Ganwyd Wayne Hennessey ar 24 Ionawr 1987 a magwyd ym Miwmares. Mynychodd Ysgol Gynradd Biwmares ac Ysgol David Hughes.
Wayne sy'n s么n sut ddaru ei yrfa gychwyn:
"Roeddwn wastad yn g么l-geidwad a dweud y gwir, er mi wnes i chwarae fel amddiffynnwr weithiau pan roeddwn yn ifanc.
Roeddwn yn ffan fawr o Everton yn blentyn gan fy mod i wir yn edmygu Neville Southall. Roedd o'n g么l-geidwad arbennig i Gymru.
Mi wnes i gychwyn chwarae i d卯m fy ysgol gynradd, ond pan roeddwn yn fy mlwyddyn olaf daeth sgowt o Manchester United i fy ngweld. 'Da chi byth yn gwybod pwy sy'n gwylio chi mewn gem; daeth dyn o'r enw John Owen draw i siarad efo fi a fy nhad a gofyn os oeddwn efo diddordeb mewn dod i Fanceinion am dreialon gyda'r clwb. Breuddwyd pob p锚l-droediwr ifanc!
Mi gefais y cyfle i arwyddo cytundeb i Man U, felly nid oedd yn bosib i mi chwarae i d卯m fy ysgol neu un lleol rhag ofn i mi gael anaf. Roedd fy nhad yn wych - yn gyrru mi i Fanceinion bron pob penwythnos.
Yna, mi wnes i symud i Manchester City, gweithio fy ffordd trwy eu hacademi cyn chwarae am y tro gyntaf fel chwaraewr proffesiynol i Wolves. Roedd o mewn g锚m rownd gynderfynol i'r 'play-offs' i gyrraedd y Championship, felly 'bach o bwysau arna'i! Er i'r t卯m golli, mi wnes i chwarae'n dda a dwi dal yn dewis gyntaf fel g么l-geidwad iddynt, er i mi fod yn eithaf ifanc yn 22.
Rydym am chwarae yn y Premiership r诺an a dwi methu aros. Dwi hefyd yn hapus iawn i fod yn aelod o sgwad Cymru. Mae'r gaffer wedi dweud wrthym ei bod yn teimlo bod gan y chwaraewyr ifanc siawns da o fod yn llwyddiannus, sy'n wych. Rydym yn gwneud yn dda, yn enwedig gyda thri chwaraewr o Wolves yn y t卯m! Un o fy nhargedau fel chwaraewr yw cyrraedd pencampwriaeth p锚l-droed y byd neu'r Euros.
Y prif beth am chwarae p锚l-droed, yn enwedig pan rydych yn ifanc, yw i'w fwynhau. Os oes gennych chi'r dalent, mi wneith o ddangos ei hun. Fel g么l-geidwad proffesiynol, dwi dal yn gorfod ymarfer bopeth; cicio, taflu, croesi'r b锚l. Ond y prif beth yw fy mod dal i fwynhau.
Mae fy chwaer dal i fyw yn Llanddona ac mae'n bleser gyrru adref heibio i Fangor a Biwmares. Dwi'n falch iawn o ble dwi'n dod."
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn