Ray Gravell - g诺r sydd wedi'i alw yn gawr cydnerth y meysydd rygbi a chawr addfwyn ei aelwyd.
Yn 23 oed, chwaraeodd Ray Gravell ei g锚m gyntaf dros Gymru yn Ffrainc ym 1975, yn un o bum cap newydd. Yr oedd yn un o'r canolwyr mwyaf grymus i gynrychioli Cymru erioed. Ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 1980 chwaraeodd yn y pedair g锚m brawf. Bu'n gapten Llanelli o 1980 tan 1982.
Meddai Ray:
Am ei Dad: "Fe oedd fy arwr i. Yr hen foi. Colier. O'dd e'n ddyn cryf, o'dd e'n ddyn dewr. Yn gawr o ddyn."
Ond lladdodd ei dad ei hun ar y mynydd ger eu cartref uwchben Cydweli pan oedd Ray yn ei arddegau.
"Roeddwn i wedi colli nhad. Argol fawredd. O'dd e'n ddiwedd y mywyd i."
Am ei fro:
Roedd Ray yn dad ei hun ac yn byw gyda Mari ei wraig yn y bwthyn ar y mynydd lle cariodd ei dad ei gelfi i gyd ar ei gefn o'r t欧 cyngor lle'r oedd yn byw.
"Mae 'nghalon i ynghlwm i'r lle yma a fi'n credu mod i mewn ffordd yn gwireddu breuddwyd fy nhad yn dwyn y teulu lan yma." meddai ychydig flynyddoedd cyn iddo farw.
"Mae'r golygfeydd yn anhygoel a chi'n gweld hanes dim ond o edrych mas o 'ma - yn ddiwylliannol ac yn ddiwydiannol. Fi'n edrych mas bob dydd ac mae'r olygfa'n wahanol. . . Fferm Gwenllian, Ynys B欧r, Penrhyn G诺yr, Dinbych y Pysgod, Cydweli . . . Fi wedi gweld Niagra, Mount Fuji, sdim gwell i gael na hyn."
Bod yn Dad:
Cofiai eni ei ddwy ferch, Manon a Gwenan:
"Oeddwn i ymhell i mewn i'r canol oed - 44 - ac roedd dod yn dad yn brofiad hollol newydd i mi, ond dyma brofiad gorau mywyd i. Fi'n meddwl i fi brofi mwy o gael bod yn bresennol yn ystod y genedigaethau. Fi'n teimlo'n freintiedig iawn. Dyma brofiad mwya' mywyd i. Pan wnes i chwarae dros Gymru, chwarae g锚m oeddwn i, ond bywyd yw hyn.
Dysgu oddi wrth ei gilydd:
"Wy'n dysgu cymaint oddi wrthyn nhw. Fi hefyd yn trial dysgu rhywbeth iddyn nhw. Dwi'n trial trosglwyddo hanes y lle 'ma iddyn nhw."
Darlledwr:
Pan fo'r golau gwyrdd yn mynd ymlaen yn y stiwdio roedd fel y chwiban ar gae rygbi.
Am ei raglen yn y bore:
Rydyn ni'n gwrando ar lais y bobol. Yn mynd at y bobol eu hunain.
Gorllewinwr:
"'West is best' - mae Cymru gyfan yn y Gorllewin!"
Am rygbi:
"Bu'n ddyhead gen i erioed chwarae dros Lanelli. Bu'n freuddwyd gan fy Nhad y byddwn i'n chwarae dros Gymru. Dyma'r unig glwb i mi chwarae iddo erioed - yr unig glwb y breuddwydiais am eu cynrychioli. Cefais ddeuddeng mlynedd o bleser pur 'da'r Scarlets - tymhorau o lawenydd, o gyflawni potensial, o iwfforia, a thamaid bach o dristwch hefyd."
Yr oedd yn aelod o d卯m Llanelli a drechodd y Crysau Duon o Seland Newydd yn 1972. Ymunodd 芒'r 成人论坛 yn 1985 gan actio yn y ffilm Gymraeg, Bonner. Bu hefyd yn blismon yn y ddrama ddogfen am Operation T芒n. Bu'n darlledu rhaglen foreol ar 成人论坛 Radio Cymru i'r de orllewin am sawl blwyddyn cyn iddo farw.
Dyn y stryd:
Enwyd stryd ar ei 么l ym Mynydd y Garreg. Off Horeb Road oedd yr enw arni cynt.
"Yr oedd yma lethr yma yr oedd pawb yn ei alw yn Llethr Raymond ond mae hyn yn swyddogol. Mae'n ardal hyfryd gyda hen chwarel a digonedd o fywyd gwyllt. Mae cael fy enw ar y lle yn brofiad gwych."
Pan ofynnwyd i Ray gan y Western Mail pa lyfr fyddai o'n mynd gydag ef i'r lleuad dewisodd Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis - y llyfr cyntaf iddo'i ddarllen yn yr Ysgol Ramadeg.
"Heb fod yn hir wedyn darllenais Mae Theomemphus yn Hen gan Dafydd Rowlands".
Dewisodd fel ei hoff lyfr chwaraeon, gofiant Rocky Marciano, arwr ei dad.
Ers mis Mawrth 2004, bu Ray Gravell yn darlledu rhaglen foreol ar 成人论坛 Radio Cymru i'r de orllewin ac yn ystod pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007 darlledwyd rhaglenni arbennig gan yr arwr rygbi a'r darlledwr.
Bu farw Ray Gravell tra ar wyliau teuluol yn Sbaen ar 31 Hydref, 2007 yn 56 oed. Mae'n gadael gwraig Mari, a dwy ferch, Gwenan a Manon.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2008 roedd cydweithwyr a chyfoedion yn cofio Ray Gravell gyda chyngerdd yn y pafiliwn.
Hefyd bu trigolion Mynyddygarreg yn talu teyrnged iddo yn Theatr y Maes.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn