aeth i Loegr i orffwys lle bu'n byw am sawl blwyddyn cyn dychwelyd i Gymru. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghaerdydd, yn barddoni, cyn ei farwolaeth yn 1951. Roedd yn 72 mlwydd oed ac yn ddi-briod. 'p>
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn