Fe ruodd y gyrrwr tawel, diymhongar ond athrylithgar yma i mewn i fyd Fformiwla Un yn 1974 ond cyn cyrraedd uchelfannau Pencampwriaethau'r Byd, daeth ei fywyd i ben yn gynnar mewn damwain tra'n rasio yn 1977.
Ganwyd Thomas Maldwyn Pryce yn Rhuthin a bu farw ar drac Kyalami, De Affrica ar 5 Mawrth 1977.
Yn ei 27 mlynedd rhoddodd Gymru ar fap y byd rasio ceir rhyngwladol ac mae nifer yn grediniol y byddai wedi dod yn Bencampwr Fformiwla Un y Byd.
Dri deg mlynedd wedi ei farwolaeth, mae'n dal i gael ei gofio fel un o hoff feibion Rhuthun ac mae cynlluniau ar droed i greu cofeb iddo yn y dref, fel yr adroddodd Newyddion Ar-lein y 成人论坛.
Gyda cheir hynod bwerus, diffygion diogelwch ac agwedd ddi-hid at gadw'r dorf a'r swyddogion draw oddi wrth y trac, roedd rasio ceir cyflym yn chwaraeon peryglus iawn yn y 1970au.
Damwain
Lladdwyd Pryce yn un o ddamweiniau mwyaf bis芒r y gamp. Tra'n rasio ar hyd y trac yn Kyalami, methodd 芒 llywio heibio i swyddog ifanc oedd yn rhedeg dros y trac i ddiffodd t芒n ar gar cyd aelod i Pryce yn nh卯m Shadow, Renzo Zorzi.
Lladdwyd y swyddog 19 oed, Jansen van Vuuren, yn syth. Trawyd Pryce ar ei ben gan y diffoddwr t芒n trwm roedd van Vuuren yn ei gario, ac fe'i lladdwyd yntau yn y fan a'r lle hefyd.
Parhaodd ei gar i lithro ar hyd y trac at y gornel nesaf, gan daro Ligier Jacques Laffites allan o'r ras cyn dod i stop.
Bu'r ddamwain yn gysgod anffodus dros yrfa fer Tom Pryce, ond roedd wedi llwyddo i ennill enw da yn y byd Fformiwla 1 a denu sylw timau mwya'r byd ar y pryd.
Cofio
Roedd ffrind bore oes iddo, Cledwyn Ashford, yn ei gwmni pan gafodd un o'i fuddugoliaethau enwoca yn 1975.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion Ar-lein, dywedodd: "Y peth gora weles i oedd fo'n ennill Ras y Pencampwyr yn Brands Hatch.
"Roeddwn i yno, yn y pit efo'i dad. Diwrnod bendigedig. Daeth o allan o'r car fel tasa fo'n unrhyw ddiwrnod arall, doedd na ddim ffws efo fo.
"Pan wnaeth o ennill y ras roedd o wir yn bencampwr. Petai wedi cael byw fe fyddai'n bencampwr byd. Does dim dwywaith" meddai am Pryce - yr unig Gymro i ennill Grand Prix Fformiwla Un.
"Yn ei gyfnod o'r dechrau roedd yn cael ei gyfri fel un o'r goreuon yn y maes," meddai Dewi Rogers sy'n ysgrifennu cyfrol amdano.
"O fewn tair blynedd a hanner mi aeth o o'i ras gyntaf i rasio Fformiwla 1. Ar y pryd hwn oedd y cyfnod cyflyma."
Mab i blismon oedd Pryce ac roedd yn 21 oed cyn iddo ddechrau o ddifri ar rasio ceir ond, wedi dechrau gyda Formula Ford yn 1970, cododd drwy'r rhengoedd yn gyflym iawn, gan ymuno gyda Shadow F1 yn 1974.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn