William Williams, Pantycelyn, Y P锚r Ganiedydd', emynydd mwyaf yr iaith Gymraeg ac un o dadau Methodistiaeth yng Nghymru.
Emynydd mwyaf yr iaith Gymraeg
Emynydd mwyaf yr iaith Gymraeg yn ddi-au oedd William Williams - yn fardd a ysgrifennodd rhai o'r emynau grymusaf a chofiadwy sydd gennym.
Pob tro y cenir, boed mewn capel neu mewn stadiwm rygbi, 'Guide me, O Thou great Jehovah' i'r d么n 'Cwm Rhondda' rydym yn canu geiriau anfarwol 'Y P锚r Ganiedydd', er na 诺yr pawb pwy yw eu hawdur.
Ym marn Saunders Lewis, a geisiodd ddehongli ei waith yng ngoleuni cyfriniaeth Gatholig yr oesoedd canol, Williams oedd y Rhamantydd cyntaf yn llenyddiaeth Ewrop - ond nid oes rhaid derbyn hynny i'w werthfawrogi'n llawn.
Y ffermdy enwog
Ganwyd William Williams ym 1717 yng Nghefn-coed ger Pentre-t欧-gwyn ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn yn Sir Gaerfyrddin, un o gyrchfannau enwocaf Cymru erbyn hyn.
Wedi marwolaeth ei dad, symudodd ei fam i'w hen gartref, Pantycelyn, fferm gyfagos; gan ei fod wedi treulio gweddill ei oes yno, o hynny ymlaen fe'i adwaenir fel Williams Pantycelyn.
Addysgwyd y bachgen yn lleol ac yn Athrofa Llwynllwyd ger Talgarth yn Sir Frycheiniog.
Gweithgareddau crefyddol
Cafodd dr枚edigaeth grefyddol tra'n gwrando ar bregeth gan Howel Harris.
Gwrthodwyd urddau offeiriad iddo ar gyfrif ei weithgareddau Methodistaidd. Serch hynny, daeth yn bregethwr teithiol, yn sefydlydd ac yn arolygydd y seiadau Methodistaidd, ac yn arweinydd (gyda Harris a Daniel Rowland) Methodistiaeth Cymru.
Yr oedd ei incwm fel ffermwr, meistr tir, cyhoeddwr ac, efallai, masnachwr te, yn ddigonol i gadw ei deulu yn weddol gysurus - ac i roi iddo yr hamdden i lenydda.
Emynydd toreithiog
Fel emynydd roedd yn gynhyrchiol dros ben. Ymddangosodd chwe casgliad o Aleluia rhwng 1744 a 1747 a'r chwech mewn un gyfrol ym 1749.
Wedyn daeth Hosanna i Fab Dafydd (1751,1754), Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol (1759), Caniadau y rhai sydd ar y M么r o Wydr (1762), Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763), Gloria in Excelsis (1771), Ychydig Hymnau (1774), a Rhai Hymnau Newyddion (1781); daeth rhannau ychwangeol o'r wasg hefyd.
Ysgrifennodd Williams ddau gasgliad o emynau Saesneg: Hosannah to the Son of David (1759) a Gloria in Excelsis (1772).
Bardd pwysica'r iaith?
Yn 么l rhai beirniaid, Williams yw'r bardd pwysicaf yn yr iaith Gymraeg. Mae e'n mynegi profiadau crefyddol gyda chyfoeth o symbolau ac uniongyrchedd digyffelyb.
Eto i gyd, rhaid cyfaddef ei fod e'n anwastad yn aml, ac yn fwriadol ddiofal yn ei ddefnydd o iaith.
Nid ymgyfyngodd i gyfansoddi emynau'n unig. Yn ei gerdd hir Golwg ar Deyrnas Crist (1756) a Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764) ysgrifennodd farddoniaeth o'r safon uchaf.
Lluniodd hefyd nifer o gerddi byr, gan gynnwys deng marwnad ar hugain ar achlysur marw ei gyd-Fethodistiaid.
Gresyn nad yw ei farddoniaeth yn cael ei ddarllen heddiw ond gan fyfyrwyr.
Llenor rhyddiaith
Roedd Pantycelyn yn ryddieithwr o fri. Ei weithiau mwyaf uchelgeisiol oedd Pantheologia neu Hanes holl Grefyddau'r Byd (1762), Ductor Nuptiarium neu Gyfarwyddwr Priodas (1777) a Drws y Society Profiad (1777).
Pwrpas pob un o'r rhain oedd hyrwyddo datblygiad ysbrydol ei gyd-Fethodistiaid, yn union fel y bwriedid ei emynau i'w canu gan y cynulleidfaoedd.
Cyhoeddod bron 90 o lyfrau a phamffledi yn ystod ei oes.
Bu farw ym 1791. Mae capel coffa William Williams (lle mae'r gwasanaethau yn Saesneg) yn Stryd Fawr Llanymddyfri ac mae'r Ysgol Gyfun yn y dref yn dwyn ei enw; ceir manylion am ei fywyd a'i waith yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Ond mae cof am Bantycelyn yn cael ei gadw orau pan bo un o'i emynau yn cael ei chanu gan ei gyd-wladwyr. Efe, yn ddi-os, yw'r emynwr sy'n apelio fwyaf at galonnau a meddwl y Cymry.
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn