Ysgolhaig a llenor amlochrog ac eang iawn ei orwelion oedd Pennar Davies. Ysgrifennodd gerddi, stor茂au byrion, nofelau a beirniadaethau llenyddol a diwinyddol.
Y ffydd Gristnogol oedd wrth wraidd ei waith, a defnyddiodd ei dalentau i ymchwilio a myfyrio drosti, yn aml mewn modd anuniongred. Roedd rhywioldeb, hefyd, yn bwysig iddo ac yn ei farddoniaeth a'i rhyddiaith fel ei gilydd roedd yn ymdrin ag eros yn ogystal ag agape.
Roedd yn ddyn agos-atoch, tawel ei ffordd gyda gw锚n fawr bob tro, ac roedd ei ddeallusrwydd a'i ewyllys da'n amlwg mewn pob sgwrs a gohebiaeth.
Gwreiddiau yn y Cymoedd
Ganwyd William Davies ym 1911 yn Aberpennar, pentref glofaol a roddodd yr enw Pennar iddo. Roedd ei dad yn l枚wr ac yn Gymro a'i fam yn ddi-Gymraeg, felly fe'i magwyd ar aelwyd Saesneg ei hiaith; dysgodd y Gymraeg yn ddyn ifanc.
Pan ddechreuodd farddoni yn ystod y pedwar degau yn Saesneg yr ysgrifennodd, gan ddefnyddio yr enw Davies Aberpennar, a dangosai gydymdeimlad mawr 芒'i gydoeswyr oedd yn gorfod llenydda yn yr iaith honno.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a graddiodd mewn Lladin ym 1932 a Saesneg ym 1933. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Balliol a Mansfield yn Rhydychen, ac yna ym Mhrifysgol Yale.
Gyrfa grefyddol
Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghaerdydd o 1943 ac yna yn Athro yng Ngholegau Bala-Bangor ac Aberhonddu. Ym 1952 fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Coffa, Aberhonddu, a parhaodd yn y swydd honno pan symudwyd y Coleg i Abertawe.
Priododd 芒 ffoadures o'r Almaen; un o'i feibion yw Meirion Pennar.
Dechreuodd farddoni'n y Gymraeg tua 1948, o dan ddylanwad Cylch Cadwgan, grwp bychan o lenorion a oedd yn arfer cyfarfod yng nghartref ei gyfaill J.Gwyn Griffiths yn y Rhondda; ceir nifer o'i gerddi cynnar yn yr antholeg Cerddi Cadwgan (1953).
Bardd a nofelydd
Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi, sef Cinio'r Cythraul (1946), Naw Wfft (1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (1961), Y Tlws yn y Lotws (1971) a Llef (1987).
Mae'r cyfrolau hyn yn cynnwys caneuon serch tyner dros ben heb fod yn sentimental, yn ogystal 芒 cherddi crefyddol sy'n gyforiog o ddelweddaeth synhwyrus. Un o'u nodweddion yw ei allu i grybwyll pethau hyddysg, esoterig hyd yn oed, ochr-yn-ochr 芒 phethau pob dydd.
Mae'r un cymysgedd o dynerwch a symbolaeth fytholegol yn nodweddu rhyddiaith Pennar Davies.
Hunan-ymchwil
Dyddiadur ysbrydol yw Cudd fy Meia (1957), cyfrol sy'n llawn o hunan-ymchwiliad digymrodedd.
Astudiaeth o seicoleg diwygiwr crefyddol yw'r nofel Anadl o'r Ucheldir (1958), tra bod Caregl Nwyf yn gasgliad o straeon a Meibion Darogan (1968) yn parhau ei hunan-ymchwiliad a'i ddiddordeb mewn symbolaeth.
Yr aeddfetaf o'r gwethiau hyn yw Mabinogi Mwys (1979), portread o briodas g诺r ifanc yng nghyd-destun y Gymru gyfoes.
Mae Gwas y Gwaredwr (1991) yn cwblhau triawd o nofelau sy'n delio 芒 chrefydd ddiwygiadol. Stor茂au sydd yn y gyfrol Llais y Durtur (1985).
Ymhlith gweithiau diwinyddol Pennar Davies mae Y Brenin Alltud (1974) a Rhwng Chwedl a Chredo (1966).
Bu farw yr awdur yn Abertawe ym 1996.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn